Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
139 Arglwydd, chwiliaist, ac adnabuost fi. 2 Ti a adwaenost fy eisteddiad a’m cyfodiad: deelli fy meddwl o bell. 3 Amgylchyni fy llwybr a’m gorweddfa; a hysbys wyt yn fy holl ffyrdd. 4 Canys nid oes air ar fy nhafod, ond wele, Arglwydd, ti a’i gwyddost oll. 5 Amgylchynaist fi yn ôl ac ymlaen, a gosodaist dy law arnaf. 6 Dyma wybodaeth ry ryfedd i mi: uchel yw, ni fedraf oddi wrthi.
13 Canys ti a feddiennaist fy arennau: toaist fi yng nghroth fy mam. 14 Clodforaf di; canys ofnadwy a rhyfedd y’m gwnaed: rhyfedd yw dy weithredoedd; a’m henaid a ŵyr hynny yn dda. 15 Ni chuddiwyd fy sylwedd oddi wrthyt, pan y’m gwnaethpwyd yn ddirgel, ac y’m cywreiniwyd yn iselder y ddaear. 16 Dy lygaid a welsant fy annelwig ddefnydd; ac yn dy lyfr di yr ysgrifennwyd hwynt oll, y dydd y lluniwyd hwynt, pan nad oedd yr un ohonynt. 17 Am hynny mor werthfawr yw dy feddyliau gennyf, O Dduw! mor fawr yw eu swm hwynt! 18 Pe cyfrifwn hwynt, amlach ydynt na’r tywod: pan ddeffrowyf, gyda thi yr ydwyf yn wastad.
16 Eto yr Arglwydd a gododd farnwyr, y rhai a’u hachubodd hwynt o law eu hanrheithwyr. 17 Ond ni wrandawent chwaith ar eu barnwyr; eithr puteiniasant ar ôl duwiau dieithr, ac ymgrymasant iddynt: ciliasant yn ebrwydd o’r ffordd y rhodiasai eu tadau hwynt ynddi, gan wrando ar orchmynion yr Arglwydd; ond ni wnaethant hwy felly. 18 A phan godai yr Arglwydd farnwyr arnynt hwy, yna yr Arglwydd fyddai gyda’r barnwr, ac a’u gwaredai hwynt o law eu gelynion holl ddyddiau y barnwr: canys yr Arglwydd a dosturiai wrth eu griddfan hwynt, rhag eu gorthrymwyr a’u cystuddwyr. 19 A phan fyddai farw y barnwr, hwy a ddychwelent, ac a ymlygrent yn fwy na’u tadau, gan fyned ar ôl duwiau dieithr, i’w gwasanaethu hwynt, ac i ymgrymu iddynt: ni pheidiasant â’u gweithredoedd eu hunain, nac â’u ffordd wrthnysig.
20 A dicllonedd yr Arglwydd a lidiai yn erbyn Israel: ac efe a ddywedai, Oblegid i’r genedl hon droseddu fy nghyfamod a orchmynnais i’w tadau hwynt, ac na wrandawsant ar fy llais; 21 Ni chwanegaf finnau yrru ymaith o’u blaen hwynt neb o’r cenhedloedd a adawodd Josua pan fu farw: 22 I brofi Israel trwyddynt hwy, a gadwent hwy ffordd yr Arglwydd, gan rodio ynddi, fel y cadwodd eu tadau hwynt, neu beidio. 23 Am hynny yr Arglwydd a adawodd y cenhedloedd hynny, heb eu gyrru ymaith yn ebrwydd; ac ni roddodd hwynt yn llaw Josua.
16 Yna y cyfododd Paul i fyny, a chan amneidio â’i law am osteg, a ddywedodd, O wŷr o Israel, a’r rhai ydych yn ofni Duw, gwrandewch. 17 Duw y bobl hyn Israel a etholodd ein tadau ni, ac a ddyrchafodd y bobl, pan oeddynt yn ymdeithio yng ngwlad yr Aifft, ac â braich uchel y dug efe hwynt oddi yno allan. 18 Ac ynghylch deugain mlynedd o amser y goddefodd efe eu harferion hwynt yn yr anialwch. 19 Ac wedi iddo ddinistrio saith genedl yn nhir Canaan, â choelbren y parthodd efe dir y rhai hynny iddynt hwy. 20 Ac wedi’r pethau hyn, dros ysbaid ynghylch pedwar cant a deng mlynedd a deugain, efe a roddes farnwyr iddynt, hyd Samuel y proffwyd. 21 Ac ar ôl hynny y dymunasant gael brenin: ac fe a roddes Duw iddynt Saul mab Cis, gŵr o lwyth Benjamin, ddeugain mlynedd. 22 Ac wedi ei ddiswyddo ef, y cyfododd efe Dafydd yn frenin iddynt; am yr hwn y tystiolaethodd, ac y dywedodd, Cefais Dafydd mab Jesse, gŵr yn ôl fy nghalon, yr hwn a gyflawna fy holl ewyllys. 23 O had hwn, Duw, yn ôl ei addewid, a gyfododd i Israel yr Iachawdwr Iesu: 24 Gwedi i Ioan ragbregethu o flaen ei ddyfodiad ef i mewn, fedydd edifeirwch i holl bobl Israel. 25 Ac fel yr oedd Ioan yn cyflawni ei redfa, efe a ddywedodd, Pwy yr ydych chwi yn tybied fy mod i? Nid myfi yw efe: eithr wele, y mae un yn dyfod ar fy ôl i, yr hwn nid wyf yn deilwng i ddatod esgidiau ei draed.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.