Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
24 A Josua a gynullodd holl lwythau Israel i Sichem; ac a alwodd am henuriaid Israel, ac am eu penaethiaid, ac am eu barnwyr, ac am eu swyddogion: a hwy a safasant gerbron Duw. 2 A dywedodd Josua wrth yr holl bobl, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel; Tu hwnt i’r afon y trigodd eich tadau chwi gynt, sef Tera tad Abraham, a thad Nachor: a hwy a wasanaethasant dduwiau dieithr. 3 Ac mi a gymerais eich tad Abraham ymaith o’r tu hwnt i’r afon, ac a’i harweiniais ef trwy holl wlad Canaan, ac a amlheais hefyd ei had ef, ac a roddais iddo Isaac.
14 Yn awr gan hynny ofnwch yr Arglwydd, a gwasanaethwch ef mewn perffeithrwydd a gwirionedd, a bwriwch ymaith y duwiau a wasanaethodd eich tadau o’r tu hwnt i’r afon, ac yn yr Aifft; a gwasanaethwch chwi yr Arglwydd. 15 Ac od yw ddrwg yn eich golwg wasanaethu yr Arglwydd, dewiswch i chwi heddiw pa un a wasanaethoch, ai y duwiau a wasanaethodd eich tadau, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r afon, ai ynteu duwiau yr Amoriaid, y rhai yr ydych yn trigo yn eu gwlad: ond myfi, mi a’m tylwyth a wasanaethwn yr Arglwydd. 16 Yna yr atebodd y bobl, ac y dywedodd, Na ato Duw i ni adael yr Arglwydd, i wasanaethu duwiau dieithr; 17 Canys yr Arglwydd ein Duw yw yr hwn a’n dug ni i fyny a’n tadau o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed; a’r hwn a wnaeth y rhyfeddodau mawrion hynny yn ein gŵydd ni, ac a’n cadwodd ni yn yr holl ffordd y rhodiasom ynddi, ac ymysg yr holl bobloedd y tramwyasom yn eu plith: 18 A’r Arglwydd a yrrodd allan yr holl bobloedd, a’r Amoriaid, preswylwyr y wlad, o’n blaen ni: am hynny ninnau a wasanaethwn yr Arglwydd; canys efe yw ein Duw ni. 19 A Josua a ddywedodd wrth y bobl, Ni ellwch wasanaethu yr Arglwydd; canys Duw sancteiddiol yw efe: Duw eiddigus yw; ni ddioddef efe eich anwiredd, na’ch pechodau. 20 O gwrthodwch yr Arglwydd, a gwasanaethu duwiau dieithr; yna efe a dry, ac a’ch dryga chwi, ac efe a’ch difa chwi, wedi iddo wneuthur i chwi ddaioni. 21 A’r bobl a ddywedodd wrth Josua, Nage; eithr ni a wasanaethwn yr Arglwydd. 22 A dywedodd Josua wrth y bobl, Tystion ydych yn eich erbyn eich hun, ddewis ohonoch i chwi yr Arglwydd i’w wasanaethu. Dywedasant hwythau, Tystion ydym. 23 Am hynny yn awr (eb efe) bwriwch ymaith y duwiau dieithr sydd yn eich mysg, a gostyngwch eich calon at Arglwydd Dduw Israel. 24 A’r bobl a ddywedasant wrth Josua, Yr Arglwydd ein Duw a wasanaethwn, ac ar ei lais ef y gwrandawn. 25 Felly Josua a wnaeth gyfamod â’r bobl y dwthwn hwnnw, ac a osododd iddynt ddeddfau a barnedigaethau yn Sichem.
Maschil i Asaff.
78 Gwrando fy nghyfraith, fy mhobl: gostyngwch eich clust at eiriau fy ngenau. 2 Agoraf fy ngenau mewn dihareb: traethaf ddamhegion o’r cynfyd: 3 Y rhai a glywsom, ac a wybuom, ac a fynegodd ein tadau i ni. 4 Ni chelwn rhag eu meibion, gan fynegi i’r oes a ddêl foliant yr Arglwydd, a’i nerth, a’i ryfeddodau y rhai a wnaeth efe. 5 Canys efe a sicrhaodd dystiolaeth yn Jacob, ac a osododd gyfraith yn Israel, y rhai a orchmynnodd efe i’n tadau eu dysgu i’w plant: 6 Fel y gwybyddai yr oes a ddêl, sef y plant a enid; a phan gyfodent, y mynegent hwy i’w plant hwythau: 7 Fel y gosodent eu gobaith ar Dduw, heb anghofio gweithredoedd Duw, eithr cadw ei orchmynion ef:
13 Ond ni ewyllysiwn, frodyr, i chwi fod heb wybod am y rhai a hunasant, na thristaoch, megis eraill y rhai nid oes ganddynt obaith. 14 Canys os ydym yn credu farw Iesu, a’i atgyfodi; felly y rhai a hunasant yn yr Iesu, a ddwg Duw hefyd gydag ef. 15 Canys hyn yr ydym yn ei ddywedyd wrthych yng ngair yr Arglwydd, na bydd i ni’r rhai byw, y rhai a adewir hyd ddyfodiad yr Arglwydd, ragflaenu’r rhai a hunasant. 16 Oblegid yr Arglwydd ei hun a ddisgyn o’r nef gyda bloedd, â llef yr archangel, ac ag utgorn Duw: a’r meirw yng Nghrist a gyfodant yn gyntaf: 17 Yna ninnau’r rhai byw, y rhai a adawyd, a gipir i fyny gyda hwynt yn y cymylau, i gyfarfod â’r Arglwydd yn yr awyr: ac felly y byddwn yn wastadol gyda’r Arglwydd. 18 Am hynny diddenwch eich gilydd â’r ymadroddion hyn.
25 Yna tebyg fydd teyrnas nefoedd i ddeg o forynion, y rhai a gymerasant eu lampau, ac a aethant allan i gyfarfod â’r priodfab. 2 A phump ohonynt oedd gall, a phump yn ffôl. 3 Y rhai oedd ffôl a gymerasant eu lampau, ac ni chymerasant olew gyda hwynt: 4 A’r rhai call a gymerasant olew yn eu llestri gyda’u lampau. 5 A thra oedd y priodfab yn aros yn hir, yr hepiasant oll ac yr hunasant. 6 Ac ar hanner nos y bu gwaedd, Wele, y mae’r priodfab yn dyfod; ewch allan i gyfarfod ag ef. 7 Yna y cyfododd yr holl forynion hynny, ac a drwsiasant eu lampau. 8 A’r rhai ffôl a ddywedasant wrth y rhai call, Rhoddwch i ni o’ch olew chwi: canys y mae ein lampau yn diffoddi. 9 A’r rhai call a atebasant, gan ddywedyd, Nid felly; rhag na byddo digon i ni ac i chwithau: ond ewch yn hytrach at y rhai sydd yn gwerthu, a phrynwch i chwi eich hunain. 10 A thra oeddynt yn myned ymaith i brynu, daeth y priodfab; a’r rhai oedd barod, a aethant i mewn gydag ef i’r briodas: a chaewyd y drws. 11 Wedi hynny y daeth y morynion eraill hefyd, gan ddywedyd, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni. 12 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nid adwaen chwi. 13 Gwyliwch gan hynny; am na wyddoch na’r dydd na’r awr y daw Mab y dyn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.