Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
99 Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; cryned y bobloedd: eistedd y mae rhwng y ceriwbiaid; ymgynhyrfed y ddaear. 2 Mawr yw yr Arglwydd yn Seion, a dyrchafedig yw efe goruwch yr holl bobloedd. 3 Moliannant dy enw mawr ac ofnadwy; canys sanctaidd yw. 4 A nerth y Brenin a hoffa farn: ti a sicrhei uniondeb, barn a chyfiawnder a wnei di yn Jacob. 5 Dyrchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ymgrymwch o flaen ei ystôl draed ef: canys sanctaidd yw. 6 Moses ac Aaron ymhlith ei offeiriaid ef; a Samuel ymysg y rhai a alwant ar ei enw: galwasant ar yr Arglwydd, ac efe a’u gwrandawodd hwynt. 7 Llefarodd wrthynt yn y golofn gwmwl: cadwasant ei dystiolaethau, a’r ddeddf a roddodd efe iddynt. 8 Gwrandewaist arnynt, O Arglwydd ein Duw: Duw oeddit yn eu harbed, ie, pan ddielit am eu dychmygion. 9 Dyrchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ymgrymwch ar ei fynydd sanctaidd: canys sanctaidd yw yr Arglwydd ein Duw.
32 Felly y gorffennwyd holl waith y tabernacl, sef pabell y cyfarfod: a meibion Israel a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses; felly y gwnaethant.
33 Dygasant hefyd y tabernacl at Moses, y babell a’i holl ddodrefn, ei bachau, ei hystyllod, ei barrau, a’i cholofnau, a’i morteisiau, 34 A’r to o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a’r to o grwyn daearfoch, a’r llen wahan yr hon oedd yn gorchuddio; 35 Arch y dystiolaeth, a’i throsolion, a’r drugareddfa; 36 Y bwrdd hefyd, a’i holl lestri, a’r bara dangos; 37 Y canhwyllbren pur, a’i lampau, a’r lampau i’w gosod mewn trefn, ei holl lestri, ac olew i’r goleuni; 38 A’r allor aur, ac olew yr eneiniad, a’r arogl‐darth llysieuog, a chaeadlen drws y babell; 39 Yr allor bres, a’r alch bres yr hon oedd iddi, ei throsolion, a’i holl lestri; y noe a’i throed; 40 Llenni’r cynteddfa, ei golofnau, a’i forteisiau, a chaeadlen porth y cynteddfa, ei rhaffau, a’i hoelion, a holl ddodrefn gwasanaeth y tabernacl, sef pabell y cyfarfod; 41 Gwisgoedd y weinidogaeth i weini yn y cysegr, sanctaidd wisgoedd Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef i offeiriadu. 42 Yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaeth meibion Israel yr holl waith. 43 A Moses a edrychodd ar yr holl waith; ac wele, hwy a’i gwnaethant megis y gorchmynasai yr Arglwydd, felly y gwnaethent: a Moses a’u bendithiodd hwynt.
14 Y pryd hwnnw y clybu Herod y tetrarch sôn am yr Iesu; 2 Ac efe a ddywedodd wrth ei weision, Hwn yw Ioan Fedyddiwr: efe a gyfododd o feirw; ac am hynny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef.
3 Canys Herod a ddaliasai Ioan, ac a’i rhwymasai, ac a’i dodasai yng ngharchar, oblegid Herodias, gwraig Phylip ei frawd ef. 4 Canys Ioan a ddywedodd wrtho, Nid cyfreithlon i ti ei chael hi. 5 Ac efe yn ewyllysio ei roddi ef i farwolaeth, a ofnodd y dyrfa; canys hwy a’i cymerent ef megis proffwyd. 6 Eithr pan gadwyd dydd genedigaeth Herod, y dawnsiodd merch Herodias ger eu bron hwy, ac a ryngodd fodd Herod. 7 O ba herwydd efe a addawodd, trwy lw, roddi iddi beth bynnag a ofynnai. 8 A hithau, wedi ei rhagddysgu gan ei mam, a ddywedodd, Dyro i mi yma ben Ioan Fedyddiwr mewn dysgl. 9 A’r brenin a fu drist ganddo: eithr oherwydd y llw, a’r rhai a eisteddent gydag ef wrth y ford, efe a orchmynnodd ei roi ef iddi. 10 Ac efe a anfonodd, ac a dorrodd ben Ioan yn y carchar. 11 A ducpwyd ei ben ef mewn dysgl, ac a’i rhoddwyd i’r llances: a hi a’i dug ef i’w mam. 12 A’i ddisgyblion ef a ddaethant, ac a gymerasant ei gorff ef, ac a’i claddasant; ac a aethant, ac a fynegasant i’r Iesu.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.