Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 35:1-10

Salm Dafydd.

35 Dadlau fy nadl, Arglwydd, yn erbyn y rhai a ddadleuant i’m herbyn: ymladd â’r rhai a ymladdant â mi. Ymafael yn y darian a’r astalch, a chyfod i’m cymorth. Dwg allan y waywffon, ac argaea yn erbyn fy erlidwyr: dywed wrth fy enaid, Myfi yw dy iachawdwriaeth. Cywilyddier a gwaradwydder y rhai a geisiant fy enaid: ymchweler yn eu hôl a gwarthaer y sawl a fwriadant fy nrygu. Byddant fel us o flaen y gwynt: ac angel yr Arglwydd yn eu herlid. Bydded eu ffordd yn dywyllwch ac yn llithrigfa: ac angel yr Arglwydd yn eu hymlid. Canys heb achos y cuddiasant eu rhwyd i mi mewn pydew, yr hwn heb achos a gloddiasant i’m henaid. Deued arno ddistryw ni wypo; a’i rwyd yr hon a guddiodd, a’i dalio: syrthied yn y distryw hwnnw. A llawenycha fy enaid i yn yr Arglwydd: efe a ymhyfryda yn ei iachawdwriaeth ef. 10 Fy holl esgyrn a ddywedant, O Arglwydd, pwy sydd fel tydi, yn gwaredu y tlawd rhag yr hwn a fyddo drech nag ef: y truan hefyd a’r tlawd, rhag y neb a’i hysbeilio?

Numeri 22:1-21

22 Ameibion Israel a gychwynasant, ac a wersyllasant yn rhosydd Moab, am yr Iorddonen â Jericho.

A gwelodd Balac mab Sippor yr hyn oll a wnaethai Israel i’r Amoriaid. As ofnodd Moab rhag y bobl yn fawr; canys llawer oedd: a bu gyfyng ar Moab o achos meibion Israel. A dywedodd Moab wrth henuriaid Midian, Y gynulleidfa hon yn awr a lyfant ein holl amgylchoedd, fel y llyf yr ych wellt y maes. A Balac mab Sippor oedd frenin ar Moab yn yr amser hwnnw. Ac efe a anfonodd genhadau at Balaam mab Beor, i Pethor, (yr hon sydd wrth afon tir meibion ei bobl,) i’w gyrchu ef; gan ddywedyd, Wele bobl a ddaeth allan o’r Aifft: wele, y maent yn cuddio wyneb y ddaear; ac y maent yn aros ar fy nghyfer i. Yr awr hon, gan hynny, tyred, atolwg, melltithia i mi y bobl yma; canys cryfach ydynt na mi: ond odid mi allwn ei daro ef, a’u gyrru hwynt o’r tir: canys mi a wn mai bendigedig fydd yr hwn a fendithiech di, a melltigedig fydd yr hwn a felltithiech. A henuriaid Moab, a henuriaid Midian, a aethant, â gwobr dewiniaeth yn eu dwylo: daethant hefyd at Balaam, a dywedasant iddo eiriau Balac. A dywedodd yntau wrthynt, Lletywch yma heno; a rhoddaf i chwi ateb megis y llefaro yr Arglwydd wrthyf. A thywysogion Moab a arosasant gyda Balaam. A daeth Duw at Balaam, ac a ddywedodd Pwy yw y dynion hyn sydd gyda thi? 10 A dywedodd Balaam wrth Dduw, Balac mab Sippor, brenin Moab, a ddanfonodd ataf, gan ddywedyd, 11 Wele bobl wedi dyfod allan o’r Aifft, ac yn gorchuddio wyneb y ddaear: yr awr hon tyred, rhega hwynt i mi; felly ond odid y gallaf ryfela â hwynt, a’u gyrru allan. 12 A dywedodd Duw wrth Balaam, Na ddos gyda hwynt; na felltithia’r bobl: canys bendigedig ydynt. 13 A Balaam a gododd y bore, ac a ddywedodd wrth dywysogion Balac, Ewch i’ch gwlad: oblegid yr Arglwydd a nacaodd adael i mi fyned gyda chwi. 14 A thywysogion Moab a godasant, ac a ddaethant at Balac; ac a ddywedasant, Nacaodd Balaam ddyfod gyda ni.

