Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 63:1-8

Salm Dafydd, pan oedd efe yn niffeithwch Jwda.

63 Ti, O Dduw, yw fy Nuw i; yn fore y’th geisiaf: sychedodd fy enaid amdanat, hiraethodd fy nghnawd amdanat, mewn tir cras a sychedig heb ddwfr; I weled dy nerth a’th ogoniant, fel y’th welais yn y cysegr. Canys gwell yw dy drugaredd di na’r bywyd: fy ngwefusau a’th foliannant. Fel hyn y’th glodforaf yn fy mywyd: dyrchafaf fy nwylo yn dy enw. Megis â mer ac â braster y digonir fy enaid; a’m genau a’th fawl â gwefusau llafar: Pan y’th gofiwyf ar fy ngwely, myfyriaf amdanat yng ngwyliadwriaethau y nos. Canys buost gynhorthwy i mi; am hynny yng nghysgod dy adenydd y gorfoleddaf. Fy enaid a lŷn wrthyt: dy ddeheulaw a’m cynnal.

Numeri 12:1-9

12 Llefarodd Miriam hefyd ac Aaron yn erbyn Moses, o achos y wraig o Ethiopia yr hon a briodasai efe: canys efe a gymerasai Ethiopes yn wraig. A dywedasant, Ai yn unig trwy Moses y llefarodd yr Arglwydd? oni lefarodd efe trwom ninnau hefyd? A’r Arglwydd a glybu hynny. A’r gŵr Moses ydoedd larieiddiaf o’r holl ddynion oedd ar wyneb y ddaear. A dywedodd yr Arglwydd yn ddisymwth wrth Moses, ac wrth Aaron, ac wrth Miriam, Deuwch allan eich trioedd i babell y cyfarfod. A hwy a aethant allan ill trioedd. Yna y disgynnodd yr Arglwydd yng ngholofn y cwmwl, ac a safodd wrth ddrws y babell, ac a alwodd Aaron a Miriam. A hwy a aethant allan ill dau. Ac efe a ddywedodd, Gwrandewch yr awr hon fy ngeiriau. Os bydd proffwyd yr Arglwydd yn eich mysg, mewn gweledigaeth yr ymhysbysaf iddo, neu mewn breuddwyd y llefaraf wrtho. Nid felly y mae fy ngwas Moses, yr hwn sydd ffyddlon yn fy holl dŷ. Wyneb yn wyneb y llefaraf wrtho, mewn gwelediad, nid mewn damhegion; ond caiff edrych ar wedd yr Arglwydd: paham gan hynny nad oeddech yn ofni dywedyd yn erbyn fy ngwas, sef yn erbyn Moses? A digofaint yr Arglwydd a enynnodd yn eu herbyn hwynt; ac efe a aeth ymaith.

Datguddiad 18:21-24

21 Ac angel cadarn a gododd faen megis maen melin mawr, ac a’i bwriodd i’r môr, gan ddywedyd, Fel hyn gyda rhuthr y teflir Babilon, y ddinas fawr, ac ni cheir hi mwyach. 22 A llais telynorion, a cherddorion, a phibyddion, ac utganwyr, ni chlywir ynot mwyach: ac un crefftwr, o ba grefft bynnag y bo, ni cheir ynot mwyach; a thrwst maen melin ni chlywir ynot mwyach; 23 A llewyrch cannwyll ni welir ynot mwyach; a llais priodasfab a phriodasferch ni chlywir ynot mwyach: oblegid dy farchnatawyr di oedd wŷr mawr y ddaear: oblegid trwy dy swyn-gyfaredd di y twyllwyd yr holl genhedloedd. 24 Ac ynddi y caed gwaed proffwydi a saint, a phawb a’r a laddwyd ar y ddaear.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.