Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 78

Maschil i Asaff.

78 Gwrando fy nghyfraith, fy mhobl: gostyngwch eich clust at eiriau fy ngenau. Agoraf fy ngenau mewn dihareb: traethaf ddamhegion o’r cynfyd: Y rhai a glywsom, ac a wybuom, ac a fynegodd ein tadau i ni. Ni chelwn rhag eu meibion, gan fynegi i’r oes a ddêl foliant yr Arglwydd, a’i nerth, a’i ryfeddodau y rhai a wnaeth efe. Canys efe a sicrhaodd dystiolaeth yn Jacob, ac a osododd gyfraith yn Israel, y rhai a orchmynnodd efe i’n tadau eu dysgu i’w plant: Fel y gwybyddai yr oes a ddêl, sef y plant a enid; a phan gyfodent, y mynegent hwy i’w plant hwythau: Fel y gosodent eu gobaith ar Dduw, heb anghofio gweithredoedd Duw, eithr cadw ei orchmynion ef: Ac na byddent fel eu tadau, yn genhedlaeth gyndyn a gwrthryfelgar; yn genhedlaeth ni osododd ei chalon yn uniawn, ac nid yw ei hysbryd ffyddlon gyda Duw. Meibion Effraim, yn arfog ac yn saethu â bwa, a droesant eu cefnau yn nydd y frwydr. 10 Ni chadwasant gyfamod Duw, eithr gwrthodasant rodio yn ei gyfraith ef; 11 Ac anghofiasant ei weithredoedd a’i ryfeddodau, y rhai a ddangosasai efe iddynt. 12 Efe a wnaethai wyrthiau o flaen eu tadau hwynt yn nhir yr Aifft, ym maes Soan. 13 Efe a barthodd y môr, ac a aeth â hwynt drwodd; gwnaeth hefyd i’r dwfr sefyll fel pentwr. 14 Y dydd hefyd y tywysodd efe hwynt â chwmwl, ac ar hyd y nos â goleuni tân. 15 Efe a holltodd y creigiau yn yr anialwch; a rhoddes ddiod oddi yno megis o ddyfnderau dirfawr. 16 Canys efe a ddug ffrydiau allan o’r graig, ac a dynnodd i lawr megis afonydd o ddyfroedd. 17 Er hynny chwanegasant eto bechu yn ei erbyn ef, gan ddigio y Goruchaf yn y diffeithwch. 18 A themtiasant Dduw yn eu calon, gan ofyn bwyd wrth eu blys. 19 Llefarasant hefyd yn erbyn Duw; dywedasant, A ddichon Duw arlwyo bwrdd yn yr anialwch? 20 Wele, efe a drawodd y graig, fel y pistyllodd dwfr, ac y llifodd afonydd; a ddichon efe roddi bara hefyd? a ddarpara efe gig i’w bobl? 21 Am hynny y clybu yr Arglwydd, ac y digiodd: a thân a enynnodd yn erbyn Jacob, a digofaint hefyd a gyneuodd yn erbyn Israel; 22 Am na chredent yn Nuw, ac na obeithient yn ei iachawdwriaeth ef: 23 Er iddo ef orchymyn i’r wybrennau oddi uchod, ac agoryd drysau y nefoedd, 24 A glawio manna arnynt i’w fwyta, a rhoddi iddynt ŷd y nefoedd. 25 Dyn a fwytaodd fara angylion: anfonodd iddynt fwyd yn ddigonol. 26 Gyrrodd y dwyreinwynt yn y nefoedd; ac yn ei nerth y dug efe ddeheuwynt. 27 Glawiodd hefyd gig arnynt fel llwch, ac adar asgellog fel tywod y môr. 28 Ac a wnaeth iddynt gwympo o fewn eu gwersyll, o amgylch eu preswylfeydd. 29 Felly y bwytasant, ac y llwyr ddiwallwyd hwynt; ac efe a barodd eu dymuniad iddynt; 30 Ni omeddwyd hwynt o’r hyn a flysiasant: er hynny, tra yr ydoedd eu bwyd yn eu safnau, 31 Dicllonedd Duw a gyneuodd yn eu herbyn hwynt, ac a laddodd y rhai brasaf ohonynt, ac a gwympodd etholedigion Israel. 32 Er hyn oll pechasant eto, ac ni chredasant i’w ryfeddodau ef. 33 Am hynny y treuliodd efe eu dyddiau hwynt mewn oferedd, a’u blynyddoedd mewn dychryn. 34 Pan laddai efe hwynt, hwy a’i ceisient ef, ac a ddychwelent, ac a geisient Dduw yn fore. 35 Cofient hefyd mai Duw oedd eu Craig, ac mai y Goruchaf Dduw oedd eu Gwaredydd. 