Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 96

96 Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd; cenwch i’r Arglwydd, yr holl ddaear. Cenwch i’r Arglwydd, bendigwch ei enw; cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef. Datgenwch ymysg y cenhedloedd ei ogoniant ef, ymhlith yr holl bobloedd ei ryfeddodau. Canys mawr yw yr Arglwydd, a chanmoladwy iawn: ofnadwy yw efe goruwch yr holl dduwiau. Canys holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod: ond yr Arglwydd a wnaeth y nefoedd. Gogoniant a harddwch sydd o’i flaen ef; nerth a hyfrydwch sydd yn ei gysegr. Tylwythau y bobl, rhoddwch i’r Arglwydd, rhoddwch i’r Arglwydd ogoniant a nerth. Rhoddwch i’r Arglwydd ogoniant ei enw: dygwch offrwm, a deuwch i’w gynteddoedd. Addolwch yr Arglwydd mewn prydferthwch sancteiddrwydd: yr holl ddaear, ofnwch ger ei fron ef. 10 Dywedwch ymysg y cenhedloedd, Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; a’r byd a sicrhaodd efe, fel nad ysgogo: efe a farna y bobl yn uniawn. 11 Llawenhaed y nefoedd, a gorfoledded y ddaear; rhued y môr a’i gyflawnder. 12 Gorfoledded y maes, a’r hyn oll y sydd ynddo: yna holl brennau y coed a ganant. 13 O flaen yr Arglwydd; canys y mae yn dyfod, canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd trwy gyfiawnder, a’r bobloedd â’i wirionedd.

Pregethwr 3:1-8

Y mae amser i bob peth, ac amser i bob amcan dan y nefoedd: Amser i eni, ac amser i farw; amser i blannu, ac amser i dynnu y peth a blannwyd; Amser i ladd, ac amser i iacháu; amser i fwrw i lawr, ac amser i adeiladu; Amser i wylo, ac amser i chwerthin; amser i alaru, ac amser i ddawnsio; Amser i daflu cerrig ymaith, ac amser i gasglu cerrig ynghyd; amser i ymgofleidio, ac amser i ochel ymgofleidio; Amser i geisio, ac amser i golli; amser i gadw, ac amser i fwrw ymaith; Amser i rwygo, ac amser i wnïo; amser i dewi, ac amser i ddywedyd; Amser i garu, ac amser i gasáu; amser i ryfel, ac amser i heddwch.

Iago 1:17-18

17 Pob rhoddiad daionus, a phob rhodd berffaith, oddi uchod y mae, yn disgyn oddi wrth Dad y goleuni, gyda’r hwn nid oes gyfnewidiad, na chysgod tröedigaeth. 18 O’i wir ewyllys yr enillodd efe nyni trwy air y gwirionedd, fel y byddem ryw flaenffrwyth o’i greaduriaid ef.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.