Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Gweddi Dafydd.
86 Gostwng, O Arglwydd, dy glust, gwrando fi: canys truan ac anghenus ydwyf. 2 Cadw fy enaid; canys sanctaidd ydwyf: achub di dy was, O fy Nuw, yr hwn sydd yn ymddiried ynot. 3 Trugarha wrthyf, Arglwydd: canys arnat y llefaf beunydd. 4 Llawenha enaid dy was: canys atat ti, Arglwydd, y dyrchafaf fy enaid. 5 Canys ti, O Arglwydd, ydwyt dda, a maddeugar; ac o fawr drugaredd i’r rhai oll a alwant arnat. 6 Clyw, Arglwydd, fy ngweddi; ac ymwrando â llais fy ymbil. 7 Yn nydd fy nghyfyngder y llefaf arnat: canys gwrandewi fi. 8 Nid oes fel tydi ymysg y duwiau, O Arglwydd; na gweithredoedd fel dy weithredoedd di. 9 Yr holl genhedloedd y rhai a wnaethost a ddeuant, ac a addolant ger dy fron di, O Arglwydd; ac a ogoneddant dy enw. 10 Canys ydwyt fawr, ac yn gwneuthur rhyfeddodau: ti yn unig wyt Dduw. 11 Dysg i mi dy ffordd, O Arglwydd; mi a rodiaf yn dy wirionedd: una fy nghalon i ofni dy enw. 12 Moliannaf di, O Arglwydd fy Nuw, â’m holl galon: a gogoneddaf dy enw yn dragywydd. 13 Canys mawr yw dy drugaredd tuag ataf fi: a gwaredaist fy enaid o uffern isod. 14 Rhai beilchion a gyfodasant i’m herbyn, O Dduw, a chynulleidfa y trawsion a geisiasant fy enaid; ac ni’th osodasant di ger eu bron. 15 Eithr ti, O Arglwydd, wyt Dduw trugarog a graslon; hwyrfrydig i lid, a helaeth o drugaredd a gwirionedd. 16 Edrych arnaf, a thrugarha wrthyf: dyro dy nerth i’th was, ac achub fab dy wasanaethferch. 17 Gwna i mi arwydd er daioni: fel y gwelo fy nghaseion, ac y gwaradwydder hwynt; am i ti, O Arglwydd, fy nghynorthwyo a’m diddanu.
16 Sarai hefyd, gwraig Abram, ni phlantasai iddo; ac yr ydoedd iddi forwyn o Eifftes, a’i henw Agar. 2 A Sarai a ddywedodd wrth Abram, Wele yn awr, yr Arglwydd a luddiodd i mi blanta: dos, atolwg, at fy llawforwyn; fe allai y ceir i mi blant ohoni hi: ac Abram a wrandawodd ar lais Sarai. 3 A Sarai, gwraig Abram, a gymerodd ei morwyn Agar yr Eifftes, wedi trigo o Abram ddeng mlynedd yn nhir Canaan, a hi a’i rhoddes i Abram ei gŵr yn wraig iddo.
4 Ac efe a aeth i mewn at Agar, a hi a feichiogodd: a phan welodd hithau feichiogi ohoni, yr oedd ei meistres yn wael yn ei golwg hi. 5 Yna y dywedodd Sarai wrth Abram, Bydded fy ngham i arnat ti: mi a roddais fy morwyn i’th fynwes, a hithau a welodd feichiogi ohoni, a gwael ydwyf yn ei golwg hi: barned yr Arglwydd rhyngof fi a thi. 6 Ac Abram a ddywedodd wrth Sarai, Wele dy forwyn yn dy law di: gwna iddi yr hyn a fyddo da yn dy olwg dy hun: yna Sarai a’i cystuddiodd hi, a hithau a ffodd rhagddi hi.
7 Ac angel yr Arglwydd a’i cafodd hi wrth ffynnon ddwfr, yn yr anialwch, wrth y ffynnon yn ffordd Sur: 8 Ac efe a ddywedodd, Agar, morwyn Sarai, o ba le y daethost? ac i ba le yr ei di? A hi a ddywedodd, Ffoi yr ydwyf fi rhag wyneb fy meistres Sarai. 9 Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrthi, Dychwel at dy feistres, ac ymddarostwng tan ei dwylo hi. 10 Angel yr Arglwydd a ddywedodd hefyd wrthi hi, Gan amlhau yr amlhaf dy had di, fel na rifir ef o luosowgrwydd. 11 Dywedodd angel yr Arglwydd hefyd wrthi hi, Wele di yn feichiog, a thi a esgori ar fab, ac a elwi ei enw ef Ismael: canys yr Arglwydd a glybu dy gystudd di. 12 Ac efe a fydd ddyn gwyllt, a’i law yn erbyn pawb, a llaw pawb yn ei erbyn yntau; ac efe a drig gerbron ei holl frodyr. 13 A hi a alwodd enw yr Arglwydd, yr hwn oedd yn llefaru wrthi, Ti, O Dduw, wyt yn edrych arnaf fi: canys dywedodd, Oni edrychais yma hefyd ar ôl yr hwn sydd yn edrych arnaf? 14 Am hynny y galwyd y ffynnon Beer‐lahai‐roi: wele, rhwng Cades a Bered y mae hi.
15 A hwy a ddygasant ato blant bychain hefyd, fel y cyffyrddai efe â hwynt: a’r disgyblion pan welsant, a’u ceryddasant hwy. 16 Eithr yr Iesu a’u galwodd hwynt ato, ac a ddywedodd, Gadewch i’r plant bychain ddyfod ataf fi, ac na waherddwch hwynt: canys eiddo’r cyfryw rai yw teyrnas Dduw. 17 Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn bach, nid â efe i mewn iddi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.