36 Er hynny, rhagrithio yr oeddynt iddo ef â’u genau, a dywedyd celwydd wrtho â’u tafod: 37 A’u calon heb fod yn uniawn gydag ef, na’u bod yn ffyddlon yn ei gyfamod ef. 38 Er hynny efe yn drugarog a faddeuodd eu hanwiredd, ac ni ddifethodd hwynt: ie, trodd ymaith ei ddigofaint yn fynych, ac ni chyffrôdd ei holl lid. 39 Canys efe a gofiai mai cnawd oeddynt, a gwynt yn myned, ac heb ddychwelyd. 40 Pa sawl gwaith y digiasant ef yn yr anialwch, ac y gofidiasant ef yn y diffeithwch? 41 Ie, troesant a phrofasant Dduw, ac a osodasant derfyn i Sanct yr Israel. 42 Ni chofiasant ei law ef, na’r dydd y gwaredodd efe hwynt oddi wrth y gelyn. 43 Fel y gosodasai efe ei arwyddion yn yr Aifft, a’i ryfeddodau ym maes Soan: 44 Ac y troesai eu hafonydd yn waed; a’u ffrydiau, fel na allent yfed. 45 Anfonodd gymysgbla yn eu plith, yr hon a’u difaodd hwynt; a llyffaint i’w difetha. 46 Ac efe a roddodd eu cnwd hwynt i’r lindys, a’u llafur i’r locust. 47 Distrywiodd eu gwinwydd â chenllysg, a’u sycamorwydd â rhew. 48 Rhoddodd hefyd eu hanifeiliaid i’r cenllysg, a’u golud i’r mellt. 49 Anfonodd arnynt gynddaredd ei lid, llidiowgrwydd, a dicter, a chyfyngder, trwy anfon angylion drwg. 50 Cymhwysodd ffordd i’w ddigofaint: nid ataliodd eu henaid oddi wrth angau; ond eu bywyd a roddodd efe i’r haint. 51 Trawodd hefyd bob cyntaf‐anedig yn yr Aifft; sef blaenion eu nerth hwynt ym mhebyll Ham: 52 Ond efe a yrrodd ei bobl ei hun fel defaid, ac a’u harweiniodd hwynt fel praidd yn yr anialwch. 53 Tywysodd hwynt hefyd yn ddiogel, fel nad ofnasant: a’r môr a orchuddiodd eu gelynion hwynt. 54 Hwythau a ddug efe i oror ei sancteiddrwydd; i’r mynydd hwn, a enillodd ei ddeheulaw ef. 55 Ac efe a yrrodd allan y cenhedloedd o’u blaen hwynt, ac a rannodd iddynt etifeddiaeth wrth linyn, ac a wnaeth i lwythau Israel drigo yn eu pebyll hwynt. 56 Er hynny temtiasant a digiasant Dduw Goruchaf, ac ni chadwasant ei dystiolaethau: 57 Eithr ciliasant a buant anffyddlon fel eu tadau: troesant fel bwa twyllodrus. 58 Digiasant ef hefyd â’u huchelfannau; a gyrasant eiddigedd arno â’u cerfiedig ddelwau. 59 Clybu Duw hyn, ac a ddigiodd, ac a ffieiddiodd Israel yn ddirfawr: 60 Fel y gadawodd efe dabernacl Seilo, y babell a osodasai efe ymysg dynion; 61 Ac y rhoddodd ei nerth mewn caethiwed, a’i brydferthwch yn llaw y gelyn. 62 Rhoddes hefyd ei bobl i’r cleddyf; a digiodd wrth ei etifeddiaeth. 63 Tân a ysodd eu gwŷr ieuainc; a’u morynion ni phriodwyd. 64 Eu hoffeiriaid a laddwyd â’r cleddyf; a’u gwragedd gweddwon nid wylasant. 65 Yna y deffrôdd yr Arglwydd fel un o gysgu, fel cadarn yn bloeddio gwedi gwin. 66 Ac efe a drawodd ei elynion o’r tu ôl: rhoddes iddynt warth tragwyddol. 67 Gwrthododd hefyd babell Joseff, ac ni etholodd lwyth Effraim: 68 Ond efe a etholodd lwyth Jwda, mynydd Seion, yr hwn a hoffodd. 69 Ac a adeiladodd ei gysegr fel llys uchel, fel y ddaear yr hon a seiliodd efe yn dragywydd. 70 Etholodd hefyd Dafydd ei was, ac a’i cymerth o gorlannau y defaid: 71 Oddi ar ôl y defaid cyfebron y daeth ag ef i borthi Jacob ei bobl, ac Israel ei etifeddiaeth. 72 Yntau a’u porthodd hwynt yn ôl perffeithrwydd ei galon; ac a’u trinodd wrth gyfarwyddyd ei ddwylo.

