Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 148

148 Molwch yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd o’r nefoedd: molwch ef yn yr uchelderau. Molwch ef, ei holl angylion: molwch ef, ei holl luoedd. Molwch ef, haul a lleuad: molwch ef, yr holl sêr goleuni. Molwch ef, nef y nefoedd; a’r dyfroedd y rhai ydych oddi ar y nefoedd. Molant enw yr Arglwydd: oherwydd efe a orchmynnodd, a hwy a grewyd. A gwnaeth iddynt barhau byth yn dragywydd: gosododd ddeddf, ac nis troseddir hi. Molwch yr Arglwydd o’r ddaear, y dreigiau, a’r holl ddyfnderau: Tân a chenllysg, eira a tharth; gwynt ystormus, yn gwneuthur ei air ef: Y mynyddoedd a’r bryniau oll; y coed ffrwythlon a’r holl gedrwydd: 10 Y bwystfilod a phob anifail; yr ymlusgiaid ac adar asgellog: 11 Brenhinoedd y ddaear a’r holl bobloedd; tywysogion a holl farnwyr y byd: 12 Gwŷr ieuainc a gwyryfon hefyd; hynafgwyr a llanciau: 13 Molant enw yr Arglwydd: oherwydd ei enw ef yn unig sydd ddyrchafadwy; ei ardderchowgrwydd ef sydd uwchlaw daear a nefoedd. 14 Ac efe sydd yn dyrchafu corn ei bobl, moliant ei holl saint; sef meibion Israel, pobl agos ato. Molwch yr Arglwydd.

Jeremeia 31:15-17

15 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Llef a glywyd yn Rama, cwynfan ac wylofain chwerw; Rahel yn wylo am ei meibion, ni fynnai ei chysuro am ei meibion, oherwydd nad oeddynt. 16 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Atal dy lef rhag wylo, a’th lygaid rhag dagrau: canys y mae tâl i’th lafur, medd yr Arglwydd; a hwy a ddychwelant o dir y gelyn. 17 Ac y mae gobaith yn dy ddiwedd, medd yr Arglwydd, y dychwel dy blant i’w bro eu hun.

Mathew 2:13-18

13 Ac wedi iddynt ymado, wele angel yr Arglwydd yn ymddangos i Joseff mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Cyfod, cymer y mab bychan a’i fam, a ffo i’r Aifft, a bydd yno hyd oni ddywedwyf i ti: canys ceisio a wna Herod y mab bychan i’w ddifetha ef. 14 Ac yntau pan gyfododd, a gymerth y mab bychan a’i fam o hyd nos, ac a giliodd i’r Aifft; 15 Ac a fu yno hyd farwolaeth Herod: fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy’r proffwyd, gan ddywedyd, O’r Aifft y gelwais fy mab.

16 Yna Herod, pan weles ei siomi gan y doethion, a ffromodd yn aruthr, ac a ddanfonodd, ac a laddodd yr holl fechgyn oedd ym Methlehem, ac yn ei holl gyffiniau, o ddwyflwydd oed a than hynny, wrth yr amser yr ymofynasai efe yn fanwl â’r doethion. 17 Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedasid gan Jeremeias y proffwyd, gan ddywedyd, 18 Llef a glybuwyd yn Rama, galar, ac wylofain, ac ochain mawr, Rachel yn wylo am ei phlant; ac ni fynnai ei chysuro, am nad oeddynt.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.