Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Salm Dafydd.
28 Arnat ti, Arglwydd, y gwaeddaf; fy nghraig, na ddistawa wrthyf: rhag, o thewi wrthyf, i mi fod yn gyffelyb i rai yn disgyn i’r pwll. 2 Erglyw lef fy ymbil pan waeddwyf arnat, pan ddyrchafwyf fy nwylo tuag at dy gafell sanctaidd. 3 Na thyn fi gyda’r annuwiolion, a chyda gweithredwyr anwiredd; y rhai a lefarant heddwch wrth eu cymdogion, a drwg yn eu calon. 4 Dyro iddynt yn ôl eu gweithred, ac yn ôl drygioni eu dychmygion: dyro iddynt yn ôl gweithredoedd eu dwylo; tâl iddynt eu haeddedigaethau. 5 Am nad ystyriant weithredoedd yr Arglwydd, na gwaith ei ddwylo ef, y dinistria efe hwynt, ac nis adeilada hwynt. 6 Bendigedig fyddo yr Arglwydd: canys clybu lef fy ngweddïau. 7 Yr Arglwydd yw fy nerth, a’m tarian; ynddo ef yr ymddiriedodd fy nghalon, a myfi a gynorthwywyd: oherwydd hyn y llawenychodd fy nghalon, ac ar fy nghân y clodforaf ef. 8 Yr Arglwydd sydd nerth i’r cyfryw rai, a chadernid iachawdwriaeth ei Eneiniog yw efe. 9 Cadw dy bobl, a bendithia dy etifeddiaeth: portha hwynt hefyd, a dyrcha hwynt yn dragywydd.
15 A llefarodd Moses wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd, 16 Gosoded yr Arglwydd, Duw ysbrydion pob cnawd, un ar y gynulleidfa, 17 Yr hwn a elo allan o’u blaen hwynt, ac a ddelo i mewn o’u blaen hwynt, a’r hwn a’u dygo hwynt allan, ac a’u dygo hwynt i mewn; fel na byddo cynulleidfa’r Arglwydd fel defaid ni byddo bugail arnynt.
18 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cymer atat Josua mab Nun, y gŵr y mae yr ysbryd ynddo, a gosod dy law arno; 19 A dod ef i sefyll gerbron Eleasar yr offeiriad, a cherbron yr holl gynulleidfa; a dod orchymyn iddo ef yn eu gŵydd hwynt. 20 A dod o’th ogoniant di arno ef, fel y gwrandawo holl gynulleidfa meibion Israel arno. 21 A safed gerbron Eleasar yr offeiriad, yr hwn a ofyn gyngor drosto ef, yn ôl barn Urim, gerbron yr Arglwydd: wrth ei air ef yr ânt allan, ac wrth ei air ef y deuant i mewn, efe a holl feibion Israel gydag ef, a’r holl gynulleidfa. 22 A gwnaeth Moses megis y gorchmynnodd yr Arglwydd iddo: ac a gymerodd Josua, ac a barodd iddo sefyll gerbron Eleasar yr offeiriad, a cherbron yr holl gynulleidfa. 23 Ac efe a osododd ei ddwylo arno, ac a roddodd orchymyn iddo; megis y llefarasai yr Arglwydd trwy law Moses.
8 Cofia gyfodi Iesu Grist o had Dafydd, o feirw, yn ôl fy efengyl i: 9 Yn yr hon yr ydwyf yn goddef cystudd hyd rwymau, fel drwgweithredwr; eithr gair Duw nis rhwymir. 10 Am hynny yr ydwyf yn goddef pob peth er mwyn yr etholedigion, fel y gallont hwythau gael yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist Iesu, gyda gogoniant tragwyddol. 11 Gwir yw’r gair: Canys os buom feirw gydag ef, byw fyddwn hefyd gydag ef: 12 Os dioddefwn, ni a deyrnaswn gydag ef: os gwadwn ef, yntau hefyd a’n gwad ninnau: 13 Os ŷm ni heb gredu, eto y mae efe yn aros yn ffyddlon: nis gall efe ei wadu ei hun.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.