Josua 24:25-33

25 Felly Josua a wnaeth gyfamod â’r bobl y dwthwn hwnnw, ac a osododd iddynt ddeddfau a barnedigaethau yn Sichem.

26 A Josua a ysgrifennodd y geiriau hyn yn llyfr cyfraith Dduw, ac a gymerth faen mawr, ac a’i gosododd i fyny yno dan dderwen oedd yn agos i gysegr yr Arglwydd. 27 A Josua a ddywedodd wrth yr holl bobl, Wele, y maen hwn fydd yn dystiolaeth i ni; canys efe a glywodd holl eiriau yr Arglwydd, y rhai a lefarodd efe wrthym: am hynny y bydd efe yn dystiolaeth i chwi, rhag i chwi wadu eich Duw. 28 Felly Josua a ollyngodd y bobl, bob un i’w etifeddiaeth.

29 Ac wedi’r pethau hyn, y bu farw Josua mab Nun, gwas yr Arglwydd, yn fab dengmlwydd a chant. 30 A hwy a’i claddasant ef yn nherfyn ei etifeddiaeth, o fewn Timnath‐sera; yr hon sydd ym mynydd Effraim, o du y gogledd i fynydd Gaas. 31 Ac Israel a wasanaethodd yr Arglwydd holl ddyddiau Josua, a holl ddyddiau yr henuriaid a fu fyw ar ôl Josua, ac a wybuasent holl waith yr Arglwydd a wnaethai efe er Israel.

32 Ac esgyrn Joseff, y rhai a ddygasai meibion Israel i fyny o’r Aifft, a gladdasant hwy yn Sichem, mewn rhan o’r maes a brynasai Jacob gan feibion Hemor tad Sichem, er can darn o arian; a bu i feibion Joseff yn etifeddiaeth.

33 Ac Eleasar mab Aaron a fu farw: a chladdasant ef ym mryn Phinees ei fab, yr hwn a roddasid iddo ef ym mynydd Effraim.

1 Corinthiaid 14:20-25

20 O frodyr, na fyddwch fechgyn mewn deall; eithr mewn drygioni byddwch blant; ond mewn deall byddwch berffaith. 21 Yn y ddeddf y mae yn ysgrifenedig, Trwy rai estronieithus, a thrwy wefusau estronol, y llefaraf wrth y bobl hyn; ac ni’m gwrandawant felly, medd yr Arglwydd. 22 Am hynny tafodau ydynt arwydd, nid i’r rhai sydd yn credu, ond i’r rhai di‐gred: eithr proffwydoliaeth, nid i’r rhai di‐gred, ond i’r rhai sydd yn credu. 23 Gan hynny os daw’r eglwys oll ynghyd i’r un lle, a llefaru o bawb â thafodau dieithr, a dyfod o rai annysgedig neu ddi‐gred i mewn; oni ddywedant eich bod yn ynfydu? 24 Eithr os proffwyda pawb, a dyfod o un di‐gred neu annysgedig i mewn, efe a argyhoeddir gan bawb, a fernir gan bawb: 25 Ac felly y gwneir dirgelion ei galon ef yn amlwg; ac felly gan syrthio ar ei wyneb, efe a addola Dduw, gan ddywedyd fod Duw yn wir ynoch.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.