Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
107 Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. 2 Felly dyweded gwaredigion yr Arglwydd, y rhai a waredodd efe o law y gelyn; 3 Ac a gasglodd efe o’r tiroedd, o’r dwyrain, ac o’r gorllewin, o’r gogledd, ac o’r deau. 4 Crwydrasant yn yr anialwch mewn ffordd ddisathr, heb gael dinas i aros ynddi: 5 Yn newynog ac yn sychedig, eu henaid a lewygodd ynddynt. 6 Yna y llefasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a’u gwaredodd o’u gorthrymderau; 7 Ac a’u tywysodd hwynt ar hyd y ffordd uniawn, i fyned i ddinas gyfanheddol.
33 Efe a wna afonydd yn ddiffeithwch, a ffynhonnau dyfroedd yn sychdir; 34 A thir ffrwythlon yn ddiffrwyth, am ddrygioni y rhai a drigant ynddo. 35 Efe a dry yr anialwch yn llyn dwfr, a’r tir cras yn ffynhonnau dwfr. 36 Ac yno y gwna i’r newynog aros; fel y darparont ddinas i gyfanheddu: 37 Ac yr heuont feysydd, ac y plannont winllannoedd, y rhai a ddygant ffrwyth toreithiog.
2 A Josua mab Nun a anfonodd o Sittim ddau ŵr, i chwilio yn ddirgel, gan ddywedyd, Ewch, edrychwch y wlad, a Jericho. A hwy a aethant, ac a ddaethant i dŷ puteinwraig a’i henw Rahab, ac a letyasant yno. 2 A mynegwyd i frenin Jericho, gan ddywedyd, Wele, gwŷr a ddaethant yma heno, o feibion Israel, i chwilio’r wlad. 3 A brenin Jericho a anfonodd at Rahab, gan ddywedyd, Dwg allan y gwŷr a ddaeth atat, y rhai a ddaeth i’th dŷ di; canys i chwilio yr holl wlad y daethant. 4 Ond y wraig a gymerasai y ddau ŵr, ac a’u cuddiasai hwynt, ac a ddywedodd fel hyn; Gwŷr a ddaeth ataf fi, ond ni wyddwn i o ba le y daethent hwy. 5 A phan gaewyd y porth yn y tywyllwch, y gwŷr a aeth allan; ni wn i ba le yr aeth y gwŷr: canlynwch yn fuan ar eu hôl hwynt; canys chwi a’u goddiweddwch hwynt. 6 Ond hi a barasai iddynt esgyn i nen y tŷ, ac a’u cuddiasai hwynt mewn bollteidiau llin, y rhai oedd ganddi wedi eu hysgafnu ar nen y tŷ. 7 A’r gwŷr a ganlynasant ar eu hôl hwynt, tua’r Iorddonen, hyd y rhydau: a’r porth a gaewyd, cyn gynted ag yr aeth y rhai oedd yn erlid ar eu hôl hwynt allan.
8 A chyn iddynt hwy gysgu, hi a aeth i fyny atynt hwy ar nen y tŷ: 9 A hi a ddywedodd wrth y gwŷr, Mi a wn roddi o’r Arglwydd i chwi y wlad; oherwydd eich arswyd chwi a syrthiodd arnom ni, a holl drigolion y wlad a ddigalonasant rhag eich ofn. 10 Canys ni a glywsom fel y sychodd yr Arglwydd ddyfroedd y môr coch o’ch blaen chwi, pan ddaethoch allan o’r Aifft; a’r hyn a wnaethoch i ddau frenin yr Amoriaid, y rhai oedd tu hwnt i’r Iorddonen, sef i Sehon ac i Og, y rhai a ddifrodasoch chwi. 11 A phan glywsom, yna y’n digalonnwyd, fel na safodd mwyach gysur yn neb, rhag eich ofn: canys yr Arglwydd eich Duw, efe sydd Dduw yn y nefoedd uchod, ac ar y ddaear isod. 12 Yn awr gan hynny, tyngwch, atolwg, wrthyf, myn yr Arglwydd, oherwydd i mi wneuthur trugaredd â chwi, y gwnewch chwithau hefyd drugaredd â thŷ fy nhad innau; ac y rhoddwch i mi arwydd gwir: 13 Ac y cedwch yn fyw fy nhad, a’m mam, a’m brodyr, a’m chwiorydd, a’r hyn oll sydd ganddynt, ac y gwaredwch ein heinioes rhag angau. 14 A’r gwŷr a ddywedasant wrthi, Ein heinioes a roddwn i farw drosoch, (os chwi ni fynegwch ein neges hyn,) pan roddo yr Arglwydd i ni y wlad hon, oni wnawn â chwi drugaredd a gwirionedd.
2 Eithr bu gau broffwydi hefyd ymhlith y bobl, megis ag y bydd gau athrawon yn eich plith chwithau; y rhai yn ddirgel a ddygant i mewn heresïau dinistriol, a chan wadu’r Arglwydd yr hwn a’u prynodd hwynt, ydynt yn tynnu arnynt eu hunain ddinistr buan. 2 A llawer a ganlynant eu distryw hwynt, oherwydd y rhai y ceblir ffordd y gwirionedd. 3 Ac mewn cybydd-dod, trwy chwedlau gwneuthur, y gwnânt farsiandïaeth ohonoch: barnedigaeth y rhai er ys talm nid yw segur, a’u colledigaeth hwy nid yw yn hepian.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.