Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Caniad y graddau.
126 Pan ddychwelodd yr Arglwydd gaethiwed Seion, yr oeddem fel rhai yn breuddwydio. 2 Yna y llanwyd ein genau â chwerthin, a’n tafod â chanu: yna y dywedasant ymysg y cenhedloedd, Yr Arglwydd a wnaeth bethau mawrion i’r rhai hyn. 3 Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion; am hynny yr ydym yn llawen. 4 Dychwel, Arglwydd, ein caethiwed ni, fel yr afonydd yn y deau. 5 Y rhai sydd yn hau mewn dagrau, a fedant mewn gorfoledd. 6 Yr hwn sydd yn myned rhagddo, ac yn wylo, gan ddwyn had gwerthfawr, gan ddyfod a ddaw mewn gorfoledd, dan gludo ei ysgubau.
2 Clywais, O Arglwydd, dy air, ac ofnais: O Arglwydd, bywha dy waith yng nghanol y blynyddoedd, pâr wybod yng nghanol y blynyddoedd; yn dy lid cofia drugaredd. 3 Duw a ddaeth o Teman, a’r Sanctaidd o fynydd Paran. Sela. Ei ogoniant a dodd y nefoedd, a’r ddaear a lanwyd o’i fawl. 4 A’i lewyrch oedd fel goleuni: yr oedd cyrn iddo yn dyfod allan o’i law; ac yno yr oedd cuddiad ei gryfder. 5 Aeth yr haint o’i flaen ef, ac aeth marwor tanllyd allan wrth ei draed ef. 6 Safodd, a mesurodd y ddaear; edrychodd, a gwasgarodd y cenhedloedd: y mynyddoedd tragwyddol hefyd a ddrylliwyd, a’r bryniau oesol a grymasant: llwybrau tragwyddol sydd iddo.
12 Nid fel pe bawn wedi ei gyrhaeddyd eisoes, neu fod eisoes wedi fy mherffeithio; eithr dilyn yr wyf, fel y gallwyf ymaflyd yn y peth hwn hefyd yr ymaflwyd ynof gan Grist Iesu. 13 Y brodyr, nid wyf fi yn bwrw ddarfod i mi gael gafael: ond un peth, gan anghofio’r pethau sydd o’r tu cefn, ac ymestyn at y pethau o’r tu blaen, 14 Yr ydwyf yn cyrchu at y nod, am gamp uchel alwedigaeth Duw yng Nghrist Iesu. 15 Cynifer gan hynny ag ydym berffaith, syniwn hyn: ac os ydych yn synied dim yn amgen, hyn hefyd a ddatguddia Duw i chwi. 16 Er hynny, y peth y daethom ato, cerddwn wrth yr un rheol, syniwn yr un peth.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.