Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Salm Dafydd.
110 Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn fainc i’th draed. 2 Gwialen dy nerth a enfyn yr Arglwydd o Seion: Ilywodraetha di yng nghanol dy elynion. 3 Dy bobl a fyddant ewyllysgar yn nydd dy nerth, mewn harddwch sancteiddrwydd o groth y wawr: y mae gwlith dy enedigaeth i ti. 4 Tyngodd yr Arglwydd, ac nid edifarha, Ti wyt offeiriad yn dragwyddol, yn ôl urdd Melchisedec. 5 Yr Arglwydd ar dy ddeheulaw a drywana frenhinoedd yn nydd ei ddigofaint. 6 Efe a farn ymysg y cenhedloedd; lleinw leoedd â chelaneddau: archolla ben llawer gwlad. 7 Efe a yf o’r afon ar y ffordd: am hynny y dyrcha efe ei ben.
20 Doethineb sydd yn gweiddi oddi allan; y mae hi yn adrodd ei lleferydd yn yr heolydd: 21 Y mae hi yn llefain ym mhrifleoedd y dyrfa, yn nrysau y pyrth; yn y ddinas y mae hi yn traethu ei hymadroddion, gan ddywedyd, 22 Pa hyd, chwi ynfydion, y cerwch ynfydrwydd? a chwi watwarwyr, y bydd hoff gennych watwar? ac y casâ ffyliaid wybodaeth? 23 Dychwelwch wrth fy ngherydd: wele, mi a dywalltaf fy ysbryd i chwi, fy ngeiriau a hysbysaf i chwi.
24 Yn gymaint ag i mi eich gwahodd, ac i chwithau wrthod; i mi estyn fy llaw, a neb heb ystyried; 25 Ond diystyrasoch fy holl gyngor i, ac ni fynnech ddim o’m cerydd: 26 Minnau hefyd a chwarddaf yn eich dialedd chwi; mi a wawdiaf pan syrthio arnoch yr hyn yr ydych yn ei ofni; 27 Pan ddêl arnoch yr hyn yr ydych yn ei ofni megis distryw, ac y dêl eich dialedd arnoch megis corwynt; a dyfod arnoch wasgfa a chaledi: 28 Yna y galwant arnaf, ond ni wrandawaf; yn fore y’m ceisiant, ond ni’m cânt: 29 Canys cas fu ganddynt wybodaeth, ac ofn yr Arglwydd ni ddewisasant: 30 Ni chymerent ddim o’m cyngor i; dirmygasant fy holl gerydd. 31 Am hynny hwy a gânt fwyta ffrwyth eu ffordd eu hunain, a’u llenwi â’u cynghorion eu hunain. 32 Canys esmwythdra y rhai angall a’u lladd; a llwyddiant y rhai ffôl a’u difetha. 33 Er hynny y sawl a wrandawo arnaf fi, a gaiff aros yn ddiogel, ac a gaiff lonyddwch oddi wrth ofn drwg.
4 O ba le y mae rhyfeloedd ac ymladdau yn eich plith chwi? onid oddi wrth hyn, sef eich melyschwantau y rhai sydd yn rhyfela yn eich aelodau? 2 Chwenychu yr ydych, ac nid ydych yn cael: cenfigennu yr ydych ac eiddigeddu, ac nid ydych yn gallu cyrhaeddyd: ymladd a rhyfela yr ydych, ond nid ydych yn cael, am nad ydych yn gofyn. 3 Gofyn yr ydych, ac nid ydych yn derbyn, oherwydd eich bod yn gofyn ar gam, fel y galloch eu treulio ar eich melyschwantau. 4 Chwi odinebwyr a godinebwragedd, oni wyddoch chwi fod cyfeillach y byd yn elyniaeth i Dduw? pwy bynnag gan hynny a ewyllysio fod yn gyfaill i’r byd, y mae’n elyn i Dduw. 5 A ydych chwi yn tybied fod yr ysgrythur yn dywedyd yn ofer, At genfigen y mae chwant yr ysbryd a gartrefa ynom ni? 6 Eithr rhoddi gras mwy y mae: oherwydd paham y mae yn dywedyd, Y mae Duw yn gwrthwynebu’r beilchion, ond yn rhoddi gras i’r rhai gostyngedig. 7 Ymddarostyngwch gan hynny i Dduw. Gwrthwynebwch ddiafol, ac efe a ffy oddi wrthych. 8 Nesewch at Dduw, ac efe a nesâ atoch chwi. Glanhewch eich dwylo, chwi bechaduriaid; a phurwch eich calonnau, chwi â’r meddwl dauddyblyg. 9 Ymofidiwch, a galerwch, ac wylwch: troer eich chwerthin chwi yn alar, a’ch llawenydd yn dristwch. 10 Ymddarostyngwch gerbron yr Arglwydd, ac efe a’ch dyrchafa chwi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.