Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 96

96 Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd; cenwch i’r Arglwydd, yr holl ddaear. Cenwch i’r Arglwydd, bendigwch ei enw; cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef. Datgenwch ymysg y cenhedloedd ei ogoniant ef, ymhlith yr holl bobloedd ei ryfeddodau. Canys mawr yw yr Arglwydd, a chanmoladwy iawn: ofnadwy yw efe goruwch yr holl dduwiau. Canys holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod: ond yr Arglwydd a wnaeth y nefoedd. Gogoniant a harddwch sydd o’i flaen ef; nerth a hyfrydwch sydd yn ei gysegr. Tylwythau y bobl, rhoddwch i’r Arglwydd, rhoddwch i’r Arglwydd ogoniant a nerth. Rhoddwch i’r Arglwydd ogoniant ei enw: dygwch offrwm, a deuwch i’w gynteddoedd. Addolwch yr Arglwydd mewn prydferthwch sancteiddrwydd: yr holl ddaear, ofnwch ger ei fron ef. 10 Dywedwch ymysg y cenhedloedd, Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; a’r byd a sicrhaodd efe, fel nad ysgogo: efe a farna y bobl yn uniawn. 11 Llawenhaed y nefoedd, a gorfoledded y ddaear; rhued y môr a’i gyflawnder. 12 Gorfoledded y maes, a’r hyn oll y sydd ynddo: yna holl brennau y coed a ganant. 13 O flaen yr Arglwydd; canys y mae yn dyfod, canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd trwy gyfiawnder, a’r bobloedd â’i wirionedd.

Seffaneia 3:8-13

Am hynny disgwyliwch arnaf fi, medd yr Arglwydd, hyd y dydd y cyfodwyf i’r ysglyfaeth: canys fy marn sydd ar gynnull y cenhedloedd, ar gasglu y teyrnasoedd, i dywallt arnynt fy llid, holl angerdd fy nigofaint: canys â thân fy eiddigedd yr ysir yr holl ddaear. Oherwydd yna yr adferaf i’r bobl wefus bur, fel y galwo pob un ohonynt ar enw yr Arglwydd, i’w wasanaethu ef ag un ysgwydd. 10 O’r tu hwnt i afonydd Ethiopia y dwg fy ngweddïwyr, sef merch fy ngwasgaredig, fy offrwm. 11 Y dydd hwnnw ni’th waradwyddir am dy holl weithredoedd, yn y rhai y pechaist i’m herbyn: canys yna y symudaf o’th blith y neb sydd yn hyfryd ganddynt dy falchder, fel nad ymddyrchafech mwyach yn fy mynydd sanctaidd. 12 Gadawaf ynot hefyd bobl druain dlodion, ac yn enw yr Arglwydd y gobeithiant hwy. 13 Gweddill Israel ni wna anwiredd, ac ni ddywedant gelwydd; ac ni cheir yn eu geneuau dafod twyllodrus: canys hwy a borant ac a orweddant, ac ni bydd a’u tarfo.

Rhufeiniaid 10:5-13

Canys y mae Moses yn ysgrifennu am y cyfiawnder sydd o’r ddeddf, Mai’r dyn a wnêl y pethau hynny, a fydd byw trwyddynt. Eithr y mae’r cyfiawnder sydd o ffydd yn dywedyd fel hyn; Na ddywed yn dy galon, Pwy a esgyn i’r nef? (hynny yw, dwyn Crist i waered oddi uchod:) Neu, pwy a ddisgyn i’r dyfnder? (hynny yw, dwyn Crist drachefn i fyny oddi wrth y meirw,) Eithr pa beth y mae efe yn ei ddywedyd? Mae’r gair yn agos atat, yn dy enau, ac yn dy galon: hwn yw gair y ffydd, yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu; Mai os cyffesi â’th enau yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy galon i Dduw ei gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi. 10 Canys â’r galon y credir i gyfiawnder, ac â’r genau y cyffesir i iachawdwriaeth. 11 Oblegid y mae’r ysgrythur yn dywedyd, Pwy bynnag sydd yn credu ynddo ef, ni chywilyddir. 12 Canys nid oes gwahaniaeth rhwng Iddew a Groegwr: oblegid yr un Arglwydd ar bawb, sydd oludog i bawb a’r sydd yn galw arno. 13 Canys pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd, cadwedig fydd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.