Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Exodus 20:1-17

20 A Duw a lefarodd yr holl eiriau hyn, gan ddywedyd, Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a’th ddug di allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed. Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i. Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a’r y sydd yn y nefoedd uchod, nac a’r y sydd yn y ddaear isod, nac a’r sydd yn y dwfr tan y ddaear. Nac ymgryma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw, wyf Dduw eiddigus; yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai a’m casânt; Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o’r rhai a’m carant, ac a gadwant fy ngorchmynion. Na chymer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer: canys nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymero ei enw ef yn ofer. Cofia y dydd Saboth, i’w sancteiddio ef. Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith: 10 Ond y seithfed dydd yw Saboth yr Arglwydd dy Dduw: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na’th fab, na’th ferch, na’th wasanaethwr, na’th wasanaethferch, na’th anifail, na’th ddieithr ddyn a fyddo o fewn dy byrth: 11 Oherwydd mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y nefoedd a’r ddaear, y môr, a’r hyn oll sydd ynddynt; ac a orffwysodd y seithfed dydd: am hynny y bendithiodd yr Arglwydd y dydd Saboth, ac a’i sancteiddiodd ef.

12 Anrhydedda dy dad a’th fam; fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti. 13 Na ladd. 14 Na wna odineb. 15 Na ladrata. 16 Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymydog. 17 Na chwennych dŷ dy gymydog, na chwennych wraig dy gymydog, na’i wasanaethwr, na’i wasanaethferch, na’i ych, na’i asyn, na dim a’r sydd eiddo dy gymydog.

Salmau 19

I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

19 Y Nefoedd sydd yn datgan gogoniant Duw; a’r ffurfafen sydd yn mynegi gwaith ei ddwylo ef. Dydd i ddydd a draetha ymadrodd, a nos i nos a ddengys wybodaeth. Nid oes iaith nac ymadrodd, lle ni chlybuwyd eu lleferydd hwynt. Eu llinyn a aeth trwy yr holl ddaear, a’u geiriau hyd eithafoedd byd: i’r haul y gosododd efe babell ynddynt; Yr hwn sydd fel gŵr priod yn dyfod allan o’i ystafell: ac a ymlawenha fel cawr i redeg gyrfa. O eithaf y nefoedd y mae ei fynediad ef allan, a’i amgylchiad hyd eu heithafoedd hwynt: ac nid ymgudd dim oddi wrth ei wres ef. Cyfraith yr Arglwydd sydd berffaith, yn troi yr enaid: tystiolaeth yr Arglwydd sydd sicr, ac yn gwneuthur y gwirion yn ddoeth. Deddfau yr Arglwydd sydd uniawn, yn llawenhau y galon: gorchymyn yr Arglwydd sydd bur, yn goleuo y llygaid. Ofn yr Arglwydd sydd lân, yn parhau yn dragywydd; barnau yr Arglwydd ydynt wirionedd, cyfiawn ydynt i gyd. 10 Mwy dymunol ŷnt nag aur, ie, nag aur coeth lawer: melysach hefyd na’r mêl, ac na diferiad diliau mêl. 11 Ynddynt hwy hefyd y rhybuddir dy was: o’u cadw y mae gwobr lawer. 12 Pwy a ddeall ei gamweddau? glanha fi oddi wrth fy meiau cuddiedig. 13 Atal hefyd dy was oddi wrth bechodau rhyfygus: na arglwyddiaethont arnaf: yna y’m perffeithir, ac y’m glanheir oddi wrth anwiredd lawer. 14 Bydded ymadroddion fy ngenau, a myfyrdod fy nghalon, yn gymeradwy ger dy fron, O Arglwydd, fy nghraig a’m prynwr.

1 Corinthiaid 1:18-25

18 Canys yr ymadrodd am y groes, i’r rhai colledig, ynfydrwydd yw; eithr i ni’r rhai cadwedig, nerth Duw ydyw. 19 Canys ysgrifenedig yw, Mi a ddifethaf ddoethineb y doethion, a deall y rhai deallus a ddileaf. 20 Pa le y mae’r doeth? pa le mae’r ysgrifennydd? pa le y mae ymholydd y byd hwn? oni wnaeth Duw ddoethineb y byd hwn yn ynfydrwydd? 21 Canys oherwydd yn noethineb Duw, nad adnabu’r byd trwy ddoethineb mo Dduw, fe welodd Duw yn dda trwy ffolineb pregethu gadw y rhai sydd yn credu. 22 Oblegid y mae’r Iddewon yn gofyn arwydd, a’r Groegwyr yn ceisio doethineb: 23 Eithr nyni ydym yn pregethu Crist wedi ei groeshoelio, i’r Iddewon yn dramgwydd, ac i’r Groegwyr yn ffolineb; 24 Ond iddynt hwy y rhai a alwyd, Iddewon a Groegwyr, yn Grist gallu Duw, a doethineb Duw. 25 Canys y mae ffolineb Duw yn ddoethach na dynion; a gwendid Duw yn gryfach na dynion.

Ioan 2:13-22

13 A phasg yr Iddewon oedd yn agos: a’r Iesu a aeth i fyny i Jerwsalem; 14 Ac a gafodd yn y deml rai yn gwerthu ychen, a defaid, a cholomennod, a’r newidwyr arian yn eistedd. 15 Ac wedi gwneuthur fflangell o fân reffynnau, efe a’u gyrrodd hwynt oll allan o’r deml, y defaid hefyd a’r ychen; ac a dywalltodd allan arian y newidwyr, ac a ddymchwelodd y byrddau: 16 Ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod, Dygwch y rhai hyn oddi yma; na wnewch dŷ fy Nhad i yn dŷ marchnad. 17 A’i ddisgyblion a gofiasant fod yn ysgrifenedig, Sêl dy dŷ di a’m hysodd i.

18 Yna yr Iddewon a atebasant ac a ddywedasant wrtho ef, Pa arwydd yr wyt ti yn ei ddangos i ni, gan dy fod yn gwneuthur y pethau hyn? 19 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Dinistriwch y deml hon, ac mewn tridiau y cyfodaf hi. 20 Yna yr Iddewon a ddywedasant, Chwe blynedd a deugain y buwyd yn adeiladu y deml hon; ac a gyfodi di hi mewn tridiau? 21 Ond efe a ddywedasai am deml ei gorff. 22 Am hynny pan gyfododd efe o feirw, ei ddisgyblion ef a gofiasant iddo ddywedyd hyn wrthynt hwy: a hwy a gredasant yr ysgrythur, a’r gair a ddywedasai yr Iesu.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.