Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
148 Molwch yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd o’r nefoedd: molwch ef yn yr uchelderau. 2 Molwch ef, ei holl angylion: molwch ef, ei holl luoedd. 3 Molwch ef, haul a lleuad: molwch ef, yr holl sêr goleuni. 4 Molwch ef, nef y nefoedd; a’r dyfroedd y rhai ydych oddi ar y nefoedd. 5 Molant enw yr Arglwydd: oherwydd efe a orchmynnodd, a hwy a grewyd. 6 A gwnaeth iddynt barhau byth yn dragywydd: gosododd ddeddf, ac nis troseddir hi. 7 Molwch yr Arglwydd o’r ddaear, y dreigiau, a’r holl ddyfnderau: 8 Tân a chenllysg, eira a tharth; gwynt ystormus, yn gwneuthur ei air ef: 9 Y mynyddoedd a’r bryniau oll; y coed ffrwythlon a’r holl gedrwydd: 10 Y bwystfilod a phob anifail; yr ymlusgiaid ac adar asgellog: 11 Brenhinoedd y ddaear a’r holl bobloedd; tywysogion a holl farnwyr y byd: 12 Gwŷr ieuainc a gwyryfon hefyd; hynafgwyr a llanciau: 13 Molant enw yr Arglwydd: oherwydd ei enw ef yn unig sydd ddyrchafadwy; ei ardderchowgrwydd ef sydd uwchlaw daear a nefoedd. 14 Ac efe sydd yn dyrchafu corn ei bobl, moliant ei holl saint; sef meibion Israel, pobl agos ato. Molwch yr Arglwydd.
5 Ac yn awr, medd yr Arglwydd yr hwn a’m lluniodd o’r groth yn was iddo, i ddychwelyd Jacob ato ef, Er nad ymgasglodd Israel, eto gogoneddus fyddaf fi yng ngolwg yr Arglwydd, a’m Duw fydd fy nerth. 6 Ac efe a ddywedodd, Gwael yw dy fod yn was i mi, i gyfodi llwythau Jacob, ac i adferu rhai cadwedig Israel: mi a’th roddaf hefyd yn oleuni i’r Cenhedloedd, fel y byddych yn iachawdwriaeth i mi hyd eithaf y ddaear. 7 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Gwaredydd Israel, a’i Sanct, wrth y dirmygedig o enaid, wrth yr hwn sydd ffiaidd gan y genedl, wrth was llywodraethwyr; Brenhinoedd a welant, ac a gyfodant; tywysogion hefyd a ymgrymant, er mwyn yr Arglwydd, yr hwn sydd ffyddlon, Sanct Israel, ac efe a’th ddewisodd di. 8 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Mewn amser bodlongar y’th wrandewais, ac yn nydd iachawdwriaeth y’th gynorthwyais; a mi a’th gadwaf, ac a’th roddaf yn gyfamod y bobl, i sicrhau y ddaear, i beri etifeddu yr etifeddiaethau anghyfanheddol; 9 Fel y dywedych wrth y carcharorion, Ewch allan; wrth y rhai sydd mewn tywyllwch, Ymddangoswch. Ar y ffyrdd y porant, ac yn yr holl uchelfannau y bydd eu porfa hwynt. 10 Ni newynant, ac ni sychedant; ac nis tery gwres na haul hwynt: oherwydd yr hwn a dosturia wrthynt a’u tywys, ac a’u harwain wrth y ffynhonnau dyfroedd. 11 A mi a wnaf fy holl fynydd yn ffordd, a’m priffyrdd a gyfodir. 12 Wele, y rhai hyn a ddeuant o bell: ac wele, y rhai acw o’r gogledd, ac o’r gorllewin; a’r rhai yma o dir Sinim.
13 Cenwch, nefoedd; a gorfoledda, ddaear; bloeddiwch ganu, y mynyddoedd: canys yr Arglwydd a gysurodd ei bobl, ac a drugarha wrth ei drueiniaid. 14 Eto dywedodd Seion, Yr Arglwydd a’m gwrthododd, a’m Harglwydd a’m hanghofiodd. 15 A anghofia gwraig ei phlentyn sugno, fel na thosturio wrth fab ei chroth? ie, hwy a allant anghofio, eto myfi nid anghofiaf di.
46 Tra ydoedd efe yn llefaru wrth y torfeydd, wele, ei fam a’i frodyr oedd yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan ag ef. 47 A dywedodd un wrtho, Wele, y mae dy fam di a’th frodyr yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan â thi. 48 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrth yr hwn a ddywedasai wrtho, Pwy yw fy mam i? a phwy yw fy mrodyr i? 49 Ac efe a estynnodd ei law tuag at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd, Wele fy mam i, a’m brodyr i: 50 Canys pwy bynnag a wna ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd, efe yw fy mrawd i, a’m chwaer, a’m mam.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.