Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Salm Dafydd.
28 Arnat ti, Arglwydd, y gwaeddaf; fy nghraig, na ddistawa wrthyf: rhag, o thewi wrthyf, i mi fod yn gyffelyb i rai yn disgyn i’r pwll. 2 Erglyw lef fy ymbil pan waeddwyf arnat, pan ddyrchafwyf fy nwylo tuag at dy gafell sanctaidd. 3 Na thyn fi gyda’r annuwiolion, a chyda gweithredwyr anwiredd; y rhai a lefarant heddwch wrth eu cymdogion, a drwg yn eu calon. 4 Dyro iddynt yn ôl eu gweithred, ac yn ôl drygioni eu dychmygion: dyro iddynt yn ôl gweithredoedd eu dwylo; tâl iddynt eu haeddedigaethau. 5 Am nad ystyriant weithredoedd yr Arglwydd, na gwaith ei ddwylo ef, y dinistria efe hwynt, ac nis adeilada hwynt. 6 Bendigedig fyddo yr Arglwydd: canys clybu lef fy ngweddïau. 7 Yr Arglwydd yw fy nerth, a’m tarian; ynddo ef yr ymddiriedodd fy nghalon, a myfi a gynorthwywyd: oherwydd hyn y llawenychodd fy nghalon, ac ar fy nghân y clodforaf ef. 8 Yr Arglwydd sydd nerth i’r cyfryw rai, a chadernid iachawdwriaeth ei Eneiniog yw efe. 9 Cadw dy bobl, a bendithia dy etifeddiaeth: portha hwynt hefyd, a dyrcha hwynt yn dragywydd.
4 Fel hyn y dywed yr Arglwydd fy Nuw; Portha ddefaid y lladdfa; 5 Y rhai y mae eu perchenogion yn eu lladd, heb dybied eu bod yn euog; a’u gwerthwyr a ddywedant, Bendigedig fyddo yr Arglwydd, am fy nghyfoethogi: a’u bugeiliaid nid arbedant hwynt. 6 Canys nid arbedaf mwyach drigolion y wlad, medd yr Arglwydd; ond wele fi yn rhoddi y dynion bob un i law ei gymydog, ac i law ei frenin; a hwy a drawant y tir, ac nid achubaf hwynt o’u llaw hwy. 7 A mi a borthaf ddefaid y lladdfa, sef chwi, drueiniaid y praidd. A chymerais i mi ddwy ffon; un a elwais Hyfrydwch, a’r llall a elwais Rhwymau; a mi a borthais y praidd. 8 A thorrais ymaith dri bugail mewn un mis; a’m henaid a alarodd arnynt hwy, a’u henaid hwythau a’m ffieiddiodd innau. 9 Dywedais hefyd, Ni phorthaf chwi: a fyddo farw, bydded farw; ac y sydd i’w dorri ymaith, torrer ef ymaith; a’r gweddill, ysant bob un gnawd ei gilydd.
10 A chymerais fy ffon Hyfrydwch, a thorrais hi, i dorri fy nghyfamod yr hwn a amodaswn â’r holl bobl. 11 A’r dydd hwnnw y torrwyd hi: ac felly y gwybu trueiniaid y praidd, y rhai oedd yn disgwyl wrthyf fi, mai gair yr Arglwydd oedd hyn. 12 A dywedais wrthynt, Os gwelwch yn dda, dygwch fy ngwerth; ac onid e, peidiwch: a’m gwerth a bwysasant yn ddeg ar hugain o arian. 13 A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Bwrw ef i’r crochenydd: pris teg â’r hwn y’m prisiwyd ganddynt. A chymerais y deg ar hugain arian, a bwriais hwynt i dŷ yr Arglwydd, i’r crochenydd. 14 Yna mi a dorrais fy ail ffon, sef Rhwymau, i dorri y brawdoliaeth rhwng Jwda ac Israel.
15 A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Cymer eto i ti offer bugail ffôl. 16 Canys wele fi yn codi bugail yn y tir, yr hwn ni ofwya y cuddiedig, ni chais yr ieuanc, ni feddyginiaetha y briwedig, a fyddo yn sefyll ni phortha; ond bwyty gig y bras, ac a ddryllia eu hewinedd hwynt. 17 Gwae yr eilun bugail, yn gadael y praidd: y cleddyf fydd ar ei fraich, ac ar ei lygad deau: ei fraich gan wywo a wywa, a’i lygad deau gan dywyllu a dywylla.
19 Ac ar ôl y pethau hyn mi a glywais megis llef uchel gan dyrfa fawr yn y nef, yn dywedyd, Aleliwia; Iachawdwriaeth, a gogoniant, ac anrhydedd, a gallu, i’r Arglwydd ein Duw ni: 2 Oblegid cywir a chyfiawn yw ei farnau ef: oblegid efe a farnodd y butain fawr, yr hon a lygrodd y ddaear â’i phuteindra, ac a ddialodd waed ei weision ar ei llaw hi. 3 Ac eilwaith y dywedasant, Aleliwia. A’i mwg hi a gododd yn oes oesoedd. 4 A syrthiodd y pedwar henuriad ar hugain a’r pedwar anifail i lawr, ac a addolasant Dduw, yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc; gan ddywedyd, Amen; Aleliwia. 5 A llef a ddaeth allan o’r orseddfainc, yn dywedyd, Moliennwch ein Duw ni, ei holl weision ef, a’r rhai ydych yn ei ofni ef, bychain a mawrion hefyd. 6 Ac mi a glywais megis llef tyrfa fawr, ac megis llef dyfroedd lawer, ac megis llef taranau cryfion, yn dywedyd, Aleliwia: oblegid teyrnasodd yr Arglwydd Dduw Hollalluog. 7 Llawenychwn, a gorfoleddwn, a rhoddwn ogoniant iddo ef: oblegid daeth priodas yr Oen, a’i wraig ef a’i paratôdd ei hun. 8 A chaniatawyd iddi gael ei gwisgo â lliain main glân a disglair: canys y lliain main ydyw cyfiawnder y saint. 9 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ysgrifenna, Bendigedig yw’r rhai a elwir i swper neithior yr Oen. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Gwir eiriau Duw yw’r rhai hyn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.