Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
3 A’r bachgen Samuel a wasanaethodd yr Arglwydd gerbron Eli. A gair yr Arglwydd oedd werthfawr yn y dyddiau hynny; nid oedd weledigaeth eglur. 2 A’r pryd hwnnw, pan oedd Eli yn gorwedd yn ei fangre, wedi i’w lygaid ef ddechrau tywyllu, fel na allai weled; 3 A chyn i lamp Duw ddiffoddi yn nheml yr Arglwydd, lle yr oedd arch Duw, a Samuel oedd wedi gorwedd i gysgu: 4 Yna y galwodd yr Arglwydd ar Samuel. Dywedodd yntau, Wele fi. 5 Ac efe a redodd at Eli, ac a ddywedodd, Wele fi; canys gelwaist arnaf. Yntau a ddywedodd, Ni elwais i; dychwel a gorwedd. Ac efe a aeth ac a orweddodd. 6 A’r Arglwydd a alwodd eilwaith, Samuel. A Samuel a gyfododd, ac a aeth at Eli, ac a ddywedodd, Wele fi; canys gelwaist arnaf. Yntau a ddywedodd, Na elwais, fy mab; dychwel a gorwedd. 7 Ac nid adwaenai Samuel eto yr Arglwydd, ac nid eglurasid iddo ef air yr Arglwydd eto. 8 A’r Arglwydd a alwodd Samuel drachefn y drydedd waith. Ac efe a gyfododd, ac a aeth at Eli, ac a ddywedodd, Wele fi; canys gelwaist arnaf. A deallodd Eli mai yr Arglwydd a alwasai ar y bachgen. 9 Am hynny Eli a ddywedodd wrth Samuel, Dos, gorwedd: ac os geilw efe arnat, dywed, Llefara, Arglwydd; canys y mae dy was yn clywed. Felly Samuel a aeth ac a orweddodd yn ei le. 10 A daeth yr Arglwydd, ac a safodd, ac a alwodd megis o’r blaen, Samuel, Samuel. A dywedodd Samuel, Llefara; canys y mae dy was yn clywed.
11 A dywedodd yr Arglwydd wrth Samuel, Wele fi yn gwneuthur peth yn Israel, yr hwn pwy bynnag a’i clywo, fe a ferwina ei ddwy glust ef. 12 Yn y dydd hwnnw y dygaf i ben yn erbyn Eli yr hyn oll a ddywedais am ei dŷ ef, gan ddechrau a diweddu ar unwaith. 13 Mynegais hefyd iddo ef, y barnwn ei dŷ ef yn dragywydd, am yr anwiredd a ŵyr efe; oherwydd i’w feibion haeddu iddynt felltith, ac nas gwaharddodd efe iddynt. 14 Ac am hynny y tyngais wrth dŷ Eli, na wneir iawn am anwiredd tŷ Eli ag aberth, nac â bwyd-offrwm byth.
15 A Samuel a gysgodd hyd y bore, ac a agorodd ddrysau tŷ yr Arglwydd: a Samuel oedd yn ofni mynegi y weledigaeth i Eli. 16 Ac Eli a alwodd ar Samuel, ac a ddywedodd, Samuel fy mab. Yntau a ddywedodd, Wele fi. 17 Ac efe a ddywedodd, Beth yw y gair a lefarodd yr Arglwydd wrthyt? na chela, atolwg, oddi wrthyf: fel hyn y gwnelo Duw i ti, ac fel hyn y chwanego, os celi oddi wrthyf ddim o’r holl bethau a lefarodd efe wrthyt. 18 A Samuel a fynegodd iddo yr holl eiriau, ac nis celodd ddim rhagddo. Dywedodd yntau, Yr Arglwydd yw efe: gwnaed a fyddo da yn ei olwg.
19 A chynyddodd Samuel; a’r Arglwydd oedd gydag ef, ac ni adawodd i un o’i eiriau ef syrthio i’r ddaear. 20 A gwybu holl Israel, o Dan hyd Beerseba, mai proffwyd ffyddlon yr Arglwydd oedd Samuel.
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
139 Arglwydd, chwiliaist, ac adnabuost fi. 2 Ti a adwaenost fy eisteddiad a’m cyfodiad: deelli fy meddwl o bell. 3 Amgylchyni fy llwybr a’m gorweddfa; a hysbys wyt yn fy holl ffyrdd. 4 Canys nid oes air ar fy nhafod, ond wele, Arglwydd, ti a’i gwyddost oll. 5 Amgylchynaist fi yn ôl ac ymlaen, a gosodaist dy law arnaf. 6 Dyma wybodaeth ry ryfedd i mi: uchel yw, ni fedraf oddi wrthi.
