Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 62:5-12

O fy enaid, disgwyl wrth Dduw yn unig: canys ynddo ef y mae fy ngobaith. Efe yn unig yw fy nghraig, a’m hiachawdwriaeth: efe yw fy amddiffynfa: ni’m hysgogir. Yn Nuw y mae fy iachawdwriaeth a’m gogoniant: craig fy nghadernid, a’m noddfa, sydd yn Nuw. Gobeithiwch ynddo ef bob amser; O bobl, tywelltwch eich calon ger ei fron ef: Duw sydd noddfa i ni. Sela. Gwagedd yn ddiau yw meibion dynion, geudeb yw meibion gwŷr: i’w gosod yn y clorian, ysgafnach ydynt hwy i gyd na gwegi. 10 Nac ymddiriedwch mewn trawster, ac mewn trais na fyddwch ofer: os cynydda golud, na roddwch eich calon arno. 11 Unwaith y dywedodd Duw, clywais hynny ddwywaith; mai eiddo Duw yw cadernid. 12 Trugaredd hefyd sydd eiddot ti, O Arglwydd: canys ti a deli i bob dyn yn ôl ei weithred.

Jeremeia 19

19 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Dos, a chais ystên bridd y crochenydd, a chymer o henuriaid y bobl ac o henuriaid yr offeiriaid, A dos allan i ddyffryn mab Hinnom, yr hwn sydd wrth ddrws porth y dwyrain, a chyhoedda yno y geiriau a ddywedwyf wrthyt; A dywed, Brenhinoedd Jwda, a phreswylwyr Jerwsalem, clywch air yr Arglwydd: Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele fi yn dwyn ar y lle hwn ddrwg, yr hwn pwy bynnag a’i clywo, ei glustiau a ferwinant. Am iddynt fy ngwrthod i, a dieithrio y lle hwn, ac arogldarthu ynddo i dduwiau dieithr, y rhai nid adwaenent hwy, na’u tadau, na brenhinoedd Jwda, a llenwi ohonynt y lle hwn o waed gwirioniaid; Adeiladasant hefyd uchelfeydd Baal, i losgi eu meibion â thân yn boethoffrymau i Baal; yr hyn ni orchmynnais, ac ni ddywedais, ac ni feddyliodd fy nghalon: Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pryd na elwir y lle hwn mwyach Toffet, na Dyffryn mab Hinnom, ond Dyffryn y lladdfa. A mi a wnaf yn ofer gyngor Jwda a Jerwsalem yn y lle hwn, a pharaf iddynt syrthio gan y cleddyf o flaen eu gelynion, a thrwy law y rhai a geisiant eu heinioes hwy: rhoddaf hefyd eu celaneddau hwynt yn fwyd i ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear. A mi a wnaf y ddinas hon yn anghyfannedd, ac yn ffiaidd; pob un a elo heibio iddi a synna ac a chwibana, oherwydd ei holl ddialeddau hi. A mi a baraf iddynt fwyta cnawd eu meibion, a chnawd eu merched, bwytânt hefyd bob un gnawd ei gyfaill, yn y gwarchae a’r cyfyngder, â’r hwn y cyfynga eu gelynion, a’r rhai sydd yn ceisio eu heinioes, arnynt. 10 Yna y torri yr ystên yng ngŵydd y gwŷr a êl gyda thi, 11 Ac y dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Yn y modd hwn y drylliaf y bobl hyn, a’r ddinas hon, fel y dryllia un lestr pridd, yr hwn ni ellir ei gyfannu mwyach; ac yn Toffet y cleddir hwynt, o eisiau lle i gladdu. 12 Fel hyn y gwnaf i’r lle hwn, medd yr Arglwydd, ac i’r rhai sydd yn trigo ynddo; a mi a wnaf y ddinas hon megis Toffet. 13 A thai Jerwsalem, a thai brenhinoedd Jwda, a fyddant halogedig fel mangre Toffet: oherwydd yr holl dai y rhai yr arogldarthasant ar eu pennau i holl lu y nefoedd, ac y tywalltasant ddiod‐offrymau i dduwiau dieithr. 14 Yna y daeth Jeremeia o Toffet, lle yr anfonasai yr Arglwydd ef i broffwydo, ac a safodd yng nghyntedd tŷ yr Arglwydd, ac a ddywedodd wrth yr holl bobl, 15 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele fi yn dwyn ar y ddinas hon, ac ar ei holl drefydd, yr holl ddrygau a leferais i’w herbyn, am galedu ohonynt eu gwarrau, rhag gwrando fy ngeiriau.

Datguddiad 18:11-20

11 A marchnatawyr y ddaear a wylant ac a alarant drosti; oblegid nid oes neb mwyach yn prynu eu marsiandïaeth hwynt: 12 Marsiandïaeth o aur, ac arian, a meini gwerthfawr, a pherlau, a lliain main, a phorffor, a sidan, ac ysgarlad, a phob coed thynon, a phob llestr o ifori, a phob llestr o goed gwerthfawr iawn, ac o bres, ac o haearn, ac o faen marmor, 13 A sinamon, a pheraroglau, ac ennaint, a thus, a gwin, ac olew, a pheilliaid, a gwenith, ac ysgrubliaid, a defaid, a meirch, a cherbydau, a chaethweision, ac eneidiau dynion. 14 A’r aeron a chwenychodd dy enaid a aethant ymaith oddi wrthyt, a phob peth danteithiol a gwych a aethant ymaith oddi wrthyt; ac ni chei hwynt ddim mwyach. 15 Marchnatawyr y pethau hyn, y rhai a gyfoethogwyd ganddi, a safant o hirbell oddi wrthi, gan ofn ei gofid hi, gan wylo a galaru. 16 A dywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr honno, yr hon oedd wedi ei gwisgo â lliain main, a phorffor, ac ysgarlad, ac wedi ei gwychu ag aur, a meini gwerthfawr, a pherlau! 17 Oblegid mewn un awr yr anrheithiwyd cymaint cyfoeth. A phob llong-lywydd, a phob cwmpeini mewn llongau, a llongwyr, a chynifer ag y sydd â’u gwaith ar y môr, a safasant o hirbell, 18 Ac a lefasant, pan welsant fwg ei llosgiad hi, gan ddywedyd, Pa ddinas debyg i’r ddinas fawr honno! 19 A hwy a fwriasant lwch ar eu pennau, ac a lefasant, gan wylo a galaru, a dywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr honno, yn yr hon y cyfoethogodd yr holl rai oedd ganddynt longau ar y môr, trwy ei chost hi! oblegid mewn un awr yr anrheithiwyd hi. 20 Llawenha o’i phlegid hi, y nef, a chwi, apostolion sanctaidd a phroffwydi; oblegid dialodd Duw arni drosoch chwi.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.