Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 79

Salm Asaff.

79 Y cenhedloedd, O Dduw, a ddaethant i’th etifeddiaeth; halogasant dy deml sanctaidd: gosodasant Jerwsalem yn garneddau. Rhoddasant gelanedd dy weision yn fwyd i adar y nefoedd, a chig dy saint i fwystfilod y ddaear. Tywalltasant eu gwaed fel dwfr o amgylch Jerwsalem: ac nid oedd a’u claddai. Yr ydym ni yn warthrudd i’n cymdogion; dirmyg a gwatwargerdd i’r rhai sydd o’n hamgylch. Pa hyd, Arglwydd? a ddigi di yn dragywydd? a lysg dy eiddigedd di fel tân? Tywallt dy lid ar y cenhedloedd ni’th adnabuant, ac ar y teyrnasoedd ni alwasant ar dy enw. Canys ysasant Jacob, ac a wnaethant ei breswylfa yn anghyfannedd. Na chofia yr anwireddau gynt i’n herbyn: brysia, rhagflaened dy dostur drugareddau ni: canys llesg iawn y’n gwnaethpwyd. Cynorthwya ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth, er mwyn gogoniant dy enw: gwared ni hefyd, a thrugarha wrth ein pechodau, er mwyn dy enw. 10 Paham y dywed y cenhedloedd, Pa le y mae eu Duw hwynt? bydded hysbys ymhlith y cenhedloedd yn ein golwg ni, wrth ddial gwaed dy weision yr hwn a dywalltwyd. 11 Deued uchenaid y carcharorion ger dy fron: yn ôl mawredd dy nerth cadw blant marwolaeth. 12 A thâl i’n cymdogion ar y seithfed i’w mynwes, eu cabledd trwy yr hon y’th gablasant di, O Arglwydd. 13 A ninnau dy bobl a defaid dy borfa, a’th foliannwn di yn dragywydd: datganwn dy foliant o genhedlaeth i genhedlaeth.

Micha 5:1-5

Yr awr hon ymfyddina, merch y fyddin; gosododd gynllwyn i’n herbyn: trawant farnwr Israel â gwialen ar ei gern. A thithau, Bethlehem Effrata, er dy fod yn fechan ymhlith miloedd Jwda, eto ohonot ti y daw allan i mi un i fod yn llywydd yn Israel; yr hwn yr oedd ei fynediad allan o’r dechreuad, er dyddiau tragwyddoldeb. Am hynny y rhydd efe hwynt i fyny, hyd yr amser y darffo i’r hon a esgoro esgor: yna gweddill ei frodyr ef a ddychwelant at feibion Israel.

Ac efe a saif, ac a bortha â nerth yr Arglwydd, yn ardderchowgrwydd enw yr Arglwydd ei Dduw; a hwy a drigant: canys yr awr hon efe a fawrheir hyd eithafoedd y ddaear. A hwn fydd yr heddwch, pan ddêl yr Asyriad i’n tir ni: a phan sathro o fewn ein palasau, yna cyfodwn yn ei erbyn saith fugail, ac wyth o’r dynion pennaf.

Luc 21:34-38

34 Ac edrychwch arnoch eich hunain, rhag i’ch calonnau un amser drymhau trwy lythineb, a meddwdod, a gofalon y bywyd hwn, a dyfod y dydd hwnnw arnoch yn ddisymwth; 35 Canys efe a ddaw, fel magl, ar warthaf pawb oll a’r sydd yn trigo ar wyneb yr holl ddaear. 36 Gwyliwch gan hynny a gweddïwch bob amser, ar gael eich cyfrif yn deilwng i ddianc rhag y pethau hyn oll sydd ar ddyfod, ac i sefyll gerbron Mab y dyn. 37 A’r dydd yr ydoedd efe yn athrawiaethu yn y deml; a’r nos yr oedd efe yn myned ac yn aros yn y mynydd a elwid yr Olewydd. 38 A’r holl bobl a foregyrchent ato ef yn y deml, i’w glywed ef.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.