13 Canys ti a feddiennaist fy arennau: toaist fi yng nghroth fy mam. 14 Clodforaf di; canys ofnadwy a rhyfedd y’m gwnaed: rhyfedd yw dy weithredoedd; a’m henaid a ŵyr hynny yn dda. 15 Ni chuddiwyd fy sylwedd oddi wrthyt, pan y’m gwnaethpwyd yn ddirgel, ac y’m cywreiniwyd yn iselder y ddaear. 16 Dy lygaid a welsant fy annelwig ddefnydd; ac yn dy lyfr di yr ysgrifennwyd hwynt oll, y dydd y lluniwyd hwynt, pan nad oedd yr un ohonynt. 17 Am hynny mor werthfawr yw dy feddyliau gennyf, O Dduw! mor fawr yw eu swm hwynt! 18 Pe cyfrifwn hwynt, amlach ydynt na’r tywod: pan ddeffrowyf, gyda thi yr ydwyf yn wastad.
12 Pob peth sydd gyfreithlon i mi, ond nid yw pob peth yn llesáu; pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr ni’m dygir i dan awdurdod gan ddim. 13 Y bwydydd i’r bol, a’r bol i’r bwydydd: eithr Duw a ddinistria hwn a hwythau. A’r corff nid yw i odineb, ond i’r Arglwydd; a’r Arglwydd i’r corff. 14 Eithr Duw a gyfododd yr Arglwydd, ac a’n cyfyd ninnau trwy ei nerth ef. 15 Oni wyddoch chwi fod eich cyrff yn aelodau i Grist? gan hynny a gymeraf fi aelodau Crist, a’u gwneuthur yn aelodau putain? Na ato Duw. 16 Oni wyddoch chwi fod yr hwn sydd yn cydio â phutain, yn un corff? canys y ddau (medd efe) fyddant un cnawd. 17 Ond yr hwn a gysylltir â’r Arglwydd, un ysbryd yw. 18 Gochelwch odineb. Pob pechod a wnelo dyn, oddi allan i’w gorff y mae; ond yr hwn sydd yn godinebu, sydd yn pechu yn erbyn ei gorff ei hun. 19 Oni wyddoch chwi fod eich corff yn deml i’r Ysbryd Glân sydd ynoch, yr hwn yr ydych yn ei gael gan Dduw, ac nad ydych yn eiddoch eich hunain? 20 Canys er gwerth y prynwyd chwi: gan hynny gogoneddwch Dduw yn eich corff, ac yn eich ysbryd, y rhai sydd eiddo Duw.
43 Trannoeth yr ewyllysiodd yr Iesu fyned allan i Galilea; ac efe a gafodd Philip, ac a ddywedodd wrtho, Dilyn fi. 44 A Philip oedd o Fethsaida, o ddinas Andreas a Phedr. 45 Philip a gafodd Nathanael, ac a ddywedodd wrtho, Cawsom yr hwn yr ysgrifennodd Moses yn y gyfraith, a’r proffwydi, amdano, Iesu o Nasareth, mab Joseff. 46 A Nathanael a ddywedodd wrtho, A ddichon dim da ddyfod o Nasareth? Philip a ddywedodd wrtho, Tyred, a gwêl. 47 Iesu a ganfu Nathanael yn dyfod ato; ac a ddywedodd amdano, Wele Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll. 48 Nathanael a ddywedodd wrtho, Pa fodd y’m hadwaenost? Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Cyn i Philip dy alw di, pan oeddit tan y ffigysbren, mi a’th welais di. 49 Nathanael a atebodd ac a ddywedodd wrtho ef, Rabbi, ti yw Mab Duw; ti yw Brenin Israel. 50 Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho ef, Oherwydd i mi ddywedyd i ti, Myfi a’th welais di dan y ffigysbren, a ydwyt ti yn credu? ti a gei weled pethau mwy na’r rhai hyn. 51 Ac efe a ddywedodd wrtho, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Ar ôl hyn y gwelwch y nef yn agored, ac angylion Duw yn esgyn ac yn disgyn ar Fab y dyn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.