Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
11 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Wele myfi, ie, myfi a ymofynnaf am fy mhraidd, ac a’u ceisiaf hwynt. 12 Fel y cais bugail ei ddiadell ar y dydd y byddo ymysg ei ddefaid gwasgaredig, felly y ceisiaf finnau fy nefaid, ac a’u gwaredaf hwynt o bob lle y gwasgarer hwynt iddo ar y dydd cymylog a thywyll. 13 A dygaf hwynt allan o fysg y bobloedd, a chasglaf hwynt o’r tiroedd, a dygaf hwynt i’w tir eu hun, a phorthaf hwynt ar fynyddoedd Israel wrth yr afonydd, ac yn holl drigfannau y wlad. 14 Mewn porfa dda y porthaf hwynt, ac ar uchel fynyddoedd Israel y bydd eu corlan hwynt: yno y gorweddant mewn corlan dda, ie, mewn porfa fras y porant ar fynyddoedd Israel. 15 Myfi a borthaf fy mhraidd, a myfi a’u gorweddfâf hwynt, medd yr Arglwydd Dduw. 16 Y golledig a geisiaf, a’r darfedig a ddychwelaf, a’r friwedig a rwymaf, a’r lesg a gryfhaf: eithr dinistriaf y fras a’r gref; â barn y porthaf hwynt.
20 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrthynt hwy; Wele myfi, ie, myfi a farnaf rhwng milyn bras a milyn cul. 21 Oherwydd gwthio ohonoch ag ystlys ac ag ysgwydd, a chornio ohonoch â’ch cyrn y rhai llesg oll, hyd oni wasgarasoch hwynt allan: 22 Am hynny y gwaredaf fy mhraidd, fel na byddont mwy yn ysbail; a barnaf rhwng milyn a milyn. 23 Cyfodaf hefyd un bugail arnynt, ac efe a’u portha hwynt, sef fy ngwas Dafydd; efe a’u portha hwynt, ac efe a fydd yn fugail iddynt. 24 A minnau yr Arglwydd a fyddaf yn Dduw iddynt, a’m gwas Dafydd yn dywysog yn eu mysg: myfi yr Arglwydd a leferais hyn.
Salm o foliant.
100 Cenwch yn llafar i’r Arglwydd, yr holl ddaear. 2 Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn llawenydd: deuwch o’i flaen ef â chân. 3 Gwybyddwch mai yr Arglwydd sydd Dduw: efe a’n gwnaeth, ac nid ni ein hunain: ei bobl ef ydym, a defaid ei borfa. 4 Ewch i mewn i’w byrth ef â diolch, ac i’w gynteddau â mawl: diolchwch iddo, a bendithiwch ei enw. 5 Canys da yw yr Arglwydd: ei drugaredd sydd yn dragywydd; a’i wirionedd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
15 Oherwydd hyn minnau hefyd, wedi clywed eich ffydd yn yr Arglwydd Iesu, a’ch cariad tuag ar yr holl saint, 16 Nid wyf yn peidio â diolch drosoch, gan wneuthur coffa amdanoch yn fy ngweddïau; 17 Ar i Dduw ein Harglwydd Iesu Grist, Tad y gogoniant, roddi i chwi Ysbryd doethineb a datguddiad, trwy ei adnabod ef: 18 Wedi goleuo llygaid eich meddyliau; fel y gwypoch beth yw gobaith ei alwedigaeth ef, a pheth yw golud gogoniant ei etifeddiaeth ef yn y saint, 19 A pheth yw rhagorol fawredd ei nerth ef tuag atom ni y rhai ŷm yn credu, yn ôl gweithrediad nerth ei gadernid ef; 20 Yr hon a weithredodd efe yng Nghrist, pan ei cyfododd ef o feirw, ac a’i gosododd i eistedd ar ei ddeheulaw ei hun yn y nefolion leoedd, 21 Goruwch pob tywysogaeth, ac awdurdod, a gallu, ac arglwyddiaeth, a phob enw a enwir, nid yn unig yn y byd hwn, ond hefyd yn yr hwn a ddaw: 22 Ac a ddarostyngodd bob peth dan ei draed ef, ac a’i rhoddes ef yn ben uwchlaw pob peth i’r eglwys, 23 Yr hon yw ei gorff ef, ei gyflawnder ef, yr hwn sydd yn cyflawni oll yn oll.
31 A Mab y dyn, pan ddêl yn ei ogoniant, a’r holl angylion sanctaidd gydag ef, yna yr eistedd ar orseddfainc ei ogoniant. 32 A chydgesglir ger ei fron ef yr holl genhedloedd: ac efe a’u didola hwynt oddi wrth ei gilydd, megis y didola’r bugail y defaid oddi wrth y geifr: 33 Ac a esyd y defaid ar ei ddeheulaw, ond y geifr ar yr aswy. 34 Yna y dywed y Brenin wrth y rhai ar ei ddeheulaw, Deuwch, chwi fendigedigion fy Nhad, etifeddwch y deyrnas a baratowyd i chwi er seiliad y byd. 35 Canys bûm newynog, a chwi a roesoch imi fwyd: bu arnaf syched, a rhoesoch imi ddiod: bûm ddieithr, a dygasoch fi gyda chwi: 36 Noeth, a dilladasoch fi: bûm glaf, ac ymwelsoch â mi: bûm yng ngharchar, a daethoch ataf. 37 Yna yr etyb y rhai cyfiawn iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y’th welsom yn newynog, ac y’th borthasom? neu yn sychedig, ac y rhoesom iti ddiod? 38 A pha bryd y’th welsom yn ddieithr, ac y’th ddygasom gyda ni? neu yn noeth, ac y’th ddilladasom? 39 A pha bryd y’th welsom yn glaf, neu yng ngharchar, ac y daethom atat? 40 A’r Brenin a etyb, ac a ddywed wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Yn gymaint â’i wneuthur ohonoch i un o’r rhai hyn fy mrodyr lleiaf, i mi y gwnaethoch. 41 Yna y dywed efe hefyd wrth y rhai a fyddant ar y llaw aswy, Ewch oddi wrthyf, rai melltigedig, i’r tân tragwyddol, yr hwn a baratowyd i ddiafol ac i’w angylion. 42 Canys bûm newynog, ac ni roesoch i mi fwyd: bu arnaf syched, ac ni roesoch i mi ddiod: 43 Bûm ddieithr, ac ni’m dygasoch gyda chwi: noeth, ac ni’m dilladasoch: yn glaf ac yng ngharchar, ac nid ymwelsoch â mi. 44 Yna yr atebant hwythau hefyd iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y’th welsom yn newynog, neu yn sychedig, neu yn ddieithr, neu yn noeth, neu yn glaf, neu yng ngharchar, ac ni weiniasom iti? 45 Yna yr etyb efe iddynt, gan ddywedyd, Yn wir meddaf i chwi, Yn gymaint ag nas gwnaethoch i’r un o’r rhai lleiaf hyn, nis gwnaethoch i minnau. 46 A’r rhai hyn a ânt i gosbedigaeth dragwyddol: ond y rhai cyfiawn i fywyd tragwyddol.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.