Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
10 Gan lawenychu y llawenychaf yn yr Arglwydd, fy enaid a orfoledda yn fy Nuw: canys gwisgodd fi â gwisgoedd iachawdwriaeth, gwisgodd fi â mantell cyfiawnder; megis y mae priodfab yn ymwisgo â harddwisg, ac fel yr ymdrwsia priodferch â’i thlysau. 11 Canys megis y gwna y ddaear i’w gwellt dyfu, ac fel y gwna gardd i’w hadau egino, felly y gwna yr Arglwydd Ior i gyfiawnder a moliant darddu gerbron yr holl genhedloedd.
62 Er mwyn Seion ni thawaf, ac er mwyn Jerwsalem ni ostegaf, hyd onid elo ei chyfiawnder hi allan fel disgleirdeb, a’i hiachawdwriaeth hi fel lamp yn llosgi. 2 A’r cenhedloedd a welant dy gyfiawnder, a’r holl frenhinoedd dy ogoniant: yna y gelwir arnat enw newydd, yr hwn a enwa genau yr Arglwydd. 3 Byddi hefyd yn goron gogoniant yn llaw yr Arglwydd, ac yn dalaith frenhinol yn llaw dy Dduw.
148 Molwch yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd o’r nefoedd: molwch ef yn yr uchelderau. 2 Molwch ef, ei holl angylion: molwch ef, ei holl luoedd. 3 Molwch ef, haul a lleuad: molwch ef, yr holl sêr goleuni. 4 Molwch ef, nef y nefoedd; a’r dyfroedd y rhai ydych oddi ar y nefoedd. 5 Molant enw yr Arglwydd: oherwydd efe a orchmynnodd, a hwy a grewyd. 6 A gwnaeth iddynt barhau byth yn dragywydd: gosododd ddeddf, ac nis troseddir hi. 7 Molwch yr Arglwydd o’r ddaear, y dreigiau, a’r holl ddyfnderau: 8 Tân a chenllysg, eira a tharth; gwynt ystormus, yn gwneuthur ei air ef: 9 Y mynyddoedd a’r bryniau oll; y coed ffrwythlon a’r holl gedrwydd: 10 Y bwystfilod a phob anifail; yr ymlusgiaid ac adar asgellog: 11 Brenhinoedd y ddaear a’r holl bobloedd; tywysogion a holl farnwyr y byd: 12 Gwŷr ieuainc a gwyryfon hefyd; hynafgwyr a llanciau: 13 Molant enw yr Arglwydd: oherwydd ei enw ef yn unig sydd ddyrchafadwy; ei ardderchowgrwydd ef sydd uwchlaw daear a nefoedd. 14 Ac efe sydd yn dyrchafu corn ei bobl, moliant ei holl saint; sef meibion Israel, pobl agos ato. Molwch yr Arglwydd.
4 Ond pan ddaeth cyflawnder yr amser, y danfonodd Duw ei Fab, wedi ei wneuthur o wraig, wedi ei wneuthur dan y ddeddf; 5 Fel y prynai’r rhai oedd dan y ddeddf, fel y derbyniem y mabwysiad. 6 Ac oherwydd eich bod yn feibion, yr anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i’ch calonnau chwi, yn llefain, Abba, Dad. 7 Felly nid wyt ti mwy yn was, ond yn fab; ac os mab, etifedd hefyd i Dduw trwy Grist.
22 Ac wedi cyflawni dyddiau ei phuredigaeth hi, yn ôl deddf Moses, hwy a’i dygasant ef i Jerwsalem, i’w gyflwyno i’r Arglwydd; 23 (Fel yr ysgrifennwyd yn neddf yr Arglwydd, Pob gwryw cyntaf‐anedig a elwir yn sanctaidd i’r Arglwydd;) 24 Ac i roddi aberth, yn ôl yr hyn a ddywedwyd yn neddf yr Arglwydd, Pâr o durturod, neu ddau gyw colomen. 25 Ac wele, yr oedd gŵr yn Jerwsalem, a’i enw Simeon; a’r gŵr hwn oedd gyfiawn a duwiol, yn disgwyl am ddiddanwch yr Israel: a’r Ysbryd Glân oedd arno. 26 Ac yr oedd wedi ei hysbysu iddo gan yr Ysbryd Glân, na welai efe angau, cyn iddo weled Crist yr Arglwydd. 27 Ac efe a ddaeth trwy’r ysbryd i’r deml: a phan ddug ei rieni y dyn bach Iesu, i wneuthur drosto yn ôl defod y gyfraith; 28 Yna efe a’i cymerth ef yn ei freichiau, ac a fendithiodd Dduw, ac a ddywedodd, 29 Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd, yn ôl dy air: 30 Canys fy llygaid a welsant dy iachawdwriaeth, 31 Yr hon a baratoaist gerbron wyneb yr holl bobloedd; 32 Goleuni i oleuo y Cenhedloedd, a gogoniant dy bobl Israel. 33 Ac yr oedd Joseff a’i fam ef yn rhyfeddu am y pethau a ddywedwyd amdano ef. 34 A Simeon a’u bendithiodd hwynt, ac a ddywedodd wrth Mair ei fam ef, Wele, hwn a osodwyd yn gwymp ac yn gyfodiad i lawer yn Israel, ac yn arwydd yr hwn y dywedir yn ei erbyn; 35 (A thrwy dy enaid di dy hun hefyd yr â cleddyf;) fel y datguddir meddyliau llawer o galonnau. 36 Ac yr oedd Anna broffwydes, merch Phanwel, o lwyth Aser: hon oedd oedrannus iawn, ac a fuasai fyw gyda gŵr saith mlynedd o’i morwyndod; 37 Ac a fuasai yn weddw ynghylch pedair a phedwar ugain mlynedd, yr hon nid âi allan o’r deml, ond gwasanaethu Duw mewn ymprydiau a gweddïau ddydd a nos. 38 A hon hefyd yn yr awr honno, gan sefyll gerllaw, a foliannodd yr Arglwydd, ac a lefarodd amdano ef wrth y rhai oll oedd yn disgwyl ymwared yn Jerwsalem. 39 Ac wedi iddynt orffen pob peth yn ôl deddf yr Arglwydd, hwy a ddychwelasant i Galilea, i’w dinas eu hun Nasareth. 40 A’r bachgen a gynyddodd, ac a gryfhaodd yn yr ysbryd, yn gyflawn o ddoethineb: a gras Duw oedd arno ef.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.