Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Caniad y graddau.
125 Y rhai a ymddiriedant yn yr Arglwydd, fyddant fel mynydd Seion, yr hwn ni syflir, ond a bery yn dragywydd. 2 Fel y mae Jerwsalem a’r mynyddoedd o’i hamgylch, felly y mae yr Arglwydd o amgylch ei bobl, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd. 3 Canys ni orffwys gwialen annuwioldeb ar randir y rhai cyfiawn; rhag i’r rhai cyfiawn estyn eu dwylo at anwiredd. 4 O Arglwydd, gwna ddaioni i’r rhai daionus, ac i’r rhai uniawn yn eu calonnau. 5 Ond y rhai a ymdroant i’w trofeydd, yr Arglwydd a’u gyr gyda gweithredwyr anwiredd: a bydd tangnefedd ar Israel.
18 Ac ar ôl dyddiau lawer daeth gair yr Arglwydd at Eleias, yn y drydedd flwyddyn, gan ddywedyd, Dos, ymddangos i Ahab; a mi a roddaf law ar wyneb y ddaear. 2 Ac Eleias a aeth i ymddangos i Ahab. A’r newyn oedd dost yn Samaria. 3 Ac Ahab a alwodd Obadeia, yr hwn oedd benteulu iddo: (ac Obadeia oedd yn ofni yr Arglwydd yn fawr: 4 Canys pan ddistrywiodd Jesebel broffwydi yr Arglwydd, Obadeia a gymerodd gant o broffwydi, ac a’u cuddiodd hwynt bob yn ddeg a deugain mewn ogof, ac a’u porthodd hwynt â bara ac â dwfr.) 5 Ac Ahab a ddywedodd wrth Obadeia, Dos i’r wlad, at bob ffynnon ddwfr, ac at yr holl afonydd: ysgatfydd ni a gawn laswellt, fel y cadwom yn fyw y ceffylau a’r mulod, fel na adawom i’r holl anifeiliaid golli. 6 Felly hwy a ranasant y wlad rhyngddynt i’w cherdded: Ahab a aeth y naill ffordd ei hunan, ac Obadeia a aeth y ffordd arall ei hunan.
7 Ac fel yr oedd Obadeia ar y ffordd, wele Eleias yn ei gyfarfod ef: ac efe a’i hadnabu ef, ac a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ddywedodd, Onid ti yw fy arglwydd Eleias? 8 Yntau a ddywedodd wrtho, Ie, myfi: dos, dywed i’th arglwydd, Wele Eleias. 9 Dywedodd yntau, Pa bechod a wneuthum i, pan roddit ti dy was yn llaw Ahab i’m lladd? 10 Fel mai byw yr Arglwydd dy Dduw, nid oes genedl na brenhiniaeth yr hon ni ddanfonodd fy arglwydd iddi i’th geisio di; a phan ddywedent, Nid yw efe yma, efe a dyngai y frenhiniaeth a’r genedl, na chawsent dydi. 11 Ac yn awr yr wyt ti yn dywedyd, Dos, dywed i’th arglwydd, Wele Eleias. 12 A phan elwyf fi oddi wrthyt ti, ysbryd yr Arglwydd a’th gymer di lle nis gwn i; a phan ddelwyf i fynegi i Ahab, ac yntau heb dy gael di, efe a’m lladd i: ond y mae dy was di yn ofni yr Arglwydd o’m mebyd. 13 Oni fynegwyd i’m harglwydd yr hyn a wneuthum i, pan laddodd Jesebel broffwydi yr Arglwydd, fel y cuddiais gannwr o broffwydi yr Arglwydd, bob yn ddengwr a deugain mewn ogof, ac y porthais hwynt â bara ac â dwfr? 14 Ac yn awr ti a ddywedi, Dos, dywed i’th arglwydd, Wele Eleias: ac efe a’m lladd i. 15 A dywedodd Eleias, Fel mai byw Arglwydd y lluoedd, yr hwn yr wyf yn sefyll ger ei fron, heddiw yn ddiau yr ymddangosaf iddo ef. 16 Yna Obadeia a aeth i gyfarfod Ahab, ac a fynegodd iddo. Ac Ahab a aeth i gyfarfod Eleias. 17 A phan welodd Ahab Eleias, Ahab a ddywedodd wrtho, Onid ti yw yr hwn sydd yn blino Israel? 18 Ac efe a ddywedodd, Ni flinais i Israel; ond tydi, a thŷ dy dad: am i chwi wrthod gorchmynion yr Arglwydd, ac i ti rodio ar ôl Baalim.
10 Heblaw hyn, fy mrodyr, ymnerthwch yn yr Arglwydd, ac yng nghadernid ei allu ef. 11 Gwisgwch holl arfogaeth Duw, fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion diafol. 12 Oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn tywysogaethau, yn erbyn awdurdodau, yn erbyn bydol lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn, yn erbyn drygau ysbrydol yn y nefolion leoedd. 13 Am hynny cymerwch atoch holl arfogaeth Duw, fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg; ac wedi gorffen pob peth, sefyll. 14 Sefwch gan hynny, wedi amgylchwregysu eich lwynau â gwirionedd, a gwisgo dwyfronneg cyfiawnder; 15 A gwisgo am eich traed esgidiau paratoad efengyl tangnefedd: 16 Uwchlaw pob dim, wedi cymryd tarian y ffydd, â’r hon y gellwch ddiffoddi holl bicellau tanllyd y fall. 17 Cymerwch hefyd helm yr iachawdwriaeth, a chleddyf yr Ysbryd, yr hwn yw gair Duw:
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.