Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 139:1-6

I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

139 Arglwydd, chwiliaist, ac adnabuost fi. Ti a adwaenost fy eisteddiad a’m cyfodiad: deelli fy meddwl o bell. Amgylchyni fy llwybr a’m gorweddfa; a hysbys wyt yn fy holl ffyrdd. Canys nid oes air ar fy nhafod, ond wele, Arglwydd, ti a’i gwyddost oll. Amgylchynaist fi yn ôl ac ymlaen, a gosodaist dy law arnaf. Dyma wybodaeth ry ryfedd i mi: uchel yw, ni fedraf oddi wrthi.

Salmau 139:13-18

13 Canys ti a feddiennaist fy arennau: toaist fi yng nghroth fy mam. 14 Clodforaf di; canys ofnadwy a rhyfedd y’m gwnaed: rhyfedd yw dy weithredoedd; a’m henaid a ŵyr hynny yn dda. 15 Ni chuddiwyd fy sylwedd oddi wrthyt, pan y’m gwnaethpwyd yn ddirgel, ac y’m cywreiniwyd yn iselder y ddaear. 16 Dy lygaid a welsant fy annelwig ddefnydd; ac yn dy lyfr di yr ysgrifennwyd hwynt oll, y dydd y lluniwyd hwynt, pan nad oedd yr un ohonynt. 17 Am hynny mor werthfawr yw dy feddyliau gennyf, O Dduw! mor fawr yw eu swm hwynt! 18 Pe cyfrifwn hwynt, amlach ydynt na’r tywod: pan ddeffrowyf, gyda thi yr ydwyf yn wastad.

Barnwyr 2:6-15

A Josua a ollyngodd y bobl ymaith; a meibion Israel a aethant bob un i’w etifeddiaeth, i feddiannu y wlad. A’r bobl a wasanaethasant yr Arglwydd holl ddyddiau Josua, a holl ddyddiau yr henuriaid y rhai a fu fyw ar ôl Josua, y rhai a welsent holl fawrwaith yr Arglwydd, yr hwn a wnaethai efe er Israel. A bu farw Josua mab Nun, gwas yr Arglwydd, yn fab dengmlwydd a chant. A hwy a’i claddasant ef yn nherfyn ei etifeddiaeth, o fewn Timnath‐heres, ym mynydd Effraim, o du y gogledd i fynydd Gaas. 10 A’r holl oes honno hefyd a gasglwyd at eu tadau: a chyfododd oes arall ar eu hôl hwynt, y rhai nid adwaenent yr Arglwydd, na’i weithredoedd a wnaethai efe er Israel.

11 A meibion Israel a wnaethant ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd, ac a wasanaethasant Baalim: 12 Ac a wrthodasant Arglwydd Dduw eu tadau, yr hwn a’u dygasai hwynt o wlad yr Aifft, ac a aethant ar ôl duwiau dieithr, sef rhai o dduwiau y bobloedd oedd o’u hamgylch, ac a ymgrymasant iddynt, ac a ddigiasant yr Arglwydd. 13 A hwy a wrthodasant yr Arglwydd, ac a wasanaethasant Baal ac Astaroth.

14 A llidiodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn Israel; ac efe a’u rhoddodd hwynt yn llaw yr anrheithwyr, y rhai a’u hanrheithiasant hwy; ac efe a’u gwerthodd hwy i law eu gelynion o amgylch, fel na allent sefyll mwyach yn erbyn eu gelynion. 15 I ba le bynnag yr aethant, llaw yr Arglwydd oedd er drwg yn eu herbyn hwynt; fel y llefarasai yr Arglwydd, ac fel y tyngasai yr Arglwydd wrthynt hwy: a bu gyfyng iawn arnynt.

2 Corinthiaid 10:1-11

10 A myfi Paul wyf fy hun yn atolwg i chwi, er addfwynder a hynawsedd Crist, yr hwn yn bresennol wyf wael yn eich plith, ond yn absennol ydwyf yn hy arnoch. Ac yr ydwyf yn dymuno na byddwyf yn bresennol yn hy â’r hyder yr wyf yn meddwl bod tuag at rai, y sydd yn ein cyfrif ni megis rhai yn rhodio yn ôl y cnawd. Canys er ein bod ni yn rhodio yn y cnawd, nid ydym yn milwrio yn ôl y cnawd: (Canys arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol, ond nerthol trwy Dduw i fwrw cestyll i’r llawr;) Gan fwrw dychmygion i lawr, a phob uchder a’r sydd yn ymgodi yn erbyn gwybodaeth Duw, a chan gaethiwo pob meddwl i ufudd-dod Crist; Ac yn barod gennym ddial ar bob anufudd-dod, pan gyflawner eich ufudd-dod chwi. Ai edrych yr ydych chwi ar bethau yn ôl y golwg? Os ymddiried neb ynddo ei hun, ei fod ef yn eiddo Crist, meddylied hyn drachefn ohono ei hun, megis ag y mae efe yn eiddo Crist, felly ein bod ninnau hefyd yn eiddo Crist. Oblegid pe bostiwn beth ychwaneg hefyd am ein hawdurdod, yr hon a roddodd yr Arglwydd i ni er adeilad, ac nid er eich dinistr chwi, ni’m cywilyddid: Fel na thybier fy mod megis yn eich dychrynu chwi trwy lythyrau. 10 Oblegid y llythyrau yn wir (meddant) sydd drymion a chryfion; eithr presenoldeb y corff sydd wan, a’r ymadrodd yn ddirmygus. 11 Y cyfryw un meddylied hyn, mai y fath ydym ni ar air trwy lythyrau yn absennol, yr un fath hefyd a fyddwn ar weithred yn bresennol.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.