Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Cân neu Salm Asaff.
83 O Dduw, na ostega: na thaw, ac na fydd lonydd, O Dduw. 2 Canys wele, dy elynion sydd yn terfysgu; a’th gaseion yn cyfodi eu pennau. 3 Ymgyfrinachasant yn ddichellgar yn erbyn dy bobl, ac ymgyngorasant yn erbyn dy rai dirgel di. 4 Dywedasant, Deuwch, a difethwn hwynt fel na byddont yn genedl; ac na chofier enw Israel mwyach.
9 Gwna di iddynt fel i Midian; megis i Sisera, megis i Jabin, wrth afon Cison: 10 Yn Endor y difethwyd hwynt: aethant yn dail i’r ddaear.
17 Cywilyddier a thralloder hwynt yn dragywydd; ie, gwaradwydder a difether hwynt: 18 Fel y gwypont mai tydi, yr hwn yn unig wyt JEHOFAH wrth dy enw, wyt Oruchaf ar yr holl ddaear.
2 Yna gŵr o dŷ Lefi a aeth, ac a briododd ferch i Lefi. 2 A’r wraig a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab: a phan welodd hi mai tlws ydoedd efe, hi a’i cuddiodd ef dri mis. 3 A phan na allai hi ei guddio ef yn hwy, hi a gymerodd gawell iddo ef o lafrwyn, ac a ddwbiodd hwnnw â chlai ac â phyg; ac a osododd y bachgen ynddo, ac a’i rhoddodd ymysg yr hesg ar fin yr afon. 4 A’i chwaer ef a safodd o bell, i gael gwybod beth a wneid iddo ef.
5 A merch Pharo a ddaeth i waered i’r afon i ymolchi; (a’i llancesau oedd yn rhodio gerllaw yr afon;) a hi a ganfu’r cawell yng nghanol yr hesg, ac a anfonodd ei llawforwyn i’w gyrchu ef. 6 Ac wedi iddi ei agoryd, hi a ganfu’r bachgen; ac wele y plentyn yn wylo: a hi a dosturiodd wrtho, ac a ddywedodd, Un o blant yr Hebreaid yw hwn. 7 Yna ei chwaer ef a ddywedodd wrth ferch Pharo, A af fi i alw atat famaeth o’r Hebreësau, fel y mago hi y bachgen i ti? 8 A merch Pharo a ddywedodd wrthi, Dos. A’r llances a aeth ac a alwodd fam y bachgen. 9 A dywedodd merch Pharo wrthi, Dwg ymaith y bachgen hwn, a maga ef i mi, a minnau a roddaf i ti dy gyflog. A’r wraig a gymerodd y bachgen, ac a’i magodd. 10 Pan aeth y bachgen yn fawr, hi a’i dug ef i ferch Pharo; ac efe a fu iddi yn fab: a hi a alwodd ei enw ef Moses; Oherwydd (eb hi) o’r dwfr y tynnais ef.
12 Ac yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, adnabod y rhai sydd yn llafurio yn eich mysg, ac yn eich llywodraethu chwi yn yr Arglwydd, ac yn eich rhybuddio; 13 A gwneuthur cyfrif mawr ohonynt mewn cariad, er mwyn eu gwaith. Byddwch dangnefeddus yn eich plith eich hunain. 14 Ond yr ydym yn deisyf arnoch, frodyr, rhybuddiwch y rhai afreolus, diddenwch y gwan eu meddwl, cynheliwch y gweiniaid, byddwch ymarhous wrth bawb. 15 Gwelwch na thalo neb ddrwg dros ddrwg i neb: eithr yn wastadol dilynwch yr hyn sydd dda, tuag at eich gilydd, a thuag at bawb. 16 Byddwch lawen yn wastadol. 17 Gweddïwch yn ddi-baid. 18 Ym mhob dim diolchwch: canys hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu tuag atoch chwi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.