15 A Balac a anfonodd eilwaith fwy o dywysogion, anrhydeddusach na’r rhai hyn. 16 A hwy a ddaethant at Balaam; ac a ddywedasant wrtho, Fel hyn y dywed Balac mab Sippor; Atolwg, na luddier di rhag dyfod ataf: 17 Canys gan anrhydeddu y’th anrhydeddaf yn fawr; a’r hyn oll a ddywedech wrthyf, a wnaf: tyred dithau, atolwg, rhega i mi y bobl hyn. 18 A Balaam a atebodd ac a ddywedodd wrth weision Balac, Pe rhoddai Balac i mi arian ac aur lonaid ei dŷ, ni allwn fyned dros air yr Arglwydd fy Nuw, i wneuthur na bychan na mawr. 19 Ond, atolwg, yn awr, arhoswch chwithau yma y nos hon; fel y caffwyf wybod beth a ddywedo yr Arglwydd wrthyf yn ychwaneg. 20 A daeth Duw at Balaam liw nos, a dywedodd wrtho, Os i’th gyrchu di y daeth y dynion hyn, cyfod, dos gyda hwynt: ac er hynny y peth a lefarwyf wrthyt, hynny a wnei di. 21 Yna y cododd Balaam yn fore, ac a gyfrwyodd ei asen, ac a aeth gyda thywysogion Moab.

Actau 21:17-26

17 Ac wedi ein dyfod i Jerwsalem, y brodyr a’n derbyniasant yn llawen. 18 A’r dydd nesaf yr aeth Paul gyda ni i mewn at Iago: a’r holl henuriaid a ddaethant yno. 19 Ac wedi iddo gyfarch gwell iddynt, efe a fynegodd iddynt, bob yn un ac un, bob peth a wnaethai Duw ymhlith y Cenhedloedd trwy ei weinidogaeth ef. 20 A phan glywsant, hwy a ogoneddasant yr Arglwydd, ac a ddywedasant wrtho, Ti a weli, frawd, pa sawl myrddiwn sydd o’r Iddewon y rhai a gredasant; ac y maent oll yn dwyn sêl i’r ddeddf. 21 A hwy a glywsant amdanat ti, dy fod di yn dysgu’r Iddewon oll, y rhai sydd ymysg y Cenhedloedd, i ymwrthod â Moses; ac yn dywedyd, na ddylent hwy enwaedu ar eu plant, na rhodio yn ôl y defodau. 22 Pa beth gan hynny? nid oes fodd na ddêl y lliaws ynghyd: canys hwy a gânt glywed dy ddyfod di. 23 Gwna gan hynny yr hyn a ddywedwn wrthyt; Y mae gennym ni bedwar gwŷr a chanddynt adduned arnynt: 24 Cymer y rhai hyn, a glanhaer di gyda hwynt, a gwna draul arnynt, fel yr eilliont eu pennau: ac y gwypo pawb am y pethau a glywsant amdanat ti, nad ydynt ddim, ond dy fod di dy hun hefyd yn rhodio, ac yn cadw y ddeddf. 25 Eithr am y Cenhedloedd y rhai a gredasant, ni a ysgrifenasom, ac a farnasom, na bo iddynt gadw dim o’r cyfryw beth; eithr iddynt ymgadw oddi wrth y pethau a aberthwyd i eilunod, a gwaed, a rhag peth tagedig, a rhag puteindra. 26 Yna Paul a gymerth y gwŷr; a thrannoeth, gwedi iddo ymlanhau gyda hwynt, efe a aeth i mewn i’r deml; gan hysbysu cyflawni dyddiau’r glanhad, hyd oni offrymid offrwm dros bob un ohonynt.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.