Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
97 Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; gorfoledded y ddaear: llawenyched ynysoedd lawer. 2 Cymylau a thywyllwch sydd o’i amgylch ef: cyfiawnder a barn yw trigfa ei orseddfainc ef. 3 Tân a â allan o’i flaen ef, ac a lysg ei elynion o amgylch. 4 Ei fellt a lewyrchasant y byd: y ddaear a welodd, ac a grynodd. 5 Y mynyddoedd a doddasant fel cwyr o flaen yr Arglwydd, o flaen Arglwydd yr holl ddaear. 6 Y nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef, a’r holl bobl a welant ei ogoniant. 7 Gwaradwydder y rhai oll a wasanaethant ddelw gerfiedig, y rhai a ymffrostiant mewn eilunod: addolwch ef, yr holl dduwiau. 8 Seion a glywodd, ac a lawenychodd; a merched Jwda a orfoleddasant, oherwydd dy farnedigaethau di, O Arglwydd. 9 Canys ti, Arglwydd, wyt oruchel goruwch yr holl ddaear: dirfawr y’th ddyrchafwyd goruwch yr holl dduwiau. 10 Y rhai a gerwch yr Arglwydd, casewch ddrygioni: efe sydd yn cadw eneidiau ei saint; efe a’u gwared o law y rhai annuwiol. 11 Heuwyd goleuni i’r cyfiawn, a llawenydd i’r rhai uniawn o galon. 12 Y rhai cyfiawn, llawenychwch yn yr Arglwydd; a moliennwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef.
7 Felly y bu, am i feibion Israel bechu yn erbyn yr Arglwydd eu Duw, yr hwn a’u dygasai hwynt i fyny o wlad yr Aifft, oddi tan law Pharo brenin yr Aifft, ac am iddynt ofni duwiau dieithr, 8 A rhodio yn neddfau y cenhedloedd, y rhai a fwriasai yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel, ac yn y deddfau a wnaethai brenhinoedd Israel. 9 A meibion Israel a wnaethant yn ddirgel bethau nid oedd uniawn yn erbyn yr Arglwydd eu Duw, ac a adeiladasant iddynt uchelfeydd yn eu holl ddinasoedd, o dŵr y gwylwyr hyd y ddinas gaerog. 10 Gosodasant hefyd iddynt ddelwau a llwyni ar bob bryn uchel, a than bob pren irlas: 11 Ac a arogldarthasant yno yn yr holl uchelfeydd, fel y cenhedloedd y rhai a gaethgludasai yr Arglwydd o’u blaen hwynt; a gwnaethant bethau drygionus i ddigio’r Arglwydd. 12 A hwy a wasanaethasant eilunod, am y rhai y dywedasai yr Arglwydd wrthynt, Na wnewch y peth hyn. 13 Er i’r Arglwydd dystiolaethu yn erbyn Israel, ac yn erbyn Jwda, trwy law yr holl broffwydi, a phob gweledydd, gan ddywedyd, Dychwelwch o’ch ffyrdd drygionus, a chedwch fy ngorchmynion, a’m deddfau, yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnais i’ch tadau, a’r hon a anfonais atoch trwy law fy ngweision y proffwydi. 14 Eto ni wrandawsant, eithr caledasant eu gwarrau fel gwarrau eu tadau, y rhai ni chredasant yn yr Arglwydd eu Duw. 15 A hwy a ddirmygasant ei ddeddfau ef, a’i gyfamod yr hwn a wnaethai efe â’u tadau hwynt, a’i dystiolaethau ef y rhai a dystiolaethodd efe i’w herbyn; a rhodiasant ar ôl oferedd, ac a aethant yn ofer: aethant hefyd ar ôl y cenhedloedd y rhai oedd o’u hamgylch, am y rhai y gorchmynasai yr Arglwydd iddynt, na wnelent fel hwynt. 16 A hwy a adawsant holl orchmynion yr Arglwydd eu Duw, ac a wnaethant iddynt ddelwau tawdd, nid amgen dau lo: gwnaethant hefyd lwyn, ac ymgrymasant i holl lu y nefoedd, a gwasanaethasant Baal. 17 A hwy a dynasant eu meibion a’u merched trwy’r tân, ac a arferasant ddewiniaeth, a swynion, ac a ymwerthasant i wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, i’w ddigio ef. 18 Am hynny yr Arglwydd a ddigiodd yn ddirfawr wrth Israel, ac a’u bwriodd hwynt allan o’i olwg: ni adawyd ond llwyth Jwda yn unig. 19 Ni chadwodd Jwda chwaith orchmynion yr Arglwydd eu Duw, eithr rhodiasant yn neddfau Israel y rhai a wnaethent hwy. 20 A’r Arglwydd a ddiystyrodd holl had Israel, ac a’u cystuddiodd hwynt, ac a’u rhoddodd hwynt yn llaw anrheithwyr, nes iddo eu bwrw allan o’i olwg.
25 Ac wedi iddynt ei gael ef y tu hwnt i’r môr, hwy a ddywedasant wrtho, Rabbi, pa bryd y daethost ti yma? 26 Yr Iesu a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr ydych chwi yn fy ngheisio i, nid oherwydd i chwi weled y gwyrthiau, eithr oherwydd i chwi fwyta o’r torthau, a’ch digoni. 27 Llafuriwch nid am y bwyd a dderfydd, eithr am y bwyd a bery i fywyd tragwyddol, yr hwn a ddyry Mab y dyn i chwi: canys hwn a seliodd Duw Dad. 28 Yna y dywedasant wrtho, Pa beth a wnawn ni, fel y gweithredom weithredoedd Duw? 29 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Hyn yw gwaith Duw; credu ohonoch yn yr hwn a anfonodd efe. 30 Dywedasant gan hynny wrtho ef, Pa arwydd yr ydwyt ti yn ei wneuthur, fel y gwelom, ac y credom i ti? pa beth yr wyt ti yn ei weithredu? 31 Ein tadau ni a fwytasant y manna yn yr anialwch, fel y mae yn ysgrifenedig, Efe a roddodd iddynt fara o’r nef i’w fwyta. 32 Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Nid Moses a roddodd i chwi’r bara o’r nef: eithr fy Nhad sydd yn rhoddi i chwi’r gwir fara o’r nef. 33 Canys bara Duw ydyw’r hwn sydd yn dyfod i waered o’r nef, ac yn rhoddi bywyd i’r byd. 34 Yna hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, dyro i ni’r bara hwn yn wastadol. 35 A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw bara’r bywyd. Yr hwn sydd yn dyfod ataf fi, ni newyna; a’r hwn sydd yn credu ynof fi, ni sycheda un amser.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.