Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.
133 Wele mor ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodyr ynghyd! 2 Y mae fel yr ennaint gwerthfawr ar y pen, yn disgyn ar hyd y farf, sef barf Aaron; yr hwn oedd yn disgyn ar hyd ymyl ei wisgoedd ef: 3 Fel gwlith Hermon, ac fel y gwlith yn disgyn ar fynyddoedd Seion: canys yno y gorchmynnodd yr Arglwydd y fendith, sef bywyd yn dragywydd.
24 Oherwydd hyn yr aeth Daniel at Arioch, yr hwn a osodasai y brenin i ddifetha doethion Babilon: efe a aeth, ac a ddywedodd wrtho fel hyn; Na ddifetha ddoethion Babilon; dwg fi o flaen y brenin, a mi a ddangosaf i’r brenin y dehongliad. 25 Yna y dug Arioch Daniel o flaen y brenin ar frys, ac a ddywedodd wrtho fel hyn; Cefais ŵr o blant caethiwed Jwda, yr hwn a fynega i’r brenin y dehongliad. 26 Atebodd y brenin, a dywedodd wrth Daniel, yr hwn yr oedd ei enw Beltesassar, A elli di fynegi i mi y breuddwyd a welais, a’i ddehongliad? 27 Atebodd Daniel o flaen y brenin, a dywedodd, Ni all doethion, astronomyddion, dewiniaid, na brudwyr, ddangos i’r brenin y dirgelwch y mae y brenin yn ei ofyn: 28 Ond y mae Duw yn y nefoedd yn datguddio dirgeledigaethau, ac a fynegodd i’r brenin Nebuchodonosor beth a fydd yn y dyddiau diwethaf. Dy freuddwyd a gweledigaethau dy ben yn dy wely ydoedd hyn yma: 29 Ti frenin, dy feddyliau a godasant yn dy ben ar dy wely, beth oedd i ddyfod ar ôl hyn: a’r hwn sydd yn datguddio dirgeledigaethau, a fynegodd i ti beth a fydd. 30 Minnau hefyd, nid oherwydd y doethineb sydd ynof fi yn fwy na neb byw, y datguddiwyd i mi y dirgelwch hwn: ond o’u hachos hwynt y rhai a fynegant y dehongliad i’r brenin, ac fel y gwybyddit feddyliau dy galon.
31 Ti, frenin, oeddit yn gweled, ac wele ryw ddelw fawr: y ddelw fawr hon, yr oedd ei disgleirdeb yn rhagorol, oedd yn sefyll gyferbyn â thi; a’r olwg arni ydoedd ofnadwy. 32 Pen y ddelw hon ydoedd o aur da, ei dwyfron a’i breichiau o arian, ei bol a’i morddwydydd o bres, 33 Ei choesau o haearn, ei thraed oedd beth ohonynt o haearn, a pheth ohonynt o bridd. 34 Edrych yr oeddit hyd oni thorrwyd allan garreg, nid trwy waith dwylo, a hi a drawodd y ddelw ar ei thraed o haearn a phridd, ac a’u maluriodd hwynt. 35 Yna yr haearn, y pridd, y pres, yr arian, a’r aur, a gydfaluriasant, ac oeddynt fel mân us yn dyfod o’r lloriau dyrnu haf; a’r gwynt a’u dug hwynt ymaith, ac ni chaed lle iddynt; a’r garreg yr hon a drawodd y ddelw a aeth yn fynydd mawr, ac a lanwodd yr holl ddaear.
