Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Caniad y graddau.
125 Y rhai a ymddiriedant yn yr Arglwydd, fyddant fel mynydd Seion, yr hwn ni syflir, ond a bery yn dragywydd. 2 Fel y mae Jerwsalem a’r mynyddoedd o’i hamgylch, felly y mae yr Arglwydd o amgylch ei bobl, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd. 3 Canys ni orffwys gwialen annuwioldeb ar randir y rhai cyfiawn; rhag i’r rhai cyfiawn estyn eu dwylo at anwiredd. 4 O Arglwydd, gwna ddaioni i’r rhai daionus, ac i’r rhai uniawn yn eu calonnau. 5 Ond y rhai a ymdroant i’w trofeydd, yr Arglwydd a’u gyr gyda gweithredwyr anwiredd: a bydd tangnefedd ar Israel.
16 Yna y rhai oedd yn ofni yr Arglwydd a lefarasant bob un wrth ei gymydog: a’r Arglwydd a wrandawodd, ac a glybu; ac ysgrifennwyd llyfr coffadwriaeth ger ei fron ef i’r rhai oedd yn ofni yr Arglwydd, ac i’r rhai oedd yn meddwl am ei enw ef. 17 A byddant eiddof fi, medd Arglwydd y lluoedd, y dydd y gwnelwyf briodoledd; arbedaf hwynt hefyd fel yr arbed gŵr ei fab sydd yn ei wasanaethu. 18 Yna y dychwelwch, ac y gwelwch ragor rhwng y cyfiawn a’r drygionus, rhwng yr hwn a wasanaetho Dduw a’r hwn nis gwasanaetho ef.
4 Canys wele y dydd yn dyfod, yn llosgi megis ffwrn; a’r holl feilchion, a holl weithredwyr anwiredd, a fyddant sofl: a’r dydd sydd yn dyfod a’u llysg hwynt, medd Arglwydd y lluoedd, fel na adawo iddynt na gwreiddyn na changen.
2 Ond Haul cyfiawnder a gyfyd i chwi, y rhai ydych yn ofni fy enw, â meddyginiaeth yn ei esgyll; a chwi a ewch allan, ac a gynyddwch megis lloi pasgedig. 3 A chwi a fethrwch yr annuwiolion; canys byddant yn lludw dan wadnau eich traed chwi, yn y dydd y gwnelwyf hyn, medd Arglwydd y lluoedd.
4 Cofiwch gyfraith Moses fy ngwas, yr hon a orchmynnais iddo ef yn Horeb i holl Israel, y deddfau a’r barnedigaethau.
5 Wele, mi a anfonaf i chwi Eleias y proffwyd, cyn dyfod dydd mawr ac ofnadwy yr Arglwydd: 6 Ac efe a dry galon y tadau at y plant, a chalon y plant at eu tadau; rhag i mi ddyfod a tharo y ddaear â melltith.
TERFYN Y PROFFWYDI
9 A phan oeddynt yn dyfod i waered o’r mynydd, efe a orchmynnodd iddynt na ddangosent i neb y pethau a welsent, hyd pan atgyfodai Mab y dyn o feirw. 10 A hwy a gadwasant y gair gyda hwynt eu hunain, gan gydymholi beth yw’r atgyfodi o feirw.
11 A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Paham y dywed yr ysgrifenyddion fod yn rhaid i Eleias ddyfod yn gyntaf? 12 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Eleias yn ddiau gan ddyfod yn gyntaf a adfer bob peth; a’r modd yr ysgrifennwyd am Fab y dyn, y dioddefai lawer o bethau, ac y dirmygid ef. 13 Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, ddyfod Eleias yn ddiau, a gwneuthur ohonynt iddo yr hyn a fynasant, fel yr ysgrifennwyd amdano.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.