Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 123

Caniad y graddau.

123 Atat ti y dyrchafaf fy llygaid, ti yr hwn a breswyli yn y nefoedd. Wele, fel y mae llygaid gweision ar law eu meistriaid, neu fel y mae llygaid llawforwyn ar law ei meistres; felly y mae ein llygaid ni ar yr Arglwydd ein Duw, hyd oni thrugarhao efe wrthym ni. Trugarha wrthym, Arglwydd, trugarha wrthym; canys llanwyd ni â dirmyg yn ddirfawr. Yn ddirfawr y llanwyd ein henaid â gwatwargerdd y rhai goludog, ac â diystyrwch y beilchion.

Barnwyr 2:6-15

A Josua a ollyngodd y bobl ymaith; a meibion Israel a aethant bob un i’w etifeddiaeth, i feddiannu y wlad. A’r bobl a wasanaethasant yr Arglwydd holl ddyddiau Josua, a holl ddyddiau yr henuriaid y rhai a fu fyw ar ôl Josua, y rhai a welsent holl fawrwaith yr Arglwydd, yr hwn a wnaethai efe er Israel. A bu farw Josua mab Nun, gwas yr Arglwydd, yn fab dengmlwydd a chant. A hwy a’i claddasant ef yn nherfyn ei etifeddiaeth, o fewn Timnath‐heres, ym mynydd Effraim, o du y gogledd i fynydd Gaas. 10 A’r holl oes honno hefyd a gasglwyd at eu tadau: a chyfododd oes arall ar eu hôl hwynt, y rhai nid adwaenent yr Arglwydd, na’i weithredoedd a wnaethai efe er Israel.

11 A meibion Israel a wnaethant ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd, ac a wasanaethasant Baalim: 12 Ac a wrthodasant Arglwydd Dduw eu tadau, yr hwn a’u dygasai hwynt o wlad yr Aifft, ac a aethant ar ôl duwiau dieithr, sef rhai o dduwiau y bobloedd oedd o’u hamgylch, ac a ymgrymasant iddynt, ac a ddigiasant yr Arglwydd. 13 A hwy a wrthodasant yr Arglwydd, ac a wasanaethasant Baal ac Astaroth.

14 A llidiodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn Israel; ac efe a’u rhoddodd hwynt yn llaw yr anrheithwyr, y rhai a’u hanrheithiasant hwy; ac efe a’u gwerthodd hwy i law eu gelynion o amgylch, fel na allent sefyll mwyach yn erbyn eu gelynion. 15 I ba le bynnag yr aethant, llaw yr Arglwydd oedd er drwg yn eu herbyn hwynt; fel y llefarasai yr Arglwydd, ac fel y tyngasai yr Arglwydd wrthynt hwy: a bu gyfyng iawn arnynt.

Datguddiad 16:1-7

16 Ac mi a glywais lef uchel allan o’r deml, yn dywedyd wrth y saith angel, Ewch ymaith, a thywelltwch ffiolau digofaint Duw ar y ddaear. A’r cyntaf a aeth, ac a dywalltodd ei ffiol ar y ddaear; a bu cornwyd drwg a blin ar y dynion oedd â nod y bwystfil arnynt, a’r rhai a addolasent ei ddelw ef. A’r ail angel a dywalltodd ei ffiol ar y môr; ac efe a aeth fel gwaed dyn marw: a phob enaid byw a fu farw yn y môr. A’r trydydd angel a dywalltodd ei ffiol ar yr afonydd ac ar y ffynhonnau dyfroedd; a hwy a aethant yn waed. Ac mi a glywais angel y dyfroedd yn dywedyd, Cyfiawn, O Arglwydd, ydwyt ti, yr hwn wyt, a’r hwn oeddit, a’r hwn a fyddi; oblegid barnu ohonot y pethau hyn. Oblegid gwaed saint a phroffwydi a dywalltasant hwy, a gwaed a roddaist iddynt i’w yfed; canys y maent yn ei haeddu. Ac mi a glywais un arall allan o’r allor yn dywedyd, Ie, Arglwydd Dduw Hollalluog, cywir a chyfiawn yw dy farnau di.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.