36 Dyma y breuddwyd: dywedwn hefyd ei ddehongliad o flaen y brenin. 37 Ti, frenin, wyt frenin brenhinoedd: canys Duw y nefoedd a roddodd i ti frenhiniaeth, gallu, a nerth, a gogoniant. 38 A pha le bynnag y preswylia plant dynion, efe a roddes dan dy law fwystfilod y maes, ac ehediaid y nefoedd, ac a’th osododd di yn arglwydd arnynt oll: ti yw y pen aur hwnnw. 39 Ac ar dy ôl di y cyfyd brenhiniaeth arall is na thi, a thrydedd frenhiniaeth arall o bres, yr hon a lywodraetha ar yr holl ddaear. 40 Bydd hefyd y bedwaredd frenhiniaeth yn gref fel haearn: canys yr haearn a ddryllia, ac a ddofa bob peth: ac fel haearn, yr hwn a ddryllia bob peth, y maluria ac y dryllia hi. 41 A lle y gwelaist y traed a’r bysedd, peth ohonynt o bridd crochenydd, a pheth ohonynt o haearn, brenhiniaeth ranedig fydd; a bydd ynddi beth o gryfder haearn, oherwydd gweled ohonot haearn wedi ei gymysgu â phridd cleilyd. 42 Ac fel yr ydoedd bysedd y traed, peth o haearn, a pheth o bridd; felly y bydd y frenhiniaeth, o ran yn gref, ac o ran yn frau. 43 A lle y gwelaist haearn wedi ei gymysgu â phridd cleilyd, ymgymysgant â had dyn; ond ni lynant y naill wrth y llall, megis nad ymgymysga haearn â phridd. 44 Ac yn nyddiau y brenhinoedd hyn, y cyfyd Duw y nefoedd frenhiniaeth, yr hon ni ddistrywir byth: a’r frenhiniaeth ni adewir i bobl eraill; ond hi a faluria, ac a dreulia yr holl freniniaethau hyn, a hi a saif yn dragywydd. 45 Lle y gwelaist dorri carreg o’r mynydd, yr hon ni thorrwyd â llaw, a malurio ohoni yr haearn, y pres, y pridd, yr arian, a’r aur; hysbysodd y Duw mawr i’r brenin beth a fydd wedi hyn: felly y breuddwyd sydd wir, a’i ddehongliad yn ffyddlon.
46 Yna y syrthiodd Nebuchodonosor y brenin ar ei wyneb, ac a addolodd Daniel; gorchmynnodd hefyd am offrymu iddo offrwm ac arogl‐darth. 47 Atebodd y brenin a dywedodd wrth Daniel, Mewn gwirionedd y gwn mai eich Duw chwi yw Duw y duwiau, ac Arglwydd y brenhinoedd, a datguddydd dirgeledigaethau, oherwydd medru ohonot ddatguddio y dirgelwch hwn. 48 Yna y brenin a fawrygodd Daniel, ac a roddes iddo roddion mawrion lawer; ac efe a’i gwnaeth ef yn bennaeth ar holl dalaith Babilon, ac yn ben i’r swyddogion ar holl ddoethion Babilon. 49 Yna Daniel a ymbiliodd â’r brenin, ac yntau a osododd Sadrach, Mesach, ac Abednego ar lywodraeth talaith Babilon: ond Daniel a eisteddodd ym mhorth y brenin.
44 A’r Iesu a lefodd ac a ddywedodd, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, nid yw yn credu ynof fi, ond yn yr hwn a’m hanfonodd i. 45 A’r hwn sydd yn fy ngweled i, sydd yn gweled yr hwn a’m danfonodd i. 46 Mi a ddeuthum yn oleuni i’r byd, fel y bo i bob un a’r sydd yn credu ynof fi, nad arhoso yn y tywyllwch. 47 Ac os clyw neb fy ngeiriau, ac ni chred, myfi nid wyf yn ei farnu ef: canys ni ddeuthum i farnu’r byd, eithr i achub y byd. 48 Yr hwn sydd yn fy nirmygu i, ac heb dderbyn fy ngeiriau, y mae iddo un yn ei farnu: y gair a leferais i, hwnnw a’i barn ef yn y dydd diwethaf. 49 Canys myfi ni leferais ohonof fy hun: ond y Tad yr hwn a’m hanfonodd i, efe a roddes orchymyn i mi, beth a ddywedwn, a pha beth a lefarwn. 50 Ac mi a wn fod ei orchymyn ef yn fywyd tragwyddol: am hynny y pethau yr wyf fi yn eu llefaru, fel y dywedodd y Tad wrthyf, felly yr wyf yn llefaru.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.