Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
111 Molwch yr Arglwydd. Clodforaf yr Arglwydd â’m holl galon, yng nghymanfa y rhai uniawn, ac yn y gynulleidfa. 2 Mawr yw gweithredoedd yr Arglwydd, wedi eu ceisio gan bawb a’u hoffant. 3 Gogoniant a harddwch yw ei waith ef; a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth. 4 Gwnaeth gofio ei ryfeddodau: graslon a thrugarog yw yr Arglwydd. 5 Rhoddodd ymborth i’r rhai a’i hofnant ef: efe a gofia ei gyfamod yn dragywydd. 6 Mynegodd i’w bobl gadernid ei weithredoedd, i roddi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd. 7 Gwirionedd a barn yw gweithredoedd ei ddwylo ef: ei holl orchmynion ydynt sicr: 8 Wedi eu sicrhau byth ac yn dragywydd, a’u gwneuthur mewn gwirionedd ac uniawnder. 9 Anfonodd ymwared i’w bobl: gorchmynnodd ei gyfamod yn dragwyddol: sancteiddiol ac ofnadwy yw ei enw ef. 10 Dechreuad doethineb yw ofn yr Arglwydd: deall da sydd gan y rhai a wnânt ei orchmynion ef: y mae ei foliant ef yn parhau byth.
23 Ac erfyniais ar yr Arglwydd yr amser hwnnw, gan ddywedyd, 24 O Arglwydd Dduw, tydi a ddechreuaist ddangos i’th was dy fawredd, a’th law gadarn; oblegid pa Dduw sydd yn y nefoedd, neu ar y ddaear, yr hwn a weithreda yn ôl dy weithredoedd a’th nerthoedd di? 25 Gad i mi fyned drosodd, atolwg, a gweled y wlad dda sydd dros yr Iorddonen, a’r mynydd da hwnnw, a Libanus. 26 Ond yr Arglwydd a ddigiasai wrthyf o’ch plegid chwi, ac ni wrandawodd arnaf: ond dywedyd a wnaeth yr Arglwydd wrthyf, Digon yw hynny i ti; na chwanega lefaru wrthyf mwy am y peth hyn. 27 Dos i fyny i ben Pisga, a dyrchafa dy lygaid tua’r gorllewin, a’r gogledd, a’r deau a’r dwyrain, ac edrych arni â’th lygaid: oblegid ni chei di fyned dros yr Iorddonen hon. 28 Gorchymyn hefyd i Josua, a nertha a chadarnha ef: oblegid efe a â drosodd o flaen y bobl yma, ac efe a ran iddynt yn etifeddiaeth y wlad yr hon a weli di. 29 Felly aros a wnaethom yn y dyffryn gyferbyn â Beth‐peor.
6 Eithr nid posibl yw myned gair Duw yn ddi‐rym: canys nid Israel yw pawb a’r sydd o Israel. 7 Ac nid ydynt, oblegid eu bod yn had Abraham, i gyd yn blant; eithr, Yn Isaac y gelwir i ti had. 8 Hynny ydyw, Nid plant y cnawd, y rhai hynny sydd blant i Dduw; eithr plant yr addewid a gyfrifir yn had. 9 Canys gair yr addewid yw hwn; Ar yr amser hwn y deuaf, a bydd mab i Sara. 10 Ac nid hyn yn unig; eithr Rebeca hefyd, wedi iddi feichiogi o un, sef o’n tad Isaac; 11 (Canys cyn geni y plant eto, na gwneuthur ohonynt dda na drwg, fel y byddai i’r arfaeth yn ôl etholedigaeth Duw sefyll, nid o weithredoedd, eithr o’r hwn sydd yn galw;) 12 Y dywedwyd wrthi, Yr hynaf a wasanaetha’r ieuangaf. 13 Megis yr ysgrifennwyd, Jacob a gerais, eithr Esau a gaseais. 14 Beth gan hynny a ddywedwn ni? A oes anghyfiawnder gyda Duw? Na ato Duw. 15 Canys y mae yn dywedyd wrth Moses, Mi a drugarhaf wrth yr hwn y trugarhawyf, ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf. 16 Felly gan hynny nid o’r hwn sydd yn ewyllysio y mae, nac o’r hwn sydd yn rhedeg chwaith; ond o Dduw, yr hwn sydd yn trugarhau. 17 Canys y mae’r ysgrythur yn dywedyd wrth Pharo, I hyn yma y’th gyfodais di, fel y dangoswn fy ngallu ynot ti, ac fel y datgenid fy enw trwy’r holl ddaear. 18 Felly gan hynny y neb y mynno y mae efe yn trugarhau wrtho, a’r neb y mynno y mae efe yn ei galedu.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.