Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Caniad y graddau.
126 Pan ddychwelodd yr Arglwydd gaethiwed Seion, yr oeddem fel rhai yn breuddwydio. 2 Yna y llanwyd ein genau â chwerthin, a’n tafod â chanu: yna y dywedasant ymysg y cenhedloedd, Yr Arglwydd a wnaeth bethau mawrion i’r rhai hyn. 3 Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion; am hynny yr ydym yn llawen. 4 Dychwel, Arglwydd, ein caethiwed ni, fel yr afonydd yn y deau. 5 Y rhai sydd yn hau mewn dagrau, a fedant mewn gorfoledd. 6 Yr hwn sydd yn myned rhagddo, ac yn wylo, gan ddwyn had gwerthfawr, gan ddyfod a ddaw mewn gorfoledd, dan gludo ei ysgubau.
13 Aethost allan er iachawdwriaeth i’th bobl, er iachawdwriaeth ynghyd â’th eneiniog: torraist y pen allan o dŷ yr anwir, gan ddinoethi y sylfaen hyd y gwddf. Sela. 14 Trywenaist ben ei faestrefydd â’i ffyn ei hun; rhyferthwyasant i’m gwasgaru; ymlawenhasant, megis i fwyta y tlawd mewn dirgelwch. 15 Rhodiaist â’th feirch trwy y môr, trwy bentwr o ddyfroedd mawrion. 16 Pan glywais, fy mol a ddychrynodd; fy ngwefusau a grynasant wrth y llef: daeth pydredd i’m hesgyrn, ac yn fy lle y crynais, fel y gorffwyswn yn nydd trallod: pan ddêl efe i fyny at y bobl, efe a’u difetha hwynt â’i fyddinoedd.
17 Er i’r ffigysbren na flodeuo, ac na byddo ffrwyth ar y gwinwydd; gwaith yr olewydd a balla, a’r meysydd ni roddant fwyd; torrir ymaith y praidd o’r gorlan, ac ni bydd eidion yn eu beudai: 18 Eto mi a lawenychaf yn yr Arglwydd; byddaf hyfryd yn Nuw fy iachawdwriaeth. 19 Yr Arglwydd Dduw yw fy nerth, a’m traed a wna efe fel traed ewigod; ac efe a wna i mi rodio ar fy uchel leoedd. I’r pencerdd ar fy offer tannau.
28 Ond beth dybygwch chwi? Yr oedd gan ŵr ddau fab: ac efe a ddaeth at y cyntaf, ac a ddywedodd, Fy mab, dos, gweithia heddiw yn fy ngwinllan. 29 Ac yntau a atebodd ac a ddywedodd, Nid af: ond wedi hynny efe a edifarhaodd, ac a aeth. 30 A phan ddaeth efe at yr ail, efe a ddywedodd yr un modd. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Myfi a af, arglwydd; ac nid aeth efe. 31 Pa un o’r ddau a wnaeth ewyllys y tad? Dywedasant wrtho, Y cyntaf. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, yr â’r publicanod a’r puteiniaid i mewn i deyrnas Dduw o’ch blaen chwi. 32 Canys daeth Ioan atoch yn ffordd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef; ond y publicanod a’r puteiniaid a’i credasant ef: chwithau, yn gweled, nid edifarhasoch wedi hynny, fel y credech ef.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.