Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Gweddi Moses gŵr Duw.
90 Ti, Arglwydd, fuost yn breswylfa i ni ym mhob cenhedlaeth. 2 Cyn gwneuthur y mynyddoedd, a llunio ohonot y ddaear, a’r byd; ti hefyd wyt Dduw, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. 3 Troi ddyn i ddinistr; a dywedi, Dychwelwch, feibion dynion. 4 Canys mil o flynyddoedd ydynt yn dy olwg di fel doe, wedi yr êl heibio, ac fel gwyliadwriaeth nos. 5 Dygi hwynt ymaith megis â llifeiriant; y maent fel hun: y bore y maent fel llysieuyn a newidir. 6 Y bore y blodeua, ac y tyf; prynhawn y torrir ef ymaith, ac y gwywa.
13 Dychwel, Arglwydd, pa hyd? ac edifarha o ran dy weision. 14 Diwalla ni yn fore â’th drugaredd; fel y gorfoleddom ac y llawenychom dros ein holl ddyddiau. 15 Llawenha ni yn ôl y dyddiau y cystuddiaist ni, a’r blynyddoedd y gwelsom ddrygfyd. 16 Gweler dy waith tuag at dy weision, a’th ogoniant tuag at eu plant hwy. 17 A bydded prydferthwch yr Arglwydd ein Duw arnom ni: a threfna weithred ein dwylo ynom ni; ie, trefna waith ein dwylo.
44 A daeth Moses ac a lefarodd holl eiriau y gân hon lle y clybu’r bobl, efe a Josua mab Nun. 45 A darfu i Moses lefaru yr holl eiriau hyn wrth holl Israel: 46 A dywedodd wrthynt, Meddyliwch yn eich calonnau am yr holl eiriau yr ydwyf yn eu tystiolaethu wrthych heddiw; y rhai a orchmynnwch i’ch plant, i edrych am wneuthur holl eiriau y gyfraith hon. 47 Canys nid gair ofer yw hwn i chwi: oherwydd eich einioes chwi yw efe; a thrwy y gair hwn yr estynnwch ddyddiau yn y tir yr ydych yn myned iddo dros yr Iorddonen i’w feddiannu.
39 Chwiliwch yr ysgrythurau: canys ynddynt hwy yr ydych chwi yn meddwl cael bywyd tragwyddol: a hwynt‐hwy yw’r rhai sydd yn tystiolaethu amdanaf fi. 40 Ond ni fynnwch chwi ddyfod ataf fi, fel y caffoch fywyd. 41 Nid ydwyf fi yn derbyn gogoniant oddi wrth ddynion. 42 Ond myfi a’ch adwaen chwi, nad oes gennych gariad Duw ynoch. 43 Myfi a ddeuthum yn enw fy Nhad, ac nid ydych yn fy nerbyn i: os arall a ddaw yn ei enw ei hun, hwnnw a dderbyniwch. 44 Pa fodd y gellwch chwi gredu, y rhai ydych yn derbyn gogoniant gan eich gilydd, ac heb geisio’r gogoniant sydd oddi wrth Dduw yn unig? 45 Na thybiwch y cyhuddaf fi chwi wrth y Tad: y mae a’ch cyhudda chwi, sef Moses, yn yr hwn yr ydych yn gobeithio. 46 Canys pe credasech chwi i Moses, chwi a gredasech i minnau: oblegid amdanaf fi yr ysgrifennodd efe. 47 Ond os chwi ni chredwch i’w ysgrifeniadau ef, pa fodd y credwch i’m geiriau i?
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.