Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 107:1-7

107 Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. Felly dyweded gwaredigion yr Arglwydd, y rhai a waredodd efe o law y gelyn; Ac a gasglodd efe o’r tiroedd, o’r dwyrain, ac o’r gorllewin, o’r gogledd, ac o’r deau. Crwydrasant yn yr anialwch mewn ffordd ddisathr, heb gael dinas i aros ynddi: Yn newynog ac yn sychedig, eu henaid a lewygodd ynddynt. Yna y llefasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a’u gwaredodd o’u gorthrymderau; Ac a’u tywysodd hwynt ar hyd y ffordd uniawn, i fyned i ddinas gyfanheddol.

Salmau 107:33-37

33 Efe a wna afonydd yn ddiffeithwch, a ffynhonnau dyfroedd yn sychdir; 34 A thir ffrwythlon yn ddiffrwyth, am ddrygioni y rhai a drigant ynddo. 35 Efe a dry yr anialwch yn llyn dwfr, a’r tir cras yn ffynhonnau dwfr. 36 Ac yno y gwna i’r newynog aros; fel y darparont ddinas i gyfanheddu: 37 Ac yr heuont feysydd, ac y plannont winllannoedd, y rhai a ddygant ffrwyth toreithiog.

Josua 2:15-24

15 Yna hi a’u gollyngodd hwynt i waered wrth raff trwy’r ffenestr: canys ei thŷ hi oedd ar fur y ddinas, ac ar y mur yr oedd hi yn trigo. 16 A hi a ddywedodd wrthynt, Ewch i’r mynydd, rhag i’r erlidwyr gyfarfod â chwi: ac ymguddiwch yno dridiau, nes dychwelyd yr erlidwyr; ac wedi hynny ewch i’ch ffordd. 17 A’r gwŷr a ddywedasant wrthi, Dieuog fyddwn ni oddi wrth dy lw yma â’r hwn y’n tyngaist. 18 Wele, pan ddelom ni i’r wlad, rhwym y llinyn yma o edau goch yn y ffenestr y gollyngaist ni i lawr trwyddi: casgl hefyd dy dad, a’th fam, a’th frodyr, a holl dylwyth dy dad, atat i’r tŷ yma. 19 A phwy bynnag a êl o ddrysau dy dŷ di allan i’r heol, ei waed ef fydd ar ei ben ei hun, a ninnau a fyddwn ddieuog: a phwy bynnag fyddo gyda thi yn tŷ, bydded ei waed ef ar ein pennau ni, o bydd llaw arno ef. 20 Ac os mynegi di ein neges hyn, yna y byddwn ddieuog oddi wrth dy lw â’r hwn y’n tyngaist. 21 A hi a ddywedodd, Yn ôl eich geiriau, felly y byddo hynny. Yna hi a’u gollyngodd hwynt; a hwy a aethant ymaith. A hi a rwymodd y llinyn coch yn y ffenestr. 22 A hwy a aethant, ac a ddaethant i’r mynydd; ac a arosasant yno dridiau, nes i’r erlidwyr ddychwelyd. A’r erlidwyr a’u ceisiasant ar hyd yr holl ffordd; ond nis cawsant.

23 Felly y ddau ŵr a ddychwelasant, ac a ddisgynasant o’r mynydd, ac a aethant drosodd, a daethant at Josua mab Nun; a mynegasant iddo yr hyn oll a ddigwyddasai iddynt: 24 A dywedasant wrth Josua, Yn ddiau yr Arglwydd a roddodd yr holl wlad yn ein dwylo ni; canys holl drigolion y wlad a ddigalonasant rhag ein hofn ni.

Mathew 23:13-28

13 Eithr gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn cau teyrnas nefoedd o flaen dynion: canys chwi nid ydych yn myned i mewn, a’r rhai sydd yn myned i mewn nis gadewch i fyned i mewn. 14 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, a hynny yn rhith hir weddïo: am hynny y derbyniwch farn fwy. 15 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys amgylchu yr ydych y môr a’r tir, i wneuthur un proselyt; ac wedi y gwneler, yr ydych yn ei wneuthur ef yn fab uffern, yn ddau mwy na chwi eich hunain. 16 Gwae chwi, dywysogion deillion! y rhai ydych yn dywedyd, Pwy bynnag a dwng i’r deml, nid yw ddim; ond pwy bynnag a dwng i aur y deml, y mae efe mewn dyled. 17 Ffyliaid, a deillion: canys pa un sydd fwyaf, yr aur, ai y deml sydd yn sancteiddio’r aur? 18 A phwy bynnag a dwng i’r allor, nid yw ddim; ond pwy bynnag a dyngo i’r rhodd sydd arni, y mae efe mewn dyled. 19 Ffyliaid, a deillion: canys pa un fwyaf, y rhodd, ai’r allor sydd yn sancteiddio y rhodd? 20 Pwy bynnag gan hynny a dwng i’r allor, sydd yn tyngu iddi, ac i’r hyn oll sydd arni. 21 A phwy bynnag a dwng i’r deml, sydd yn tyngu iddi, ac i’r hwn sydd yn preswylio ynddi. 22 A’r hwn a dwng i’r nef, sydd yn tyngu i orseddfainc Duw, ac i’r hwn sydd yn eistedd arni. 23 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn degymu’r mintys, a’r anis, a’r cwmin, ac a adawsoch heibio y pethau trymach o’r gyfraith, barn, a thrugaredd, a ffydd: rhaid oedd gwneuthur y pethau hyn, ac na adewid y lleill heibio. 24 Tywysogion deillion, y rhai ydych yn hidlo gwybedyn, ac yn llyncu camel. 25 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn glanhau’r tu allan i’r cwpan a’r ddysgl, ac o’r tu mewn y maent yn llawn o drawsedd ac anghymedroldeb. 26 Ti Pharisead dall, glanha yn gyntaf yr hyn sydd oddi fewn i’r cwpan a’r ddysgl, fel y byddo yn lân hefyd yr hyn sydd oddi allan iddynt. 27 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys tebyg ydych chwi i feddau wedi eu gwynnu, y rhai sydd yn ymddangos yn deg oddi allan, ond oddi mewn sydd yn llawn o esgyrn y meirw, a phob aflendid. 28 Ac felly chwithau oddi allan ydych yn ymddangos i ddynion yn gyfiawn, ond o fewn yr ydych yn llawn rhagrith ac anwiredd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.