Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 97

97 Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; gorfoledded y ddaear: llawenyched ynysoedd lawer. Cymylau a thywyllwch sydd o’i amgylch ef: cyfiawnder a barn yw trigfa ei orseddfainc ef. Tân a â allan o’i flaen ef, ac a lysg ei elynion o amgylch. Ei fellt a lewyrchasant y byd: y ddaear a welodd, ac a grynodd. Y mynyddoedd a doddasant fel cwyr o flaen yr Arglwydd, o flaen Arglwydd yr holl ddaear. Y nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef, a’r holl bobl a welant ei ogoniant. Gwaradwydder y rhai oll a wasanaethant ddelw gerfiedig, y rhai a ymffrostiant mewn eilunod: addolwch ef, yr holl dduwiau. Seion a glywodd, ac a lawenychodd; a merched Jwda a orfoleddasant, oherwydd dy farnedigaethau di, O Arglwydd. Canys ti, Arglwydd, wyt oruchel goruwch yr holl ddaear: dirfawr y’th ddyrchafwyd goruwch yr holl dduwiau. 10 Y rhai a gerwch yr Arglwydd, casewch ddrygioni: efe sydd yn cadw eneidiau ei saint; efe a’u gwared o law y rhai annuwiol. 11 Heuwyd goleuni i’r cyfiawn, a llawenydd i’r rhai uniawn o galon. 12 Y rhai cyfiawn, llawenychwch yn yr Arglwydd; a moliennwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef.

Exodus 32:15-35

15 A Moses a drodd, ac a ddaeth i waered o’r mynydd, a dwy lech y dystiolaeth yn ei law: y llechau a ysgrifenasid o’u dau du; hwy a ysgrifenasid o bob tu. 16 A’r llechau hynny oedd o waith Duw: yr ysgrifen hefyd oedd ysgrifen Duw yn ysgrifenedig ar y llechau. 17 A phan glywodd Josua sŵn y bobl yn bloeddio, efe a ddywedodd wrth Moses, Y mae sŵn rhyfel yn y gwersyll. 18 Yntau a ddywedodd, Nid llais bloeddio am oruchafiaeth, ac nid llais gweiddi am golli’r maes; ond sŵn canu a glywaf fi.

19 A bu, wedi dyfod ohono yn agos i’r gwersyll, iddo weled y llo a’r dawnsiau: ac enynnodd digofaint Moses: ac efe a daflodd y llechau o’i ddwylo ac a’u torrodd hwynt islaw y mynydd. 20 Ac efe a gymerodd y llo a wnaethent hwy, ac a’i llosgodd â thân, ac a’i malodd yn llwch, ac a’i taenodd ar wyneb y dwfr, ac a’i rhoddes i’w yfed i feibion Israel. 21 A dywedodd Moses wrth Aaron, Beth a wnaeth y bobl hyn i ti, pan ddygaist arnynt bechod mor fawr? 22 A dywedodd Aaron, Nac enynned digofaint fy arglwydd: ti a adwaenost y bobl, mai ar ddrwg y maent. 23 Canys dywedasant wrthyf, Gwna i ni dduwiau i fyned o’n blaen: canys y Moses hwn, y gŵr a’n dug ni i fyny o wlad yr Aifft, ni wyddom beth a ddaeth ohono. 24 A dywedais wrthynt, I’r neb y mae aur, tynnwch ef: a hwy a’i rhoddasant i mi: a mi a’i bwriais yn tân, a daeth y llo hwn allan.

25 A phan welodd Moses fod y bobl yn noeth, (canys Aaron a’u noethasai hwynt, i’w gwaradwyddo ymysg eu gelynion;) 26 Yna y safodd Moses ym mhorth y gwersyll, ac a ddywedodd, Pwy sydd ar du’r Arglwydd? deued ataf fi. A holl feibion Lefi a ymgasglasant ato ef. 27 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel; Gosodwch bob un ei gleddyf ar ei glun, ac ewch, cyniweiriwch o borth i borth trwy’r gwersyll, a lleddwch bob un ei frawd, a phob un ei gyfaill, a phob un ei gymydog. 28 A meibion Lefi a wnaethant yn ôl gair Moses: a chwympodd o’r bobl y dydd hwnnw ynghylch tair mil o wŷr. 29 Canys dywedasai Moses, Cysegrwch eich llaw heddiw i’r Arglwydd, bob un ar ei fab, ac ar ei frawd; fel y rhodder heddiw i chwi fendith.

30 A thrannoeth y dywedodd Moses wrth y bobl, Chwi a bechasoch bechod mawr: ac yn awr mi a af i fyny at yr Arglwydd; ond odid mi a wnaf gymod dros eich pechod chwi. 31 A Moses a ddychwelodd at yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Och! pechodd y bobl hyn bechod mawr, ac a wnaethant iddynt dduwiau o aur. 32 Ac yn awr, os maddeui eu pechod; ac os amgen, dilea fi, atolwg, allan o’th lyfr a ysgrifennaist. 33 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pwy bynnag a bechodd i’m herbyn, hwnnw a ddileaf allan o’m llyfr. 34 Am hynny dos yn awr, arwain y bobl i’r lle a ddywedais wrthyt: wele, fy angel a â o’th flaen di: a’r dydd yr ymwelwyf, yr ymwelaf â hwynt am eu pechod. 35 A’r Arglwydd a drawodd y bobl, am iddynt wneuthur y llo a wnaethai Aaron.

Jwdas 17-25

17 Eithr chwi, O rai annwyl, cofiwch y geiriau a ragddywedwyd gan apostolion ein Harglwydd Iesu Grist; 18 Ddywedyd ohonynt i chwi, y bydd yn yr amser diwethaf watwarwyr, yn cerdded yn ôl eu chwantau annuwiol eu hunain. 19 Y rhai hyn yw’r rhai sydd yn eu didoli eu hunain, yn anianol, heb fod yr Ysbryd ganddynt. 20 Eithr chwychwi, anwylyd, gan eich adeiladu eich hunain ar eich sancteiddiaf ffydd, a gweddïo yn yr Ysbryd Glân, 21 Ymgedwch yng nghariad Duw, gan ddisgwyl trugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragwyddol. 22 A thrugarhewch wrth rai, gan wneuthur rhagor: 23 Eithr rhai cedwch trwy ofn, gan eu cipio hwy allan o’r tân; gan gasáu hyd yn oed y wisg a halogwyd gan y cnawd. 24 Eithr i’r hwn a ddichon eich cadw chwi yn ddi-gwymp, a’ch gosod gerbron ei ogoniant ef yn ddifeius mewn gorfoledd, 25 I’r unig ddoeth Dduw, ein Hiachawdwr ni, y byddo gogoniant a mawredd, gallu ac awdurdod, yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.