Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
64 Ona rwygit y nefoedd, a disgyn, fel y toddai’r mynyddoedd o’th flaen di, 2 Fel pan losgo’r tân greision, y pair y tân i’r dwfr ferwi; i hysbysu dy enw i’th wrthwynebwyr, fel yr ofno’r cenhedloedd rhagot! 3 Pan wnaethost bethau ofnadwy ni ddisgwyliasom amdanynt, y disgynnaist, a’r mynyddoedd a doddasant o’th flaen. 4 Ac erioed ni chlywsant, ni dderbyniasant â chlustiau, ac ni welodd llygad, O Dduw, ond tydi, yr hyn a ddarparodd efe i’r neb a ddisgwyl wrtho. 5 Cyfarfyddi â’r hwn sydd lawen, ac a wna gyfiawnder; y rhai yn dy ffyrdd a’th gofiant di: wele, ti a ddigiaist, pan bechasom: ynddynt hwy y mae para, a ni a fyddwn cadwedig. 6 Eithr yr ydym ni oll megis peth aflan, ac megis bratiau budron yw ein holl gyfiawnderau; a megis deilen y syrthiasom ni oll; a’n hanwireddau, megis gwynt, a’n dug ni ymaith. 7 Ac nid oes a alwo ar dy enw, nac a ymgyfyd i ymaflyd ynot: canys cuddiaist dy wyneb oddi wrthym; difeaist ni, oherwydd ein hanwireddau. 8 Ond yn awr, O Arglwydd, ein Tad ni ydwyt ti: nyni ydym glai, a thithau yw ein lluniwr ni; ie, gwaith dy law ydym ni oll.
9 Na ddigia, Arglwydd, yn ddirfawr, ac na chofia anwiredd yn dragywydd: wele, edrych, atolwg, dy bobl di ydym ni oll.
I’r Pencerdd ar Sosannim Eduth, Salm Asaff.
80 Gwrando, O Fugail Israel, yr hwn wyt yn arwain Joseff fel praidd; ymddisgleiria, yr hwn wyt yn eistedd rhwng y ceriwbiaid. 2 Cyfod dy nerth o flaen Effraim a Benjamin a Manasse, a thyred yn iachawdwriaeth i ni. 3 Dychwel ni, O Dduw, a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir. 4 O Arglwydd Dduw y lluoedd, pa hyd y sorri wrth weddi dy bobl? 5 Porthaist hwynt â bara dagrau; a diodaist hwynt â dagrau wrth fesur mawr. 6 Gosodaist ni yn gynnen i’n cymdogion; a’n gelynion a’n gwatwarant yn eu mysg eu hun. 7 O Dduw y lluoedd, dychwel ni, a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.
17 Bydded dy law dros ŵr dy ddeheulaw, a thros fab y dyn yr hwn a gadarnheaist i ti dy hun. 18 Felly ni chiliwn yn ôl oddi wrthyt ti: bywha ni, a ni a alwn ar dy enw. 19 O Arglwydd Dduw y lluoedd, dychwel ni, llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.
3 Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad ni, a’r Arglwydd Iesu Grist. 4 Yr ydwyf yn diolch i’m Duw bob amser drosoch chwi, am y gras Duw a rodded i chwi yng Nghrist Iesu; 5 Am eich bod ym mhob peth wedi eich cyfoethogi ynddo ef, mewn pob ymadrodd, a phob gwybodaeth; 6 Megis y cadarnhawyd tystiolaeth Crist ynoch: 7 Fel nad ydych yn ôl mewn un dawn, yn disgwyl am ddatguddiad ein Harglwydd Iesu Grist: 8 Yr hwn hefyd a’ch cadarnha chwi hyd y diwedd, yn ddiargyhoedd, yn nydd ein Harglwydd Iesu Grist. 9 Ffyddlon yw Duw, trwy yr hwn y’ch galwyd i gymdeithas ei Fab ef Iesu Grist ein Harglwydd ni.
24 Ond yn y dyddiau hynny, wedi’r gorthrymder hwnnw, y tywylla’r haul, a’r lloer ni rydd ei goleuni, 25 A sêr y nef a syrthiant, a’r nerthoedd sydd yn y nefoedd a siglir. 26 Ac yna y gwelant Fab y dyn yn dyfod yn y cymylau, gyda gallu mawr a gogoniant. 27 Ac yna yr enfyn efe ei angylion, ac y cynnull ei etholedigion oddi wrth y pedwar gwynt, o eithaf y ddaear hyd eithaf y nef. 28 Ond dysgwch ddameg oddi wrth y ffigysbren: Pan fo ei gangen eisoes yn dyner, a’r dail yn torri allan, chwi a wyddoch fod yr haf yn agos: 29 Ac felly chwithau, pan weloch y pethau hyn wedi dyfod, gwybyddwch ei fod yn agos, wrth y drysau. 30 Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, nad â’r oes hon heibio, hyd oni wneler y pethau hyn oll. 31 Nef a daear a ânt heibio: ond y geiriau mau fi nid ânt heibio ddim.
32 Eithr am y dydd hwnnw a’r awr ni ŵyr neb, na’r angylion sydd yn y nef, na’r Mab, ond y Tad. 33 Ymogelwch, gwyliwch a gweddïwch: canys ni wyddoch pa bryd y bydd yr amser. 34 Canys Mab y dyn sydd fel gŵr yn ymdaith i bell, wedi gadael ei dŷ, a rhoi awdurdod i’w weision, ac i bob un ei waith ei hun, a gorchymyn i’r drysor wylio. 35 Gwyliwch gan hynny, (canys ni wyddoch pa bryd y daw meistr y tŷ, yn yr hwyr, ai hanner nos, ai ar ganiad y ceiliog, ai’r boreddydd;) 36 Rhag iddo ddyfod yn ddisymwth, a’ch cael chwi’n cysgu. 37 A’r hyn yr wyf yn eu dywedyd wrthych chwi, yr wyf yn eu dywedyd wrth bawb, Gwyliwch.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.