Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
99 Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; cryned y bobloedd: eistedd y mae rhwng y ceriwbiaid; ymgynhyrfed y ddaear. 2 Mawr yw yr Arglwydd yn Seion, a dyrchafedig yw efe goruwch yr holl bobloedd. 3 Moliannant dy enw mawr ac ofnadwy; canys sanctaidd yw. 4 A nerth y Brenin a hoffa farn: ti a sicrhei uniondeb, barn a chyfiawnder a wnei di yn Jacob. 5 Dyrchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ymgrymwch o flaen ei ystôl draed ef: canys sanctaidd yw. 6 Moses ac Aaron ymhlith ei offeiriaid ef; a Samuel ymysg y rhai a alwant ar ei enw: galwasant ar yr Arglwydd, ac efe a’u gwrandawodd hwynt. 7 Llefarodd wrthynt yn y golofn gwmwl: cadwasant ei dystiolaethau, a’r ddeddf a roddodd efe iddynt. 8 Gwrandewaist arnynt, O Arglwydd ein Duw: Duw oeddit yn eu harbed, ie, pan ddielit am eu dychmygion. 9 Dyrchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ymgrymwch ar ei fynydd sanctaidd: canys sanctaidd yw yr Arglwydd ein Duw.
31 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 2 Gwêl, mi a elwais wrth ei enw ar Besaleel fab Uri, fab Hur, o lwyth Jwda; 3 Ac a’i llenwais ef ag ysbryd Duw, mewn doethineb, ac mewn deall, ac mewn gwybodaeth hefyd, ac ym mhob rhyw waith, 4 I ddychmygu cywreinrwydd, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pres, 5 Ac mewn cyfarwyddyd, i osod meini, ac mewn saernïaeth pren, i weithio ym mhob gwaith. 6 Ac wele, mi a roddais gydag ef Aholïab fab Achisamach, o lwyth Dan: ac yng nghalon pob doeth o galon y rhoddais ddoethineb i wneuthur yr hyn oll a orchmynnais wrthyt. 7 Pabell y cyfarfod, ac arch y dystiolaeth, a’r drugareddfa yr hon sydd arni, a holl lestri y babell, 8 A’r bwrdd a’i lestri, a’r canhwyllbren pur a’i holl lestri, ac allor yr arogl‐darth, 9 Ac allor y poethoffrwm a’i holl lestri, a’r noe a’i throed, 10 A gwisgoedd y weinidogaeth, a’r gwisgoedd sanctaidd i Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef, i offeiriadu ynddynt, 11 Ac olew yr eneiniad, a’r arogl‐darth peraidd i’r cysegr; a wnânt yn ôl yr hyn oll a orchmynnais wrthyt.
5 Yr henuriaid sydd yn eich plith, atolwg iddynt yr ydwyf fi, yr hwn wyf gyd-henuriad, a thyst o ddioddefiadau Crist, yr hwn hefyd wyf gyfrannog o’r gogoniant a ddatguddir: 2 Porthwch braidd Duw, yr hwn sydd yn eich plith, gan fwrw golwg arnynt; nid trwy gymell, eithr yn ewyllysgar; nid er mwyn budrelw, eithr o barodrwydd meddwl; 3 Nid fel rhai yn tra-arglwyddiaethu ar etifeddiaeth Duw, ond gan fod yn esamplau i’r praidd. 4 A phan ymddangoso’r Pen-bugail, chwi a gewch dderbyn anniflanedig goron y gogoniant. 5 Yr un ffunud yr ieuainc, byddwch ostyngedig i’r henuriaid. A byddwch bawb yn ostyngedig i’ch gilydd, ac ymdrwsiwch oddi fewn â gostyngeiddrwydd: oblegid y mae Duw yn gwrthwynebu’r beilchion, ac yn rhoddi gras i’r rhai gostyngedig.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.