Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Maschil i Asaff.
78 Gwrando fy nghyfraith, fy mhobl: gostyngwch eich clust at eiriau fy ngenau. 2 Agoraf fy ngenau mewn dihareb: traethaf ddamhegion o’r cynfyd: 3 Y rhai a glywsom, ac a wybuom, ac a fynegodd ein tadau i ni. 4 Ni chelwn rhag eu meibion, gan fynegi i’r oes a ddêl foliant yr Arglwydd, a’i nerth, a’i ryfeddodau y rhai a wnaeth efe. 5 Canys efe a sicrhaodd dystiolaeth yn Jacob, ac a osododd gyfraith yn Israel, y rhai a orchmynnodd efe i’n tadau eu dysgu i’w plant: 6 Fel y gwybyddai yr oes a ddêl, sef y plant a enid; a phan gyfodent, y mynegent hwy i’w plant hwythau: 7 Fel y gosodent eu gobaith ar Dduw, heb anghofio gweithredoedd Duw, eithr cadw ei orchmynion ef:
30 Yna Josua a adeiladodd allor i Arglwydd Dduw Israel ym mynydd Ebal, 31 Megis y gorchmynasai Moses gwas yr Arglwydd i feibion Israel, fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses, allor o gerrig cyfain, y rhai ni ddyrchafasid haearn arnynt: a hwy a offrymasant arni boethoffrymau i’r Arglwydd, ac a aberthasant ebyrth hedd. 32 Ac efe a ysgrifennodd yno ar y meini o gyfraith Moses, yr hon a ysgrifenasai efe yng ngŵydd meibion Israel. 33 A holl Israel, a’u henuriaid, eu swyddogion hefyd, a’u barnwyr, oedd yn sefyll oddeutu yr arch, gerbron yr offeiriaid y Lefiaid, y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd, yn gystal yr estron a’r priodor: eu hanner oedd ar gyfer mynydd Garisim, a’u hanner ar gyfer mynydd Ebal; fel y gorchmynasai Moses gwas yr Arglwydd o’r blaen fendithio pobl Israel. 34 Wedi hynny efe a ddarllenodd holl eiriau y gyfraith, y fendith a’r felltith, yn ôl y cwbl sydd ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith. 35 Nid oedd air o’r hyn oll a orchmynasai Moses, a’r nas darllenodd Josua gerbron holl gynulleidfa Israel, a’r gwragedd, a’r plant, a’r dieithr yr hwn oedd yn rhodio yn eu mysg hwynt.
13 A’r chweched angel a utganodd; ac mi a glywais lef allan o bedwar corn yr allor aur, yr hon sydd gerbron Duw. 14 Yn dywedyd wrth y chweched angel, yr hwn oedd â’r utgorn ganddo, Gollwng yn rhydd y pedwar angel sydd yn rhwym yn yr afon fawr Ewffrates. 15 A gollyngwyd y pedwar angel, y rhai oedd wedi eu paratoi erbyn awr, a diwrnod, a mis, a blwyddyn, fel y lladdent y traean o’r dynion. 16 A rhifedi’r llu o wŷr meirch oedd ddwy fyrddiwn o fyrddiynau: ac mi a glywais eu rhifedi hwynt. 17 Ac fel hyn y gwelais i’r meirch yn y weledigaeth, a’r rhai oedd yn eistedd arnynt, a chanddynt lurigau tanllyd, ac o liw hyacinth a brwmstan: a phennau’r meirch oedd fel pennau llewod; ac yr oedd yn myned allan o’u safnau, dân, a mwg, a brwmstan. 18 Gan y tri hyn y llas traean y dynion, gan y tân, a chan y mwg, a chan y brwmstan, oedd yn dyfod allan o’u safnau hwynt. 19 Canys eu gallu hwy sydd yn eu safn, ac yn eu cynffonnau: canys y cynffonnau oedd debyg i seirff, a phennau ganddynt; ac â’r rhai hynny y maent yn drygu. 20 A’r dynion eraill, y rhai ni laddwyd gan y plâu hyn, nid edifarhasant oddi wrth weithredoedd eu dwylo eu hun, fel nad addolent gythreuliaid, a delwau aur, ac arian, a phres, a main, a phrennau, y rhai ni allant na gweled, na chlywed, na rhodio: 21 Ac nid edifarhasant oddi wrth eu llofruddiaeth, nac oddi wrth eu cyfareddion, nac oddi wrth eu godineb, nac oddi wrth eu lladrad.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.