Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Caniad y graddau.
126 Pan ddychwelodd yr Arglwydd gaethiwed Seion, yr oeddem fel rhai yn breuddwydio. 2 Yna y llanwyd ein genau â chwerthin, a’n tafod â chanu: yna y dywedasant ymysg y cenhedloedd, Yr Arglwydd a wnaeth bethau mawrion i’r rhai hyn. 3 Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion; am hynny yr ydym yn llawen. 4 Dychwel, Arglwydd, ein caethiwed ni, fel yr afonydd yn y deau. 5 Y rhai sydd yn hau mewn dagrau, a fedant mewn gorfoledd. 6 Yr hwn sydd yn myned rhagddo, ac yn wylo, gan ddwyn had gwerthfawr, gan ddyfod a ddaw mewn gorfoledd, dan gludo ei ysgubau.
2 Safaf ar fy nisgwylfa, ac ymsefydlaf ar y tŵr, a gwyliaf, i edrych beth a ddywed efe wrthyf, a pha beth a atebaf pan y’m cerydder. 2 A’r Arglwydd a atebodd ac a ddywedodd, Ysgrifenna y weledigaeth, a gwna hi yn eglur ar lechau, fel y rhedo yr hwn a’i darlleno. 3 Canys y weledigaeth sydd eto dros amser gosodedig, ond hi a ddywed o’r diwedd, ac ni thwylla: os erys, disgwyl amdani; canys gan ddyfod y daw, nid oeda. 4 Wele, yr hwn a ymchwydda, nid yw uniawn ei enaid ynddo: ond y cyfiawn a fydd byw trwy ei ffydd.
5 A hefyd gan ei fod yn troseddu trwy win, gŵr balch yw efe, ac heb aros gartref, yr hwn a helaetha ei feddwl fel uffern, ac y mae fel angau, ac nis digonir; ond efe a gasgl ato yr holl genhedloedd, ac a gynnull ato yr holl bobloedd.
7 Eithr y pethau oedd elw i mi, y rhai hynny a gyfrifais i yn golled er mwyn Crist. 8 Ie, yn ddiamau, yr wyf hefyd yn cyfrif pob peth yn golled oherwydd ardderchowgrwydd gwybodaeth Crist Iesu fy Arglwydd: er mwyn yr hwn y’m colledwyd ym mhob peth, ac yr wyf yn eu cyfrif yn dom, fel yr enillwyf Grist, 9 Ac y’m ceir ynddo ef heb fy nghyfiawnder fy hun, yr hwn sydd o’r gyfraith, ond yr hwn sydd trwy ffydd Crist, sef y cyfiawnder sydd o Dduw trwy ffydd: 10 Fel yr adnabyddwyf ef, a grym ei atgyfodiad ef, a chymdeithas ei ddioddefiadau ef, gan fod wedi fy nghydffurfio â’i farwolaeth ef; 11 Os mewn un modd y gallwn gyrhaeddyd atgyfodiad y meirw:
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.