Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Salm Dafydd.
35 Dadlau fy nadl, Arglwydd, yn erbyn y rhai a ddadleuant i’m herbyn: ymladd â’r rhai a ymladdant â mi. 2 Ymafael yn y darian a’r astalch, a chyfod i’m cymorth. 3 Dwg allan y waywffon, ac argaea yn erbyn fy erlidwyr: dywed wrth fy enaid, Myfi yw dy iachawdwriaeth. 4 Cywilyddier a gwaradwydder y rhai a geisiant fy enaid: ymchweler yn eu hôl a gwarthaer y sawl a fwriadant fy nrygu. 5 Byddant fel us o flaen y gwynt: ac angel yr Arglwydd yn eu herlid. 6 Bydded eu ffordd yn dywyllwch ac yn llithrigfa: ac angel yr Arglwydd yn eu hymlid. 7 Canys heb achos y cuddiasant eu rhwyd i mi mewn pydew, yr hwn heb achos a gloddiasant i’m henaid. 8 Deued arno ddistryw ni wypo; a’i rwyd yr hon a guddiodd, a’i dalio: syrthied yn y distryw hwnnw. 9 A llawenycha fy enaid i yn yr Arglwydd: efe a ymhyfryda yn ei iachawdwriaeth ef. 10 Fy holl esgyrn a ddywedant, O Arglwydd, pwy sydd fel tydi, yn gwaredu y tlawd rhag yr hwn a fyddo drech nag ef: y truan hefyd a’r tlawd, rhag y neb a’i hysbeilio?
22 A dig Duw a enynnodd, am iddo ef fyned: ac angel yr Arglwydd a safodd ar y ffordd i’w wrthwynebu ef; ac efe yn marchogaeth ar ei asen, a’i ddau lanc gydag ef. 23 A’r asen a welodd angel yr Arglwydd yn sefyll ar y ffordd, a’i gleddyf yn noeth yn ei law: a chiliodd yr asen allan o’r ffordd, ac a aeth i’r maes: a thrawodd Balaam yr asen, i’w throi i’r ffordd. 24 Ac angel yr Arglwydd a safodd ar lwybr y gwinllannoedd, a magwyr o’r ddeutu. 25 Pan welodd yr asen angel yr Arglwydd, yna hi a ymwasgodd at y fagwyr; ac a wasgodd droed Balaam wrth y fagwyr: ac efe a’i trawodd hi eilwaith. 26 Ac angel yr Arglwydd a aeth ymhellach; ac a safodd mewn lle cyfyng, lle nid oedd ffordd i gilio tua’r tu deau na’r tu aswy. 27 A gwelodd yr asen angel yr Arglwydd, ac a orweddodd dan Balaam: yna yr enynnodd dig Balaam, ac efe a drawodd yr asen â ffon. 28 A’r Arglwydd a agorodd safn yr asen; a hi a ddywedodd wrth Balaam, Beth a wneuthum i ti, pan drewaist fi y tair gwaith hyn?
32 Eithr mi a fynnwn i chwi fod yn ddiofal. Yr hwn sydd heb briodi, sydd yn gofalu am bethau’r Arglwydd, pa wedd y bodlona’r Arglwydd: 33 Ond y neb a wreicaodd, sydd yn gofalu am bethau’r byd, pa wedd y bodlona ei wraig. 34 Y mae gwahaniaeth hefyd rhwng gwraig a gwyry. Y mae’r hon sydd heb briodi, yn gofalu am y pethau sydd yn perthyn i’r Arglwydd, fel y byddo hi sanctaidd yng nghorff ac ysbryd: ac y mae’r hon sydd wedi priodi, yn gofalu am bethau bydol, pa fodd y rhynga hi fodd i’w gŵr. 35 A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd er llesâd i chwi eich hunain; nid i osod magl i chwi, eithr er mwyn gweddeidd‐dra, a dyfal lynu wrth yr Arglwydd yn ddiwahân. 36 Ond os yw neb yn tybied ei fod yn anweddaidd tuag at ei wyry, od â hi dros flodau ei hoedran, a bod yn rhaid gwneuthur felly; gwnaed a fynno, nid yw yn pechu: priodant. 37 Ond yr hwn sydd yn sefyll yn sicr yn ei galon, ac yn afraid iddo, ac â meddiant ganddo ar ei ewyllys ei hun, ac a roddodd ei fryd ar hynny yn ei galon, ar gadw ohono ei wyry; da y mae yn gwneuthur. 38 Ac am hynny, yr hwn sydd yn ei rhoddi yn briod, sydd yn gwneuthur yn dda; ond yr hwn nid yw yn ei rhoddi yn briod, sydd yn gwneuthur yn well. 39 Y mae gwraig yn rhwym wrth y gyfraith, tra fyddo byw ei gŵr: ond o bydd marw ei gŵr, y mae hi yn rhydd i briodi’r neb a fynno; yn unig yn yr Arglwydd. 40 Eithr dedwyddach yw hi os erys hi felly, yn fy marn i: ac yr ydwyf finnau yn tybied fod Ysbryd Duw gennyf.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.