Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
41 Deued i mi dy drugaredd, Arglwydd, a’th iachawdwriaeth yn ôl dy air. 42 Yna yr atebaf i’m cablydd: oherwydd yn dy air y gobeithiais. 43 Na ddwg dithau air y gwirionedd o’m genau yn llwyr: oherwydd yn dy farnedigaethau di y gobeithiais. 44 A’th gyfraith a gadwaf yn wastadol, byth ac yn dragywydd. 45 Rhodiaf hefyd mewn ehangder: oherwydd dy orchmynion di a geisiaf. 46 Ac am dy dystiolaethau di y llefaraf o flaen brenhinoedd, ac ni bydd cywilydd gennyf. 47 Ac ymddigrifaf yn dy orchmynion, y rhai a hoffais. 48 A’m dwylo a ddyrchafaf at dy orchmynion, y rhai a gerais; a mi a fyfyriaf yn dy ddeddfau.SAIN
16 Y dydd hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn gorchymyn i ti wneuthur y deddfau hyn a’r barnedigaethau: cadw dithau a gwna hwynt â’th holl galon, ac â’th holl enaid. 17 Cymeraist yr Arglwydd heddiw i fod yn Dduw i ti, ac i rodio yn ei ffyrdd ef, ac i gadw ei ddeddfau, a’i orchmynion, a’i farnedigaethau, ac i wrando ar ei lais ef. 18 Cymerodd yr Arglwydd dithau heddiw i fod yn bobl briodol iddo ef, megis y llefarodd wrthyt, ac i gadw ohonot ei holl orchmynion: 19 Ac i’th wneuthur yn uchel goruwch yr holl genhedloedd a wnaeth efe, mewn clod, ac mewn enw, ac mewn gogoniant; ac i fod ohonot yn bobl sanctaidd i’r Arglwydd dy Dduw, megis y llefarodd efe.
27 Yna y gorchmynnodd Moses, gyda henuriaid Israel, i’r bobl, gan ddywedyd Cedwch yr holl orchmynion yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw. 2 A bydded, yn y dydd yr elych dros yr Iorddonen i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, osod ohonot i ti gerrig mawrion, a chalcha hwynt â chalch. 3 Ac ysgrifenna arnynt holl eiriau y gyfraith hon, pan elych drosodd, i fyned i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, sef tir yn llifeirio o laeth a mêl; megis ag y llefarodd Arglwydd Dduw dy dadau wrthyt. 4 A phan eloch dros yr Iorddonen, gosodwch y cerrig hyn, yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw, ym mynydd Ebal, a chalcha hwynt â chalch. 5 Ac adeilada yno allor i’r Arglwydd dy Dduw, sef allor gerrig: na chyfod arnynt arf haearn. 6 A cherrig cyfain yr adeiledi allor yr Arglwydd dy Dduw; ac offryma arni boethoffrymau i’r Arglwydd dy Dduw. 7 Offryma hefyd hedd‐aberthau, a bwyta yno, a llawenycha gerbron yr Arglwydd dy Dduw.
16 Ac wele, un a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athro da, pa beth da a wnaf, fel y caffwyf fywyd tragwyddol? 17 Yntau a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? nid da neb ond un, sef Duw: ond os ewyllysi fyned i mewn i’r bywyd, cadw’r gorchmynion. 18 Efe a ddywedodd wrtho yntau, Pa rai? A’r Iesu a ddywedodd, Na ladd, Na odineba, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth, 19 Anrhydedda dy dad a’th fam, a Châr dy gymydog fel ti dy hun. 20 Y gŵr ieuanc a ddywedodd wrtho, Mi a gedwais y rhai hyn oll o’m hieuenctid: beth sydd yn eisiau i mi eto? 21 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os ewyllysi fod yn berffaith, dos, gwerth yr hyn sydd gennyt, a dyro i’r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, canlyn fi. 22 A phan glybu’r gŵr ieuanc yr ymadrodd, efe a aeth i ffordd yn drist: canys yr oedd yn berchen da lawer.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.