Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 89:1-4

Maschil Ethan yr Esrahiad.

89 Trugareddau yr Arglwydd a ddatganaf byth: â’m genau y mynegaf dy wirionedd o genhedlaeth hyd genhedlaeth. Canys dywedais, Adeiledir trugaredd yn dragywydd: yn y nefoedd y sicrhei dy wirionedd. Gwneuthum amod â’m hetholedig, tyngais i’m gwas Dafydd. Yn dragywydd y sicrhaf dy had di; ac o genhedlaeth i genhedlaeth yr adeiladaf dy orseddfainc di. Sela.

Salmau 89:19-26

19 Yna yr ymddiddenaist mewn gweledigaeth â’th Sanct, ac a ddywedaist, Gosodais gymorth ar un cadarn: dyrchefais un etholedig o’r bobl. 20 Cefais Dafydd fy ngwasanaethwr: eneiniais ef â’m holew sanctaidd: 21 Yr hwn y sicrheir fy llaw gydag ef: a’m braich a’i nertha ef. 22 Ni orthryma y gelyn ef; a’r mab anwir nis cystuddia ef. 23 Ac mi a goethaf ei elynion o’i flaen; a’i gaseion a drawaf. 24 Fy ngwirionedd hefyd a’m trugaredd fydd gydag ef; ac yn fy enw y dyrchefir ei gorn ef. 25 A gosodaf ei law yn y môr, a’i ddeheulaw yn yr afonydd. 26 Efe a lefa arnaf, Ti yw fy Nhad, fy Nuw, a Chraig fy iachawdwriaeth.

2 Samuel 6:1-11

A chasglodd Dafydd eto yr holl etholedigion yn Israel, sef deng mil ar hugain. A Dafydd a gyfododd, ac a aeth, a’r holl bobl oedd gydag ef, o Baale Jwda, i ddwyn i fyny oddi yno arch Duw; enw yr hon a elwir ar enw Arglwydd y lluoedd, yr hwn sydd yn aros arni rhwng y ceriwbiaid. A hwy a osodasant arch Duw ar fen newydd; ac a’i dygasant hi o dŷ Abinadab yn Gibea: Ussa hefyd ac Ahio, meibion Abinadab, oedd yn gyrru y fen newydd. A hwy a’i dygasant hi o dŷ Abinadab yn Gibea, gydag arch Duw; ac Ahïo oedd yn myned o flaen yr arch. Dafydd hefyd a holl dŷ Israel oedd yn chwarae gerbron yr Arglwydd, â phob offer o goed ffynidwydd, sef â thelynau, ac â nablau, ac â thympanau, ac ag utgyrn, ac â symbalau.

A phan ddaethant i lawr dyrnu Nachon, Ussa a estynnodd ei law at arch Duw, ac a ymaflodd ynddi hi; canys yr ychen oedd yn ei hysgwyd. A digofaint yr Arglwydd a lidiodd wrth Ussa: a Duw a’i trawodd ef yno am yr amryfusedd hyn; ac efe a fu farw yno wrth arch Duw. A bu ddrwg gan Dafydd, am i’r Arglwydd rwygo rhwygiad ar Ussa: ac efe a alwodd y lle hwnnw Peres‐Ussa, hyd y dydd hwn. A Dafydd a ofnodd yr Arglwydd y dydd hwnnw; ac a ddywedodd, Pa fodd y daw arch yr Arglwydd ataf fi? 10 Ac ni fynnai Dafydd fudo arch yr Arglwydd ato ef i ddinas Dafydd: ond Dafydd a’i trodd hi i dŷ Obed‐Edom y Gethiad. 11 Ac arch yr Arglwydd a arhosodd yn nhŷ Obed‐Edom y Gethiad dri mis: a’r Arglwydd a fendithiodd Obed‐Edom, a’i holl dŷ.

Hebreaid 1:1-4

Duw, wedi iddo lefaru lawer gwaith a llawer modd gynt wrth y tadau trwy’r proffwydi, yn y dyddiau diwethaf hyn a lefarodd wrthym ni yn ei Fab; Yr hwn a wnaeth efe yn etifedd pob peth, trwy yr hwn hefyd y gwnaeth efe y bydoedd: Yr hwn, ac efe yn ddisgleirdeb ei ogoniant ef, ac yn wir lun ei berson ef, ac yn cynnal pob peth trwy air ei nerth, wedi puro ein pechodau ni trwyddo ef ei hun, a eisteddodd ar ddeheulaw y Mawredd yn y goruwch leoedd; Wedi ei wneuthur o hynny yn well na’r angylion, o gymaint ag yr etifeddodd efe enw mwy rhagorol na hwynt‐hwy.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.