Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Maschil i Asaff.
78 Gwrando fy nghyfraith, fy mhobl: gostyngwch eich clust at eiriau fy ngenau. 2 Agoraf fy ngenau mewn dihareb: traethaf ddamhegion o’r cynfyd: 3 Y rhai a glywsom, ac a wybuom, ac a fynegodd ein tadau i ni. 4 Ni chelwn rhag eu meibion, gan fynegi i’r oes a ddêl foliant yr Arglwydd, a’i nerth, a’i ryfeddodau y rhai a wnaeth efe. 5 Canys efe a sicrhaodd dystiolaeth yn Jacob, ac a osododd gyfraith yn Israel, y rhai a orchmynnodd efe i’n tadau eu dysgu i’w plant: 6 Fel y gwybyddai yr oes a ddêl, sef y plant a enid; a phan gyfodent, y mynegent hwy i’w plant hwythau: 7 Fel y gosodent eu gobaith ar Dduw, heb anghofio gweithredoedd Duw, eithr cadw ei orchmynion ef:
10 A meibion Israel a wersyllasant yn Gilgal: a hwy a gynaliasant y Pasg, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, brynhawn, yn rhosydd Jericho. 11 A hwy a fwytasant o hen ŷd y wlad, drannoeth wedi’r Pasg, fara croyw, a chras ŷd, o fewn corff y dydd hwnnw.
12 A’r manna a beidiodd drannoeth wedi iddynt fwyta o hen ŷd y wlad; a manna ni chafodd meibion Israel mwyach, eithr bwytasant o gynnyrch gwlad y Canaaneaid y flwyddyn honno.
6 A’r saith angel, y rhai oedd â’r saith utgorn ganddynt, a ymbaratoesant i utganu. 7 A’r angel cyntaf a utganodd; a bu cenllysg a thân wedi eu cymysgu â gwaed, a hwy a fwriwyd i’r ddaear: a thraean y prennau a losgwyd, a’r holl laswellt a losgwyd. 8 A’r ail angel a utganodd; a megis mynydd mawr yn llosgi gan dân a fwriwyd i’r môr: a thraean y môr a aeth yn waed; 9 A bu farw traean y creaduriaid y rhai oedd yn y môr, ac â byw ynddynt; a thraean y llongau a ddinistriwyd. 10 A’r trydydd angel a utganodd; a syrthiodd o’r nef seren fawr yn llosgi fel lamp, a hi a syrthiodd ar draean yr afonydd, ac ar ffynhonnau’r dyfroedd; 11 Ac enw’r seren a elwir Wermod: ac aeth traean y dyfroedd yn wermod; a llawer o ddynion a fuant feirw gan y dyfroedd, oblegid eu myned yn chwerwon. 12 A’r pedwerydd angel a utganodd; a thrawyd traean yr haul, a thraean y lleuad, a thraean y sêr; fel y tywyllwyd eu traean hwynt, ac ni lewyrchodd y dydd ei draean, a’r nos yr un ffunud. 13 Ac mi a edrychais, ac a glywais angel yn ehedeg yng nghanol y nef, gan ddywedyd â llef uchel, Gwae, gwae, gwae, i’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, rhag lleisiau eraill utgorn y tri angel, y rhai sydd eto i utganu!
9 A’r pumed angel a utganodd; ac mi a welais seren yn syrthio o’r nef i’r ddaear: a rhoddwyd iddo ef agoriad y pydew heb waelod. 2 Ac efe a agorodd y pydew heb waelod; a chododd mwg o’r pydew, fel mwg ffwrn fawr: a thywyllwyd yr haul a’r awyr gan fwg y pydew. 3 Ac o’r mwg y daeth allan locustiaid ar y ddaear; a rhoddwyd awdurdod iddynt, fel y mae gan ysgorpionau’r ddaear awdurdod. 4 A dywedwyd wrthynt, na wnaent niwed i laswellt y ddaear, nac i ddim gwyrddlas, nac i un pren; ond yn unig i’r dynion oedd heb sêl Duw yn eu talcennau. 5 A rhoddwyd iddynt na laddent hwynt, ond bod iddynt eu blino hwy bum mis: ac y byddai eu gofid hwy fel gofid oddi wrth ysgorpion, pan ddarfyddai iddi frathu dyn. 6 Ac yn y dyddiau hynny y cais dynion farwolaeth, ac nis cânt; ac a chwenychant farw, a marwolaeth a gilia oddi wrthynt. 7 A dull y locustiaid oedd debyg i feirch wedi eu paratoi i ryfel; ac yr oedd ar eu pennau megis coronau yn debyg i aur, a’u hwynebau fel wynebau dynion. 8 A gwallt oedd ganddynt fel gwallt gwragedd, a’u dannedd oedd fel dannedd llewod. 9 Ac yr oedd ganddynt lurigau fel llurigau haearn; a llais eu hadenydd oedd fel llais cerbydau llawer o feirch yn rhedeg i ryfel. 10 Ac yr oedd ganddynt gynffonnau tebyg i ysgorpionau, ac yr oedd colynnau yn eu cynffonnau hwy: a’u gallu oedd i ddrygu dynion bum mis. 11 Ac yr oedd ganddynt frenin arnynt, sef angel y pydew diwaelod: a’i enw ef yn Hebraeg ydyw Abadon, ac yn Roeg y mae iddo enw Apolyon. 12 Un wae a aeth heibio; wele, y mae yn dyfod eto ddwy wae ar ôl hyn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.