Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 90:1-6

Gweddi Moses gŵr Duw.

90 Ti, Arglwydd, fuost yn breswylfa i ni ym mhob cenhedlaeth. Cyn gwneuthur y mynyddoedd, a llunio ohonot y ddaear, a’r byd; ti hefyd wyt Dduw, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. Troi ddyn i ddinistr; a dywedi, Dychwelwch, feibion dynion. Canys mil o flynyddoedd ydynt yn dy olwg di fel doe, wedi yr êl heibio, ac fel gwyliadwriaeth nos. Dygi hwynt ymaith megis â llifeiriant; y maent fel hun: y bore y maent fel llysieuyn a newidir. Y bore y blodeua, ac y tyf; prynhawn y torrir ef ymaith, ac y gwywa.

Salmau 90:13-17

13 Dychwel, Arglwydd, pa hyd? ac edifarha o ran dy weision. 14 Diwalla ni yn fore â’th drugaredd; fel y gorfoleddom ac y llawenychom dros ein holl ddyddiau. 15 Llawenha ni yn ôl y dyddiau y cystuddiaist ni, a’r blynyddoedd y gwelsom ddrygfyd. 16 Gweler dy waith tuag at dy weision, a’th ogoniant tuag at eu plant hwy. 17 A bydded prydferthwch yr Arglwydd ein Duw arnom ni: a threfna weithred ein dwylo ynom ni; ie, trefna waith ein dwylo.

Deuteronomium 31:14-22

14 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Wele, nesaodd y dyddiau i ti i farw: galw Josua, a sefwch gerbron ym mhabell y cyfarfod, fel y rhoddwyf orchmynion iddo ef. Yna yr aeth Moses a Josua, ac a safasant gerbron ym mhabell y cyfarfod. 15 A’r Arglwydd a ymddangosodd yn y babell mewn colofn gwmwl: a’r golofn gwmwl a safodd ar ddrws y babell.

16 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Wele, ti a orweddi gyda’th dadau; a’r bobl yma a gyfyd, ac a buteiniant ar ôl duwiau dieithriaid y tir y maent yn myned i mewn iddo, ac a’m gwrthyd i, ac a dyr fy nghyfamod a wneuthum ag ef. 17 A’m dig a ennyn yn eu herbyn y dydd hwnnw; a mi a’u gwrthodaf hwynt, ac a guddiaf fy wyneb oddi wrthynt; a bwyteir ef, a drygau lawer a chyfyngderau a ddigwyddant iddo ef; a’r dydd hwnnw y dywed efe, Onid am nad yw yr Arglwydd yn fy mysg y digwyddodd y drwg hwn i mi? 18 Canys myfi gan guddio a guddiaf fy wyneb y dydd hwnnw, am yr holl ddrygioni a wnaeth efe, pan drodd at dduwiau dieithr. 19 Ysgrifennwch yr awr hon gan hynny i chwi y gân hon: dysg hi hefyd i feibion Israel, a gosod hi yn eu genau hwynt; fel y byddo y gân hon yn dyst i mi yn erbyn meibion Israel. 20 Canys dygaf ef i dir yn llifeirio o laeth a mêl, yr hwn a addewais trwy lw i’w dadau ef; fel y bwytao, ac y digoner, ac yr elo yn fras: ond efe a dry at dduwiau dieithr, ac a’u gwasanaetha hwynt, ac a’m dirmyga i, ac a ddiddyma fy nghyfamod. 21 Yna, pan ddigwyddo iddo ddrygau lawer a chyfyngderau, y bydd i’r gân hon dystiolaethu yn dyst yn ei wyneb ef: canys nid anghofir hi o enau ei had ef: oherwydd mi a adwaen ei fwriad y mae efe yn ei amcanu heddiw, cyn dwyn ohonof fi ef i’r tir a addewais trwy lw.

22 A Moses a ysgrifennodd y gân hon ar y dydd hwnnw, ac a’i dysgodd hi i feibion Israel.

Titus 1:5-16

Er mwyn hyn y’th adewais yn Creta, fel yr iawn drefnit y pethau sydd yn ôl, ac y gosodit henuriaid ym mhob dinas, megis yr ordeiniais i ti: Os yw neb yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, a chanddo blant ffyddlon, heb gael y gair o fod yn afradlon, neu yn anufudd: Canys rhaid i esgob fod yn ddiargyhoedd, fel goruchwyliwr Duw; nid yn gyndyn, nid yn ddicllon, nid yn wingar, nid yn drawydd, nid yn budrelwa; Eithr yn lletygar, yn caru daioni, yn sobr, yn gyfiawn, yn sanctaidd, yn dymherus; Yn dal yn lew y gair ffyddlon yn ôl yr addysg, fel y gallo gynghori yn yr athrawiaeth iachus, ac argyhoeddi’r rhai sydd yn gwrthddywedyd. 10 Canys y mae llawer yn anufudd, yn ofer‐siaradus, ac yn dwyllwyr meddyliau, yn enwedig y rhai o’r enwaediad: 11 Y rhai y mae yn rhaid cau eu safnau, y rhai sydd yn dymchwelyd tai cyfain, gan athrawiaethu’r pethau ni ddylid, er mwyn budrelw. 12 Un ohonynt hwy eu hunain, un o’u proffwydi hwy eu hunain, a ddywedodd, Y Cretiaid sydd bob amser yn gelwyddog, drwg fwystfilod, boliau gorddïog. 13 Y dystiolaeth hon sydd wir. Am ba achos argyhoedda hwy yn llym, fel y byddont iach yn y ffydd; 14 Heb ddal ar chwedlau Iddewaidd, a gorchmynion dynion, yn troi oddi wrth y gwirionedd. 15 Pur yn ddiau yw pob peth i’r rhai pur: eithr i’r rhai halogedig a’r di‐ffydd, nid pur dim; eithr halogedig yw hyd yn oed eu meddwl a’u cydwybod hwy. 16 Y maent yn proffesu yr adwaenant Dduw; eithr ar weithredoedd ei wadu y maent, gan fod yn ffiaidd, ac yn anufudd, ac at bob gweithred dda yn anghymeradwy.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.