Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 27

Salm Dafydd.

27 Yr Arglwydd yw fy ngoleuni a’m hiachawdwriaeth; rhag pwy yr ofnaf? yr Arglwydd yw nerth fy mywyd; rhag pwy y dychrynaf? Pan nesaodd y rhai drygionus, sef fy ngwrthwynebwyr a’m gelynion, i’m herbyn, i fwyta fy nghnawd, hwy a dramgwyddasant ac a syrthiasant. Pe gwersyllai llu i’m herbyn, nid ofna fy nghalon: pe cyfodai cad i’m herbyn, yn hyn mi a fyddaf hyderus. Un peth a ddeisyfais i gan yr Arglwydd, hynny a geisiaf; sef caffael trigo yn nhŷ yr Arglwydd holl ddyddiau fy mywyd, i edrych ar brydferthwch yr Arglwydd, ac i ymofyn yn ei deml. Canys yn y dydd blin y’m cuddia o fewn ei babell: yn nirgelfa ei babell y’m cuddia; ar graig y’m cyfyd i. Ac yn awr y dyrcha efe fy mhen goruwch fy ngelynion o’m hamgylch: am hynny yr aberthaf yn ei babell ef ebyrth gorfoledd; canaf, ie, canmolaf yr Arglwydd. Clyw, O Arglwydd, fy lleferydd pan lefwyf: trugarha hefyd wrthyf, a gwrando arnaf. Pan ddywedaist, Ceisiwch fy wyneb; fy nghalon a ddywedodd wrthyt, Dy wyneb a geisiaf, O Arglwydd. Na chuddia dy wyneb oddi wrthyf; na fwrw ymaith dy was mewn soriant: fy nghymorth fuost; na ad fi, ac na wrthod fi, O Dduw fy iachawdwriaeth. 10 Pan yw fy nhad a’m mam yn fy ngwrthod, yr Arglwydd a’m derbyn. 11 Dysg i mi dy ffordd, Arglwydd, ac arwain fi ar hyd llwybrau uniondeb, oherwydd fy ngelynion. 12 Na ddyro fi i fyny i ewyllys fy ngelynion: canys gau dystion, a rhai a adroddant drawster, a gyfodasant i’m herbyn. 13 Diffygiaswn, pe na chredaswn weled daioni yr Arglwydd yn nhir y rhai byw. 14 Disgwyl wrth yr Arglwydd: ymwrola, ac efe a nertha dy galon: disgwyl, meddaf, wrth yr Arglwydd.

Malachi 2:10-3:1

10 Onid un Tad sydd i ni oll? onid un Duw a’n creodd ni? paham y gwnawn yn anffyddlon bob un yn erbyn ei frawd, gan halogi cyfamod ein tadau?

11 Jwda a wnaeth yn anffyddlon, a ffieidd-dra a wnaethpwyd yn Israel ac yn Jerwsalem: canys Jwda a halogodd sancteiddrwydd yr Arglwydd, yr hwn a hoffasai, ac a briododd ferch duw dieithr. 12 Yr Arglwydd a dyr ymaith y gŵr a wnêl hyn; yr athro a’r disgybl o bebyll Jacob, ac offrymydd offrwm i Arglwydd y lluoedd. 13 Hyn hefyd eilwaith a wnaethoch, gan orchuddio â dagrau allor yr Arglwydd trwy wylofain a gweiddi; fel nad edrych efe mwyach ar yr offrwm, ac na chymer ef yn fodlon o’ch llaw chwi.

14 Er hynny chwi a ddywedwch, Pa herwydd? Oherwydd mai yr Arglwydd a fu dyst rhyngot ti a rhwng gwraig dy ieuenctid, yr hon y buost anffyddlon iddi; er ei bod yn gymar i ti, ac yn wraig dy gyfamod. 15 Onid un a wnaeth efe? a’r ysbryd yng ngweddill ganddo. A phaham un? I geisio had duwiol. Am hynny gwyliwch ar eich ysbryd, ac na fydded neb anffyddlon yn erbyn gwraig ei ieuenctid. 16 Pan gasaech di hi, gollwng hi ymaith, medd yr Arglwydd, Duw Israel: canys gorchuddio y mae efe drais â’i wisg, medd Arglwydd y lluoedd: gan hynny gwyliwch ar eich ysbryd, na fyddoch anffyddlon.

17 Blinasoch yr Arglwydd â’ch geiriau: a chwi a ddywedwch, Ym mha beth y blinasom ef? Am i chwi ddywedyd, Pob gwneuthurwr drwg sydd dda yng ngolwg yr Arglwydd, ac iddynt y mae efe yn fodlon; neu, Pa le y mae Duw y farn?

Wele fi yn anfon fy nghennad, ac efe a arloesa y ffordd o’m blaen i: ac yn ddisymwth y daw yr Arglwydd, yr hwn yr ydych yn ei geisio, i’w deml; sef angel y cyfamod yr hwn yr ydych yn ei chwennych: wele efe yn dyfod, medd Arglwydd y lluoedd.

Luc 1:5-17

Yr oedd yn nyddiau Herod, brenin Jwdea, ryw offeiriad a’i enw Sachareias, o ddyddgylch Abeia: a’i wraig oedd o ferched Aaron, a’i henw Elisabeth. Ac yr oeddynt ill dau yn gyfiawn gerbron Duw, yn rhodio yn holl orchmynion a deddfau’r Arglwydd yn ddiargyhoedd. Ac nid oedd plentyn iddynt, am fod Elisabeth yn amhlantadwy; ac yr oeddynt wedi myned ill dau mewn gwth o oedran. A bu, ac efe yn gwasanaethu swydd offeiriad gerbron Duw, yn nhrefn ei ddyddgylch ef, Yn ôl arfer swydd yr offeiriaid, ddyfod o ran iddo arogldarthu yn ôl ei fyned i deml yr Arglwydd. 10 A holl liaws y bobl oedd allan yn gweddïo ar awr yr arogl‐darthiad. 11 Ac ymddangosodd iddo angel yr Arglwydd yn sefyll o’r tu deau i allor yr arogl‐darth. 12 A Sachareias, pan ganfu, a gythryblwyd, ac ofn a syrthiodd arno. 13 Eithr yr angel a ddywedodd wrtho, Nac ofna, Sachareias: canys gwrandawyd dy weddi; a’th wraig Elisabeth a ddwg i ti fab, a thi a elwi ei enw ef Ioan. 14 A bydd iti lawenydd a gorfoledd; a llawer a lawenychant am ei enedigaeth ef. 15 Canys mawr fydd efe yng ngolwg yr Arglwydd, ac nid yf na gwin na diod gadarn; ac efe a gyflawnir o’r Ysbryd Glân, ie, o groth ei fam. 16 A llawer o blant Israel a dry efe at yr Arglwydd eu Duw. 17 Ac efe a â o’i flaen ef yn ysbryd a nerth Eleias, i droi calonnau’r tadau at y plant, a’r anufudd i ddoethineb y cyfiawn; i ddarparu i’r Arglwydd bobl barod.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.