Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 123

Caniad y graddau.

123 Atat ti y dyrchafaf fy llygaid, ti yr hwn a breswyli yn y nefoedd. Wele, fel y mae llygaid gweision ar law eu meistriaid, neu fel y mae llygaid llawforwyn ar law ei meistres; felly y mae ein llygaid ni ar yr Arglwydd ein Duw, hyd oni thrugarhao efe wrthym ni. Trugarha wrthym, Arglwydd, trugarha wrthym; canys llanwyd ni â dirmyg yn ddirfawr. Yn ddirfawr y llanwyd ein henaid â gwatwargerdd y rhai goludog, ac â diystyrwch y beilchion.

Barnwyr 2:16-23

16 Eto yr Arglwydd a gododd farnwyr, y rhai a’u hachubodd hwynt o law eu hanrheithwyr. 17 Ond ni wrandawent chwaith ar eu barnwyr; eithr puteiniasant ar ôl duwiau dieithr, ac ymgrymasant iddynt: ciliasant yn ebrwydd o’r ffordd y rhodiasai eu tadau hwynt ynddi, gan wrando ar orchmynion yr Arglwydd; ond ni wnaethant hwy felly. 18 A phan godai yr Arglwydd farnwyr arnynt hwy, yna yr Arglwydd fyddai gyda’r barnwr, ac a’u gwaredai hwynt o law eu gelynion holl ddyddiau y barnwr: canys yr Arglwydd a dosturiai wrth eu griddfan hwynt, rhag eu gorthrymwyr a’u cystuddwyr. 19 A phan fyddai farw y barnwr, hwy a ddychwelent, ac a ymlygrent yn fwy na’u tadau, gan fyned ar ôl duwiau dieithr, i’w gwasanaethu hwynt, ac i ymgrymu iddynt: ni pheidiasant â’u gweithredoedd eu hunain, nac â’u ffordd wrthnysig.

20 A dicllonedd yr Arglwydd a lidiai yn erbyn Israel: ac efe a ddywedai, Oblegid i’r genedl hon droseddu fy nghyfamod a orchmynnais i’w tadau hwynt, ac na wrandawsant ar fy llais; 21 Ni chwanegaf finnau yrru ymaith o’u blaen hwynt neb o’r cenhedloedd a adawodd Josua pan fu farw: 22 I brofi Israel trwyddynt hwy, a gadwent hwy ffordd yr Arglwydd, gan rodio ynddi, fel y cadwodd eu tadau hwynt, neu beidio. 23 Am hynny yr Arglwydd a adawodd y cenhedloedd hynny, heb eu gyrru ymaith yn ebrwydd; ac ni roddodd hwynt yn llaw Josua.

Datguddiad 16:8-21

A’r pedwerydd angel a dywalltodd ei ffiol ar yr haul; a gallu a roed iddo i boethi dynion â thân. A phoethwyd y dynion â gwres mawr; a hwy a gablasant enw Duw, yr hwn sydd ag awdurdod ganddo ar y plâu hyn: ac nid edifarhasant, i roi gogoniant iddo ef. 10 A’r pumed angel a dywalltodd ei ffiol ar orseddfainc y bwystfil; a’i deyrnas ef a aeth yn dywyll: a hwy a gnoesant eu tafodau gan ofid, 11 Ac a gablasant Dduw’r nef, oherwydd eu poenau, ac oherwydd eu cornwydydd; ac nid edifarhasant oddi wrth eu gweithredoedd. 12 A’r chweched angel a dywalltodd ei ffiol ar yr afon fawr Ewffrates; a sychodd ei dwfr hi, fel y paratoid ffordd brenhinoedd y dwyrain. 13 Ac mi a welais dri ysbryd aflan tebyg i lyffaint yn dyfod allan o safn y ddraig, ac allan o safn y bwystfil, ac allan o enau’r gau broffwyd. 14 Canys ysbrydion cythreuliaid, yn gwneuthur gwyrthiau, ydynt, y rhai sydd yn myned allan at frenhinoedd y ddaear, a’r holl fyd, i’w casglu hwy i ryfel y dydd hwnnw, dydd mawr Duw Hollalluog. 15 Wele, yr wyf fi yn dyfod fel lleidr. Gwyn ei fyd yr hwn sydd yn gwylio, ac yn cadw ei ddillad, fel na rodio yn noeth, ac iddynt weled ei anharddwch ef. 16 Ac efe a’u casglodd hwynt ynghyd i le a elwir yn Hebraeg, Armagedon. 17 A’r seithfed angel a dywalltodd ei ffiol i’r awyr; a daeth llef uchel allan o deml y nef, oddi wrth yr orseddfainc, yn dywedyd, Darfu. 18 Ac yr oedd lleisiau a tharanau, a mellt; ac yr oedd daeargryn mawr, y fath ni bu er pan yw dynion ar y ddaear, cymaint daeargryn, ac mor fawr. 19 A gwnaethpwyd y ddinas fawr yn dair rhan, a dinasoedd y cenhedloedd a syrthiasant: a Babilon fawr a ddaeth mewn cof gerbron Duw, i roddi iddi gwpan gwin digofaint ei lid ef. 20 A phob ynys a ffodd ymaith, ac ni chafwyd y mynyddoedd. 21 A chenllysg mawr, fel talentau, a syrthiasant o’r nef ar ddynion: a dynion a gablasant Dduw am bla’r cenllysg: oblegid mawr iawn ydoedd eu pla hwynt.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.