Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Eseia 61:1-4

61 Ysbryd yr Arglwydd Dduw sydd arnaf; oherwydd yr Arglwydd a’m heneiniodd i efengylu i’r rhai llariaidd; efe a’m hanfonodd i rwymo y rhai ysig eu calon, i gyhoeddi rhyddid i’r caethion, ac agoriad carchar i’r rhai sydd yn rhwym; I gyhoeddi blwyddyn gymeradwy yr Arglwydd, a dydd dial ein Duw ni; i gysuro pob galarus; I osod i alarwyr Seion, ac i roddi iddynt ogoniant yn lle lludw, olew llawenydd yn lle galar, gwisg moliant yn lle ysbryd cystuddiedig; fel y gelwid hwynt yn brennau cyfiawnder, yn blanhigyn yr Arglwydd, fel y gogonedder ef.

Adeiladant hefyd yr hen ddiffeithfa, cyfodant yr anghyfanheddfa gynt, ac adnewyddant ddinasoedd diffaith, ac anghyfanhedd‐dra llawer oes.

Eseia 61:8-11

Canys myfi yr Arglwydd a hoffaf gyfiawnder; yr wyf yn casáu trais yn boethoffrwm, ac a gyfarwyddaf eu gwaith mewn gwirionedd, ac a wnaf â hwynt gyfamod tragwyddol. Eu had hwynt hefyd a adwaenir ymysg y cenhedloedd, a’u hiliogaeth hwynt yng nghanol y bobl: y rhai a’u gwelant a’u hadwaenant, mai hwynt‐hwy yw yr had a fendithiodd yr Arglwydd. 10 Gan lawenychu y llawenychaf yn yr Arglwydd, fy enaid a orfoledda yn fy Nuw: canys gwisgodd fi â gwisgoedd iachawdwriaeth, gwisgodd fi â mantell cyfiawnder; megis y mae priodfab yn ymwisgo â harddwisg, ac fel yr ymdrwsia priodferch â’i thlysau. 11 Canys megis y gwna y ddaear i’w gwellt dyfu, ac fel y gwna gardd i’w hadau egino, felly y gwna yr Arglwydd Ior i gyfiawnder a moliant darddu gerbron yr holl genhedloedd.

Salmau 126

Caniad y graddau.

126 Pan ddychwelodd yr Arglwydd gaethiwed Seion, yr oeddem fel rhai yn breuddwydio. Yna y llanwyd ein genau â chwerthin, a’n tafod â chanu: yna y dywedasant ymysg y cenhedloedd, Yr Arglwydd a wnaeth bethau mawrion i’r rhai hyn. Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion; am hynny yr ydym yn llawen. Dychwel, Arglwydd, ein caethiwed ni, fel yr afonydd yn y deau. Y rhai sydd yn hau mewn dagrau, a fedant mewn gorfoledd. Yr hwn sydd yn myned rhagddo, ac yn wylo, gan ddwyn had gwerthfawr, gan ddyfod a ddaw mewn gorfoledd, dan gludo ei ysgubau.

Luc 1:46-55

46 A dywedodd Mair, Y mae fy enaid yn mawrhau’r Arglwydd, 47 A’m hysbryd a lawenychodd yn Nuw fy Iachawdwr. 48 Canys efe a edrychodd ar waeledd ei wasanaethyddes: oblegid, wele, o hyn allan yr holl genedlaethau a’m geilw yn wynfydedig. 49 Canys yr hwn sydd alluog a wnaeth i mi fawredd; a sanctaidd yw ei enw ef. 50 A’i drugaredd sydd yn oes oesoedd ar y rhai a’i hofnant ef. 51 Efe a wnaeth gadernid â’i fraich: efe a wasgarodd y rhai beilchion ym mwriad eu calon. 52 Efe a dynnodd i lawr y cedyrn o’u heisteddfâu, ac a ddyrchafodd y rhai isel radd. 53 Y rhai newynog a lanwodd efe â phethau da; ac efe a anfonodd ymaith y rhai goludog yn weigion. 54 Efe a gynorthwyodd ei was Israel, gan gofio ei drugaredd; 55 Fel y dywedodd wrth ein tadau, Abraham a’i had, yn dragywydd.

1 Thesaloniaid 5:16-24

16 Byddwch lawen yn wastadol. 17 Gweddïwch yn ddi-baid. 18 Ym mhob dim diolchwch: canys hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu tuag atoch chwi. 19 Na ddiffoddwch yr Ysbryd. 20 Na ddirmygwch broffwydoliaethau. 21 Profwch bob peth: deliwch yr hyn sydd dda. 22 Ymgedwch rhag pob rhith drygioni. 23 A gwir Dduw’r tangnefedd a’ch sancteiddio yn gwbl oll: a chadwer eich ysbryd oll, a’ch enaid, a’ch corff, yn ddiargyhoedd yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist. 24 Ffyddlon yw’r hwn a’ch galwodd, yr hwn hefyd a’i gwna.

Ioan 1:6-8

Yr ydoedd gŵr wedi ei anfon oddi wrth Dduw, a’i enw Ioan. Hwn a ddaeth yn dystiolaeth, fel y tystiolaethai am y Goleuni, fel y credai pawb trwyddo ef. Nid efe oedd y Goleuni, eithr efe a anfonasid fel y tystiolaethai am y Goleuni.

Ioan 1:19-28

19 A hon yw tystiolaeth Ioan, pan anfonodd yr Iddewon o Jerwsalem offeiriaid a Lefiaid i ofyn iddo, Pwy wyt ti? 20 Ac efe a gyffesodd, ac ni wadodd; a chyffesodd, Nid myfi yw’r Crist. 21 A hwy a ofynasant iddo, Beth ynteu? Ai Eleias wyt ti? Yntau a ddywedodd, Nage. Ai’r Proffwyd wyt ti? Ac efe a atebodd, Nage. 22 Yna y dywedasant wrtho, Pwy wyt ti? fel y rhoddom ateb i’r rhai a’n danfonodd. Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd amdanat dy hun? 23 Eb efe, Myfi yw llef un yn gweiddi yn y diffeithwch, Unionwch ffordd yr Arglwydd, fel y dywedodd Eseias y proffwyd. 24 A’r rhai a anfonasid oedd o’r Phariseaid. 25 A hwy a ofynasant iddo, ac a ddywedasant wrtho, Paham gan hynny yr wyt ti yn bedyddio, onid ydwyt ti na’r Crist, nac Eleias, na’r proffwyd? 26 Ioan a atebodd iddynt, gan ddywedyd, Myfi sydd yn bedyddio â dwfr; ond y mae un yn sefyll yn eich plith chwi yr hwn nid adwaenoch chwi: 27 Efe yw’r hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, yr hwn a aeth o’m blaen i; yr hwn nid ydwyf fi deilwng i ddatod carrai ei esgid. 28 Y pethau hyn a wnaethpwyd yn Bethabara, y tu hwnt i’r Iorddonen, lle yr oedd Ioan yn bedyddio.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.