Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Cân neu Salm Asaff.
83 O Dduw, na ostega: na thaw, ac na fydd lonydd, O Dduw. 2 Canys wele, dy elynion sydd yn terfysgu; a’th gaseion yn cyfodi eu pennau. 3 Ymgyfrinachasant yn ddichellgar yn erbyn dy bobl, ac ymgyngorasant yn erbyn dy rai dirgel di. 4 Dywedasant, Deuwch, a difethwn hwynt fel na byddont yn genedl; ac na chofier enw Israel mwyach.
9 Gwna di iddynt fel i Midian; megis i Sisera, megis i Jabin, wrth afon Cison: 10 Yn Endor y difethwyd hwynt: aethant yn dail i’r ddaear.
17 Cywilyddier a thralloder hwynt yn dragywydd; ie, gwaradwydder a difether hwynt: 18 Fel y gwypont mai tydi, yr hwn yn unig wyt JEHOFAH wrth dy enw, wyt Oruchaf ar yr holl ddaear.
7 Felly daeth y brenin a Haman i gyfeddach gydag Esther y frenhines. 2 A dywedodd y brenin wrth Esther drachefn yr ail ddydd, wrth gyfeddach y gwin, Beth yw dy ddymuniad, Esther y frenhines? ac fe a roddir i ti; a pha beth yw dy ddeisyfiad? gofyn hyd yn hanner y deyrnas, ac fe a’i cwblheir. 3 A’r frenhines Esther a atebodd, ac a ddywedodd, O chefais ffafr yn dy olwg di, O frenin, ac o rhyglydda bodd i’r brenin, rhodder i mi fy einioes ar fy nymuniad, a’m pobl ar fy neisyfiad. 4 Canys gwerthwyd ni, myfi a’m pobl, i’n dinistrio, i’n lladd, ac i’n difetha: ond pe gwerthasid ni yn gaethweision ac yn gaethforynion, mi a dawswn â sôn, er nad yw y gwrthwynebwr yn cystadlu colled y brenin.
5 Yna y llefarodd y brenin Ahasferus, ac y dywedodd wrth Esther y frenhines, Pwy yw hwnnw? a pha le y mae efe, yr hwn a glywai ar ei galon wneuthur felly? 6 A dywedodd Esther, Y gwrthwynebwr a’r gelyn yw yr Haman drygionus hwn. Yna Haman a ofnodd gerbron y brenin a’r frenhines.
7 A’r brenin a gyfododd yn ei ddicllonedd o gyfeddach y gwin, ac a aeth i ardd y palas: a Haman a safodd i ymbil ag Esther y frenhines am ei einioes; canys efe a welodd fod drwg wedi ei baratoi yn ei erbyn ef oddi wrth y brenin. 8 Yna y dychwelodd y brenin o ardd y palas i dŷ cyfeddach y gwin. Ac yr oedd Haman wedi syrthio ar y gwely yr oedd Esther arno. Yna y dywedodd y brenin, Ai treisio y frenhines hefyd y mae efe yn tŷ gyda mi? Hwy’n gyntaf ag yr aeth y gair allan o enau y brenin, hwy a orchuddiasant wyneb Haman. 9 A Harbona, un o’r ystafellyddion, a ddywedodd yng ngŵydd y brenin, Wele hefyd y crocbren a baratôdd Haman i Mordecai, yr hwn a lefarodd ddaioni am y brenin, yn sefyll yn nhŷ Haman, yn ddeg cufydd a deugain o uchder. Yna y dywedodd y brenin, Crogwch ef ar hwnnw. 10 Felly hwy a grogasant Haman ar y pren a barasai efe ei ddarparu i Mordecai. Yna dicllonedd y brenin a lonyddodd.
45 Pwy gan hynny sydd was ffyddlon a doeth, yr hwn a osododd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi bwyd iddynt mewn pryd? 46 Gwyn ei fyd y gwas hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef, pan ddelo, yn gwneuthur felly. 47 Yn wir meddaf i chwi, Ar ei holl dda y gesyd efe ef. 48 Ond os dywed y gwas drwg hwnnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod; 49 A dechrau curo ei gyd‐weision, a bwyta ac yfed gyda’r meddwon; 50 Arglwydd y gwas hwnnw a ddaw yn y dydd nid yw efe yn disgwyl amdano, ac mewn awr nis gŵyr efe; 51 Ac efe a’i gwahana ef, ac a esyd ei ran ef gyda’r rhagrithwyr: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.