Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd ar Sosannim, Salm Dafydd.
69 Achub fi, O Dduw, canys y dyfroedd a ddaethant i mewn hyd at fy enaid. 2 Soddais mewn tom dwfn, lle nid oes sefyllfa: deuthum i ddyfnder dyfroedd, a’r ffrwd a lifodd drosof. 3 Blinais yn llefain, sychodd fy ngheg: pallodd fy llygaid, tra yr ydwyf yn disgwyl wrth fy Nuw. 4 Amlach na gwallt fy mhen yw y rhai a’m casânt heb achos: cedyrn yw fy ngelynion diachos, y rhai a’m difethent: yna y telais yr hyn ni chymerais. 5 O Dduw, ti a adwaenost fy ynfydrwydd; ac nid yw fy nghamweddau guddiedig rhagot.
30 Moliannaf enw Duw ar gân, a mawrygaf ef mewn mawl. 31 A hyn fydd well gan yr Arglwydd nag ych neu fustach corniog, carnol. 32 Y trueiniaid a lawenychant pan welant hyn: eich calon chwithau, y rhai a geisiwch Dduw, a fydd byw. 33 Canys gwrendy yr Arglwydd ar dlodion, ac ni ddiystyra efe ei garcharorion. 34 Nefoedd a daear, y môr a’r hyn oll a ymlusgo ynddo, molant ef. 35 Canys Duw a achub Seion, ac a adeilada ddinasoedd Jwda; fel y trigont yno, ac y meddiannont hi. 36 A hiliogaeth ei weision a’i meddiannant hi: a’r rhai a hoffant ei enw ef, a breswyliant ynddi.
22 Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 23 Cymer i ti ddewis lysiau, o’r myrr pur, bwys pum can sicl, a hanner hynny o’r sinamon peraidd, sef pwys deucant a deg a deugain o siclau, ac o’r calamus peraidd pwys deucant a deg a deugain o siclau; 24 Ac o’r casia pwys pum cant o siclau, yn ôl sicl y cysegr; a hin o olew olewydden. 25 A gwna ef yn olew eneiniad sanctaidd, yn ennaint cymysgadwy o waith yr apothecari: olew eneiniad sanctaidd fydd efe. 26 Ac eneinia ag ef babell y cyfarfod, ac arch y dystiolaeth, 27 Y bwrdd hefyd a’i holl lestri, a’r canhwyllbren a’i holl lestri, ac allor yr arogl‐darth. 28 Ac allor y poethoffrwm a’i holl lestri, a’r noe a’i throed. 29 A chysegra hwynt, fel y byddant yn sancteiddiolaf: pob peth a gyffyrddo â hwynt, a fydd sanctaidd. 30 Eneinia hefyd Aaron a’i feibion, a chysegra hwynt, i offeiriadu i mi. 31 A llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Olew eneiniad sanctaidd a fydd hwn i mi, trwy eich cenedlaethau. 32 Nac eneinier ag ef gnawd dyn, ac ar ei waith ef na wnewch ei fath: sanctaidd yw, bydded sanctaidd gennych. 33 Pwy bynnag a gymysgo ei fath, a’r hwn a roddo ohono ef ar ddyn dieithr, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl.
34 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Cymer i ti lysiau peraidd, sef stacte, ac onycha, a galbanum; y llysiau hyn, a thus pur; yr un faint o bob un. 35 A gwna ef yn arogl‐darth aroglber o waith yr apothecari, wedi ei gyd‐dymheru, yn bur ac yn sanctaidd. 36 Gan guro cur yn fân beth ohono, a dod ohono ef gerbron y dystiolaeth o fewn pabell y cyfarfod, lle y cyfarfyddaf â thi: sancteiddiolaf fydd efe i chwi. 37 A’r arogl‐darth a wnelech, na wnewch i chwi eich hunain ei fath ef: bydded gennyt yn sanctaidd i’r Arglwydd. 38 Pwy bynnag a wnêl ei fath ef, i arogli ohono, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl.
2 (A phan glywsant mai yn Hebraeg yr oedd efe yn llefaru wrthynt, hwy a roesant iddo osteg gwell: ac efe a ddywedodd,) 3 Gŵr wyf fi yn wir o Iddew, yr hwn a aned yn Nharsus yn Cilicia, ac wedi fy meithrin yn y ddinas hon wrth draed Gamaliel, ac wedi fy athrawiaethu yn ôl manylaf gyfraith y tadau, yn dwyn sêl i Dduw, fel yr ydych chwithau oll heddiw. 4 A mi a erlidiais y ffordd hon hyd angau, gan rwymo a dodi yng ngharchar wŷr a gwragedd hefyd. 5 Megis ag y mae’r archoffeiriad yn dyst i mi, a’r holl henaduriaeth; gan y rhai hefyd y derbyniais lythyrau at y brodyr, ac yr euthum i Ddamascus, ar fedr dwyn y rhai oedd yno hefyd, yn rhwym i Jerwsalem, i’w cosbi. 6 Eithr digwyddodd, a myfi yn myned, ac yn nesáu at Ddamascus, ynghylch hanner dydd, yn ddisymwth i fawr oleuni o’r nef ddisgleirio o’m hamgylch. 7 A mi a syrthiais ar y ddaear, ac a glywais lais yn dywedyd wrthyf, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid? 8 A minnau a atebais, Pwy wyt ti, O Arglwydd? Yntau a ddywedodd wrthyf, Myfi yw Iesu o Nasareth, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid. 9 Hefyd y rhai oedd gyda myfi a welsant y goleuni yn ddiau, ac a ofnasant; ond ni chlywsant hwy lais yr hwn oedd yn llefaru wrthyf. 10 Ac myfi a ddywedais, Beth a wnaf, O Arglwydd? A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Cyfod, a dos i Ddamascus; ac yno y dywedir i ti bob peth a’r a ordeiniwyd i ti eu gwneuthur. 11 A phryd nad oeddwn yn gweled gan ogoniant y goleuni hwnnw, a’r rhai oedd gyda mi yn fy nhywys erbyn fy llaw, myfi a ddeuthum i Ddamascus. 12 Ac un Ananeias, gŵr defosiynol yn ôl y ddeddf, ac iddo air da gan yr Iddewon oll a’r oeddynt yn preswylio yno, 13 A ddaeth ataf, ac a safodd gerllaw, ac a ddywedodd wrthyf, Y brawd Saul, cymer dy olwg. Ac mi a edrychais arno yn yr awr honno. 14 Ac efe a ddywedodd, Duw ein tadau ni a’th ragordeiniodd di i wybod ei ewyllys ef, ac i weled y Cyfiawn hwnnw, ac i glywed lleferydd ei enau ef. 15 Canys ti a fyddi dyst iddo wrth bob dyn, o’r pethau a welaist ac a glywaist. 16 Ac yr awron beth yr wyt ti yn ei aros? cyfod, bedyddier di, a golch ymaith dy bechodau, gan alw ar enw yr Arglwydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.