Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 107:1-7

107 Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. Felly dyweded gwaredigion yr Arglwydd, y rhai a waredodd efe o law y gelyn; Ac a gasglodd efe o’r tiroedd, o’r dwyrain, ac o’r gorllewin, o’r gogledd, ac o’r deau. Crwydrasant yn yr anialwch mewn ffordd ddisathr, heb gael dinas i aros ynddi: Yn newynog ac yn sychedig, eu henaid a lewygodd ynddynt. Yna y llefasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a’u gwaredodd o’u gorthrymderau; Ac a’u tywysodd hwynt ar hyd y ffordd uniawn, i fyned i ddinas gyfanheddol.

Salmau 107:33-37

33 Efe a wna afonydd yn ddiffeithwch, a ffynhonnau dyfroedd yn sychdir; 34 A thir ffrwythlon yn ddiffrwyth, am ddrygioni y rhai a drigant ynddo. 35 Efe a dry yr anialwch yn llyn dwfr, a’r tir cras yn ffynhonnau dwfr. 36 Ac yno y gwna i’r newynog aros; fel y darparont ddinas i gyfanheddu: 37 Ac yr heuont feysydd, ac y plannont winllannoedd, y rhai a ddygant ffrwyth toreithiog.

Josua 1:1-11

Ac wedi marwolaeth Moses, gwas yr Arglwydd, y llefarodd yr Arglwydd wrth Josua mab Nun, gweinidog Moses, gan ddywedyd, Moses fy ngwas a fu farw: gan hynny cyfod yn awr, dos dros yr Iorddonen hon, ti, a’r holl bobl hyn, i’r wlad yr ydwyf fi yn ei rhoddi iddynt hwy, meibion Israel. Pob man y sango gwadn eich troed chwi arno, a roddais i chwi; fel y lleferais wrth Moses. O’r anialwch, a’r Libanus yma, hyd yr afon fawr, afon Ewffrates, holl wlad yr Hethiaid, hyd y môr mawr, tua machludiad yr haul, fydd eich terfyn chwi. Ni saif neb o’th flaen di holl ddyddiau dy einioes: megis y bûm gyda Moses, y byddaf gyda thithau: ni’th adawaf, ac ni’th wrthodaf. Ymgryfha, ac ymwrola: canys ti a wnei i’r bobl hyn etifeddu’r wlad yr hon a dyngais wrth eu tadau ar ei rhoddi iddynt. Yn unig ymgryfha, ac ymwrola yn lew, i gadw ar wneuthur yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnodd Moses fy ngwas i ti: na ogwydda oddi wrthi, ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy; fel y ffynnech i ba le bynnag yr elych. Nac ymadawed llyfr y gyfraith hon o’th enau, eithr myfyria ynddo ddydd a nos; fel y cedwych ar wneuthur yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig ynddo: canys yna y llwyddi yn dy ffyrdd, ac yna y ffynni. Oni orchmynnais i ti? Ymgryfha, ac ymwrola; nac arswyda, ac nac ofna: canys yr Arglwydd dy Dduw fydd gyda thi, i ba le bynnag yr elych.

10 Yna Josua a orchmynnodd i lywodraethwyr y bobl, gan ddywedyd, 11 Tramwywch trwy ganol y llu, a gorchmynnwch i’r bobl, gan ddywedyd, Paratowch i chwi luniaeth: canys o fewn tridiau y byddwch chwi yn myned dros yr Iorddonen hon, i ddyfod i feddiannu’r wlad y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei rhoddi i chwi i’w meddiannu.

Rhufeiniaid 2:17-29

17 Wele, Iddew y’th elwir di, ac yr wyt yn gorffwys yn y ddeddf, ac yn gorfoleddu yn Nuw; 18 Ac yn gwybod ei ewyllys ef, ac yn darbod pethau rhagorol, gan fod wedi dy addysgu o’r ddeddf; 19 Ac yr wyt yn coelio dy fod yn dywysog i’r deillion, yn llewyrch i’r rhai sydd mewn tywyllwch, 20 Yn athro i’r angall, yn ddysgawdwr i’r rhai bach, a chennyt ffurf y gwybodaeth a’r gwirionedd yn y ddeddf. 21 Tydi, gan hynny, yr hwn wyt yn addysgu arall, oni’th ddysgi dy hun? yr hwn wyt yn pregethu, Na ladrater, a ladreti di? 22 Yr hwn wyt yn dywedyd, Na odineber, a odinebi di? yr hwn wyt yn ffieiddio delwau, a gysegrysbeili di? 23 Yr hwn wyt yn gorfoleddu yn y ddeddf, trwy dorri’r ddeddf a ddianrhydeddi di Dduw? 24 Canys enw Duw o’ch plegid chwi a geblir ymhlith y Cenhedloedd, megis y mae yn ysgrifenedig. 25 Canys enwaediad yn wir a wna les, os cedwi y ddeddf: eithr os troseddwr y ddeddf ydwyt, aeth dy enwaediad yn ddienwaediad. 26 Os y dienwaediad gan hynny a geidw gyfiawnderau y ddeddf, oni chyfrifir ei ddienwaediad ef yn enwaediad? 27 Ac oni bydd i’r dienwaediad yr hwn sydd o naturiaeth, os ceidw y ddeddf, dy farnu di, yr hwn wrth y llythyren a’r enwaediad wyt yn troseddu’r ddeddf? 28 Canys nid yr hwn sydd yn yr amlwg sydd Iddew; ac nid enwaediad yw yr hwn sydd yn yr amlwg yn y cnawd: 29 Eithr yr hwn sydd yn y dirgel sydd Iddew; ac enwaediad y galon sydd yn yr ysbryd, nid yn y llythyren; yr hwn y mae ei glod nid o ddynion, ond o Dduw.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.