Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 123

Caniad y graddau.

123 Atat ti y dyrchafaf fy llygaid, ti yr hwn a breswyli yn y nefoedd. Wele, fel y mae llygaid gweision ar law eu meistriaid, neu fel y mae llygaid llawforwyn ar law ei meistres; felly y mae ein llygaid ni ar yr Arglwydd ein Duw, hyd oni thrugarhao efe wrthym ni. Trugarha wrthym, Arglwydd, trugarha wrthym; canys llanwyd ni â dirmyg yn ddirfawr. Yn ddirfawr y llanwyd ein henaid â gwatwargerdd y rhai goludog, ac â diystyrwch y beilchion.

Barnwyr 5:1-12

Yna y canodd Debora a Barac mab Abinoam, y diwrnod hwnnw, gan ddywedyd, Am ddial dialeddau Israel, ac ymgymell o’r bobl, bendithiwch yr Arglwydd. Clywch, O frenhinoedd; gwrandewch, O dywysogion: myfi, myfi a ganaf i’r Arglwydd; canaf fawl i Arglwydd Dduw Israel. O Arglwydd, pan aethost allan o Seir, pan gerddaist o faes Edom, y ddaear a grynodd, a’r nefoedd a ddiferasant, a’r cymylau a ddefnynasant ddwfr. Y mynyddoedd a doddasant o flaen yr Arglwydd, sef y Sinai hwnnw, o flaen Arglwydd Dduw Israel. Yn nyddiau Samgar mab Anath, yn nyddiau Jael, y llwybrau a aeth yn anhygyrch, a’r fforddolion a gerddasant lwybrau ceimion. Y maestrefi a ddarfuant yn Israel: darfuant, nes i mi, Debora, gyfodi; nes i mi gyfodi yn fam yn Israel. Dewisasant dduwiau newyddion; yna rhyfel oedd yn y pyrth: a welwyd tarian na gwaywffon ymysg deugain mil yn Israel? Fy nghalon sydd tuag at ddeddfwyr Israel, y rhai fu ewyllysgar ymhlith y bobl. Bendithiwch yr Arglwydd. 10 Y rhai sydd yn marchogaeth ar asynnod gwynion, y rhai sydd yn eistedd mewn barn, ac yn rhodio ar hyd y ffordd, lleferwch. 11 Y rhai a waredwyd rhag trwst y saethyddion yn y lleoedd y tynnir dwfr; yno yr adroddant gyfiawnderau yr Arglwydd, cyfiawnderau tuag at y trefydd yn Israel: yna pobl yr Arglwydd a ânt i waered i’r pyrth. 12 Deffro, deffro, Debora; deffro, deffro; traetha gân: cyfod, Barac, a chaethgluda dy gaethglud, O fab Abinoam.

Mathew 12:43-45

43 A phan êl yr ysbryd aflan allan o ddyn, efe a rodia ar hyd lleoedd sychion, gan geisio gorffwystra, ac nid yw yn ei gael. 44 Yna medd efe, Mi a ddychwelaf i’m tŷ o’r lle y deuthum allan. Ac wedi y delo, y mae yn ei gael yn wag, wedi ei ysgubo a’i drwsio. 45 Yna y mae efe yn myned, ac yn cymryd gydag ef ei hun saith ysbryd eraill gwaeth nag ef ei hun; ac wedi iddynt fyned i mewn, hwy a gyfanheddant yno: ac y mae diwedd y dyn hwnnw yn waeth na’i ddechreuad. Felly y bydd hefyd i’r genhedlaeth ddrwg hon.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.